Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES, ELEN ROGER (1908-1999), actores ac athrawes.

Ganwyd Elen Roger Jones ar 27 Awst 1908 ym Marian-Glas, Ynys Môn, yn ferch i William Griffith (1873-1935), Ysgrifennydd Pwyllgor Addysg Môn, a'i wraig Mary (g. Williams, m. 1961). Plentyn cyntaf William oedd Elen a'r ail blentyn i Mary, wedi iddi gael mab gyda'i gŵr blaenorol, capten a fu farw mewn storm wrth deithio ar long ychydig fisoedd cyn genedigaeth eu plentyn, a gafodd ei enwi'n Thomas er cof am ei dad. Cyn pen dwy flynedd i enedigaeth Elen ganwyd chwaer iddi, Siarlot (1910-1993), ac yna ddwy flynedd yn ddiweddarach ganwyd Hugh Griffith (1912-1980), yr actor byd-enwog a enillodd Oscar am ei berfformiad yn Ben Hur.

Cafodd Elen ei haddysg yn Ysgol Llanallgo, dri chwarter milltir o'i chartref, Angorfa, Marian-Glas, ac yna cafodd y cyfle i sefyll arholiad y scholarship i barhau â'i haddysg yn Ysgol Sir Llangefni. O blith dosbarth o oddeutu 26, Elen ac un arall a gafodd eu hystyried yn deilwng o'r cyfle hwn, sef bachgen o'r enw Gwilym, mab y gweinidog; yr hwn a fyddai'n dod yn ŵr iddi ymhen blynyddoedd.

Yn ei phentref genedigol yr eginodd ei chariad at ddrama, wedi i berfformiad o The Hunchback of Notre Dame, y ddrama gyntaf iddi ei gweld erioed, adael argraff enfawr arni. Mewn adeilad o'r enw'r Hen Ysgol y'i perfformiwyd; adeilad lle cynhaliwyd cyngherddau, dramâu a chyfarfodydd cystadleuol yn fynych, ac adeilad sy'n parhau i fod yn ganolbwynt i'r pentref hyd heddiw. Ar fur yr Hen Ysgol hon hefyd ceir llechen i goffáu ei brawd.

Yn ogystal â drama, un o ddiddordebau eraill Elen a barhaodd am weddill ei hoes oedd cerddoriaeth; rhoddwyd cryn bwyslais ar y cyfrwng hwn yn y cartref, wedi i'w rhieni brynu piano i'r aelwyd. Roedd Capel Paradwys, Llanallgo, hefyd yn rhoi'r cyfle i Elen ymarfer y grefft hon, wrth iddi fynychu'r dosbarth Tonic Sol-ffa ar ddydd Sul.

Athrawes ydoedd Elen wrth ei chrefft, ac fel athrawes yr ystyriai ei hun yn bennaf. Ychydig o amser wedi iddi ennill y dystysgrif uwch, gwnaeth gais i ddilyn cwrs dwy flynedd yn y Coleg Normal ym Mangor, wedi iddi dreulio blwyddyn fel disgybl-athrawes adran y babanod yn ei hen ysgol gynradd yn Llanallgo. Cyrhaeddodd Elen Fangor yn 1926, gan ymuno â Chlwb Cerdd y Brifysgol a Chymdeithas Gorawl y Coleg. Yn ugain oed, fe lwyddodd yn ei harholiadau terfynol, ac ennill swydd yn dysgu yn Ysgol Llanbedr-goch. Symudodd wedyn i Ysgol Elfennol Amlwch, gan ddychwelyd i'w hen ysgol gynradd yn Llanallgo yn 1930.

Yn 1938 priododd Gwilym Roger Jones (1907-1988), banciwr a oedd newydd ei benodi i swydd yn Rhuthun. Gweithio fel athrawes lanw yn unig a wnaeth Elen ar ôl priodi. Ychydig dros flwyddyn ar ôl iddynt symud i Ruthun ganed merch iddynt, Meri Rhiannon, a chyn diwedd yr Ail Ryfel Byd ganed mab, Wiliam Roger.

Ymaelododd Elen a Gwilym yng nghapel Bethania, a chyfrannu'n helaeth at ei weithgareddau, gyda thraddodiad drama cryf y capel hwn yn elwa ar eu cyfraniad, wrth i Elen gynhyrchu a pherfformio, a'i gŵr yn ysgrifennydd neu'n drysorydd. Dywed y Parch. Gwilym I. Davies, a oedd yn gwasanaethu'r capel ar y pryd, mai Elen oedd prif ysgogydd Cymdeithas Ddrama Rhuthun a sefydlwyd yn 1950. Yn Nyffryn Clwyd cafodd gyfleoedd lu i ddatblygu a mireinio ei thalent fel perfformwraig, a phan symudodd i'r Bala yn 1954 oherwydd gwaith ei gŵr, ni phallodd hyn ddim ar ei chariad tuag at ddrama. Â'r ardal hon wedi'i hymdrwytho'n llwyr yn y ‘Pethe’, cafodd Elen fodd i fyw yn cystadlu yn yr eisteddfodau a ddigwyddai'n fynych yma. Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd feirniadu cystadlaethau actio neu adrodd mewn eisteddfodau, gan ddod yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn nes ymlaen. Cwta ddwy flynedd wedi iddynt symud i'r Bala, treuliodd Elen a'i theulu gyfnod yn byw yn Abersoch ac Amlwch, cyn dod yn ôl i'r Marian i fyw.

