MORGAN, THOMAS JOHN (1907-1986), ysgolhaig a llenor Cymraeg

Enw: Thomas John Morgan
Dyddiad geni: 1907
Dyddiad marw: 1986
Priod: Huana Morgan (née Rees)
Plentyn: Prys Tomos Jon Morgan
Plentyn: Hywel Rhodri Morgan
Rhiant: Ann Morgan (née Phillips)
Rhiant: William Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig a llenor Cymraeg
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd T. J. Morgan ar 22 Ebrill 1907 ym mhentre'r Glais, Cwm Tawe, cymdogaeth fwy neu lai uniaith Gymraeg y pryd hynny, yr ieuengaf o ddau fab William Morgan, glöwr, a'i wraig Annie. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol gynradd leol ac yna yn ysgol uwchradd Pontardawe cyn mynd i Goleg Prifysgol Abertawe lle y chwaraeodd yn nhîm rygbi'r coleg ac ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1928. Byddai Henry Lewis, yr Athro a phennaeth yr adran, yn codi to o ymchwilwyr iaith disglair dros y blynyddoedd nesaf a denwyd T. J. Morgan i ddechrau ymchwil ar gystrawennau'r ferf mewn Cymraeg Canol. Treuliodd y flwyddyn academaidd 1929-30 yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn yn astudio Hen Wyddeleg gydag Osborn Bergin a chyflwynodd ei draethawd MA (Cymru) yn 1930. Etholwyd ef i gymrodoriaeth Prifysgol Cymru ond ni allai ei derbyn gan iddo gael ei benodi i swydd darlithydd cynorthwyol yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd lle'r oedd W. J. Gruffydd yn Athro.

Bu'n darlithio yn yr adran Gymraeg yng Nghaerdydd gan ymchwilio a chyhoeddi'n ddyfal hyd 1951 (gyda chyfnod yn gweithio i'r Weinyddiaeth Lafur a Gwasanaeth Cenedlaethol o 1941 hyd 1945), a'r flwyddyn honno penodwyd ef yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru a'i swyddfa yng Nghaerdydd. Bu yn y swydd honno am ddeng mlynedd cyn dychwelyd i'r byd academaidd yn 1961 yn Athro'r Gymraeg yng ngholeg Abertawe. Ymddeolodd yn 1975 wedi treulio 1971-75 yn Is-brifathro Academaidd. Trwy gydol ei yrfa bu 'TJ' yn weithgar mewn llawer cylch cyhoeddus: beirniadai'n gyson yn yr eisteddfod genedlaethol a gwasanaethu ar bwyllgorau ei Chyngor, bu'n gadeirydd pwyllgor llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru 1967-72, ac yr oedd yn un o sylfaenwyr yr Academi Gymreig, bu'n aelod o lys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llys Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dyfarnwyd iddo gan Brifysgol Cymru radd D.Litt. ar sail ei brif gyhoeddiadau yn 1952, a Ll.D. er anrhydedd yn 1976. Bu'n gyd-olygydd Y Llenor (gyda W. J. Gruffydd) 1946-51, ac ef a olygydd rifyn coffa W. J. Gruffydd yn 1955.

Dechreuodd T. J. Morgan gyhoeddi ei ymchwil ar gystrawennau'r ferf ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn 1931 yn fuan wedi'i benodi i'w swydd yng Nghaerdydd, a chafwyd ganddo amryw nodiadau ieithyddol pellach ar eiriau, cystrawennau ac ymadroddion unigol o bryd i'w gilydd. Ni chollodd ei ddiddordeb gwybodus mewn cystrawen (fel y dengys ei adolygiad llym o Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (Melville Richards, 1938) yn Y Llenor 17 (1938), 238-48) a chyrhaeddodd hyn ei uchafbwynt yn Y Treigladau a'u Cystrawen (1952). Hwn yw'r unig ddadansoddiad trylwyr o amrywiaeth arferion treiglo'r Gymraeg wedi'i sylfaenu ar dystiolaeth gweithiau o bob math, cyhoeddedig ac mewn llawysgrif, ac ar wybodaeth eang o iaith lafar llawer ardal. Yn ogystal â'i waith ieithyddol, bu'n cyhoeddi'n helaeth ar bynciau llenyddol, yn arbennig Daniel Owen, T. Gwynn Jones, T. H. Parry-Williams, ac yn fwy dadansoddol ar arddulliau llenyddol, e.e. 'Arddull yr awdl a'r cywydd' (1946-47), 'Rhyddiaith Gymraeg' (1948), 'Dadansoddi'r Gogynfeirdd' (1950), a chasglwyd nifer o'i erthyglau yn Ysgrifau Llenyddol (1951).