Fel actores mewn dramâu radio, llwyfan a theledu y bu Elen Roger Jones yn adnabyddus yng Nghymru, a bu sefydliadau megis Theatr Fach Llangefni yn lleoliad hollbwysig iddi. Un o'r troeon cyntaf iddi actio yno oedd yn 1960, gan aros yn driw i'r sefydliad am ddeugain mlynedd, a pherfformio mewn dramâu megis Pryd o Ddail, Awel Gref a Cartref. Ddechrau'r saithdegau, cafodd gyfle i grwydro theatrau dros Gymru gyfan, wedi iddi gael gwahoddiad i actio yn rhai o gynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru.

Llithro i mewn i waith teledu a wnaeth hi, chwedl hithau. Mewn rhaglen am Daniel Owen , gyda Wilbert Lloyd Roberts (1925-1996) yn cynhyrchu, y cafodd ei rhan gyntaf ar y sgrin, rhan y byddai hi'n ei chwarae eto saith mlynedd yn ddiweddarach mewn cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru. Dros y deng mlynedd nesaf, ymddangosodd mewn cynyrchiadau fel Byd a Betws a'r Gwyliwr. Cafodd gydnabyddiaeth eang am ei pherfformiadau o waith Saunders Lewis , Dwy Briodas Ann ddiwedd 1973, a Merch Gwern Hywel yn 1976. Fel yr aeth heibio ei deg a thrigain, daeth yn wyneb mwy cyson ar y teledu, gan actio rhan Miss Brooks yn Joni Jones ac Ann Robaits, Heidden Sur yn Hufen a Moch Bach. Bu hefyd yn perfformio mewn dwy gyfres a ddaeth yn boblogaidd iawn ar S4C, sef Gwely a Brecwast a Minafon, addasiad o nofel Eigra Lewis Roberts, Mis o Fehefin, lle daeth Elen yn adnabyddus iawn fel y cymeriad ‘Hannah Haleliwia’.

Ond gallai Elen droi ei llaw at unrhyw genre o fyd y ddrama, ac yn 1983 cafodd chwarae rhan yr Arglwyddes Grey yn y ffilm Owain Glyndŵr ar S4C. Fe wnaeth hi hefyd actio mewn cyfresi Saesneg, gan gynnwys District Nurse, gyda'r actores Nerys Hughes. Bu Nerys yn hael iawn ei chanmoliaeth tuag at Elen, gan sylwi ar ei phroffesiynoldeb yn syth, a'r ffaith nad oedd hi byth yn anghofio ei llinellau. Cafodd ei disgrifio gan John Hefin Evans fel actores ‘1 take’. Un peth sydd yn gyffredin yn yr amrywiaeth o rolau iddi hi eu chwarae, oedd iddynt oll fod yn ferched cryf ac eofn iawn.

Yn ogystal â pharhau i berfformio yn hydref ei hoes, dyma un o gyfnodau prysuraf bywyd Elen, wrth iddi ffilmio, cyflwyno sgyrsiau, ysgrifennu i bapurau bro a chylchgronau, cynnal dosbarthiadau i ddysgwyr a pharhau i feirniadu mewn eisteddfodau. Sefydlodd Glwb y Marian gyda'i gŵr, sef clwb i bensiynwyr yn yr Hen Ysgol, ac roedd yn perthyn i sawl cymdeithas arall yn yr ardal, fel Merched y Wawr a Chôr Bro Dyfnan. Un o ddiddordebau Elen oedd casglu gwisgoedd o wahanol gyfnodau, gan gynnwys gwisgoedd merched a dynion y cyfnod Fictoraidd, sioliau, a chlocsiau, ac fe ddefnyddiodd y rhain fel canolbwynt i sioeau neu sgyrsiau.

Ni chafodd ei hamryw gyfraniadau eu hanwybyddu. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979, fe dderbyniwyd Elen yn aelod o'r Orsedd a'i hanrhydeddu â'r wisg wen, a phan ddaeth yr Eisteddfod i Fôn yn 1983, fe'i cyflwynwyd â Thlws Garmon a'i chydnabod fel Actores Orau'r flwyddyn. Bu crefydd yn ddylanwad diysgog ar hyd ei hoes, ac am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul fe ddyfarnwyd y Fedal Gee iddi.

Bu farw Elen Roger Jones 15 Ebrill 1999, yn 90 mlwydd oed, ac mae ei bedd ym mynwent Eglwys Llaneugrad.

Ffynonellau:

  • Harri Parri, Elen Roger: portread , 2000.

Awdur:

Gwen Saunders Jones

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016