Ffrwyth myfyrio cyson ar awduron a chyfansoddiadau llenyddol sydd yn ei erthyglau, adolygiadau a beirniadaethau ac nid annisgwyl yw gweld natur cyhoeddiadau T. J. Morgan yn newid beth rhwng 1951 a 1961 pan oedd yn weinyddwr llawn amser. Bu'n llenydda ers ei ddyddiau cynnar; ymddangosodd casgliadau o ysgrifau, Dal Llygoden yn 1937, Trwm ac Ysgafn yn 1945 a Cynefin yn 1948. Bu wrthi trwy gydol ei fywyd yn llunio cerddi ac ysgrifau llenyddol yn bennaf a gyhoeddwyd yn y cyfnodolion Cymraeg ac yna mewn casgliadau, a chafwyd cyfrolau o ysgrifau a cherddi ganddo yn 1966, 1969, 1971, a 1972. Mae elfen hunangofiannol gref mewn llawer o'i ysgrifau, nid yn yr ystyr fod yr awdur yn hel atgofion personol a theuluol ond bod y gymuned y magwyd ef ynddi yng Nghwm Tawe wedi llywio ei agwedd at fywyd a rhoi iddo olwg ar gymdeithas wâr a'i safonau. Y mae cariad a pharch 'TJ' at ddiwylliant y gymdeithas honno, ei cherddoriaeth, ei heisteddfodau a'i chyd-dynnu yn arbennig, yn amlwg. Disgrifiodd ei fagwriaeth mewn sgwrs radio a gyhoeddwyd yn 1971 yn Y Llwybrau Gynt (gol. Alun Oldfield-Davies) a thestun ei ddarlith agoriadol yn Abertawe yn 1961 oedd 'Peasant Culture', a helaethwyd yn Gymraeg yn y casgliad o ysgrifau Diwylliant Gwerin (1970), cyfrol sy'n cynnwys yn ogystal nifer o erthyglau o feirniadaeth lenyddol. Cymraeg sgwrsio'r gymdeithas hon hefyd a roes iddo gyfoeth ei iaith a'i ddawn i draethu'n ddifyr ar bob math o bynciau ac i ysgrifennu'n afaelgar mewn trafodaethau dyrys ysgolheigaidd megis Y Treigladau a'u Cystrawen. Yr oedd T. J. Morgan yn ŵr eang ei ddiwylliant, yn llenyddol, yn gerddorol ac yn ei ddiddordeb mewn celfyddyd gain, a daeth beirniadeth lenyddol a hanes llên yn amlycach yn ei waith wrth ddychwelyd i fyd addysgu yn y brifysgol; parhâi i gyhoeddi erthyglau a nodiadau hyd ei farw. Yr oedd ei brosiect ymchwil olaf yn wahanol i'r cyfan a fu o'r blaen. Yn Rhagfyr 1985 cyhoeddodd gyda'i fab Prys, Welsh Surnames, astudiaeth arloesol o gyfenwau'r Cymry a thrafodaeth ar ddatblygiad y system enwi Gymraeg.

Yr oedd 'TJ' yn athro penigamp, yn bwyllgorddyn ac yn weinyddwr craff ac yn ŵr â dogn dda o hiwmor ffraeth yn ei gymeriad. Mewn cerdd gamarweiniol o ysgafn soniodd am obeithion ei nefoedd:

Byddaf fodlon dihatru pob traethu call
I esbonio hyn a dehongli'r llall,
A holl uchelgais y ceffyl blaen
Neu'r gŵr a fyn gerfio'i enw ar faen;

Os caf deimlo pêl wynt - heb fod yn gron-
Ar Sadyrnau'r nef, a'r hen nwyf dan fy mron;
A chadw'n oes-oesoedd, beth bynnag fy hynt,
Y cof am gwmnïaeth wybuaswn gynt;
A'r diddanwch mwyn sy mewn gair a chystrawen,
A'r awydd i blethu llywethau'r awen.

Cynefin, td. 127.

Priododd â Huana Rees yn 1935 (hithau wedi graddio yn y Gymraeg yn Abertawe) a chawsant ddau fab, Prys sy'n hanesydd adnabyddus, a Rhodri, gwleidydd amlwg. Bu farw T. J. Morgan yn sydyn yn ei gartef yn Llandeilo Ferwallt, Penrhyn Gŵyr, 9 Rhagfyr 1986. Bu'r gwasanaeth angladdol 15 Rhagfyr yng nghapel Bethel, Sgeti, Abertawe a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Coed Gwilym, Clydach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-05-11

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.