Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES, FRANCES MÔN (1919-2000), telynores ac athrawes.

Ganwyd Frances Môn Jones ar 20 Hydref 1919 ym Mrychdyn ger Wrecsam, yn ferch i David Charles Davies a'i briod Mary Jane (g. Goodwin). Cafodd ei haddysg yn yr ysgol leol ac yn Ysgol Ramadeg Grove Park, Wrecsam, ac er bod yr aelwyd yn ddi-Gymraeg, meistrolodd hi'r iaith yn ifanc. Dechreuodd ganu'r organ yng nghapel Pisgah, Brychdyn pan oedd yn 14 oed. Flwyddyn cyn hynny prynodd ei thad delyn Erard iddi a chafodd wersi gydag Alwena Roberts, ‘Telynores Iâl’ (1899-1981). Bu'n llwyddiannus ar yr unawd telyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol, yn 1937, 1938 ac 1939, ac yn 1949 daeth yn fuddugol ar yr unawd soprano. Yn y cyfnod 1955-60 mynychodd Goleg Cerdd Manceinion i gael gwersi telyn gyda Jean Bell a chafodd hyfforddiant mewn cerddoriaeth gan yr Athro D. E. Parry-Williams ym Mangor. Wedi rhoi heibio cystadlu, ymroes i hyfforddi eraill, a chyfrifai'r gantores werin Siân James, ac Ieuan Jones, Athro'r Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ymhlith ei disgyblion. Bu hefyd yn hyfforddi llawer mewn ysgolion, yn enwedig yng nghylch Llanfair Caereinion, a ffurfiodd gôr telynau.

Fe'i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn 1953 dan yr enw ‘Telynores Brython’, ond newidiodd ei henw yng Ngorsedd yn ddiweddarach i ‘Ffranses Môn’, a bu'n canu'r delyn yn yr Orsedd yn rheolaidd o 1957 ymlaen. Bu hefyd yn delynores swyddogol Eisteddfod Powys o 1964 hyd 1990.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymunodd â Chantorion Gwynn dan arweiniad W. S. Gwynn Williams . Fe'i cynorthwyodd ef yn y gwaith o sefydlu Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 1947, ac yn flynyddol rhwng 1954 ac 1981 bu'n canu penillion i gyfeiliant ei thelyn ei hun yn seremoni agoriadol yr Eisteddfod, gan ddefnyddio geiriau a gyfansoddwyd gan ei phriod. Yna rhwng 1978 ac 1999 bu'n aelod o banel beirniaid yr Eisteddfod a chyd-feirniadu gyda nifer o gerddorion amlwg. Rhoddodd wasanaeth helaeth i'r cymdeithasau cerddoriaeth werin. Bu'n Drysorydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru o 1957 hyd 1985, yn Is-lywydd o 1985 hyd 1988, ac yn Llywydd o 1988 hyd ei marwolaeth. Bu'n Ysgrifennydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru o 1959 hyd 1971 ac yn Is-lywydd o 1975 hyd 2000, a phan ffurfiwyd Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera) yn 1996 hi a ddewiswyd yn Llywydd Anrhydeddus.

Priododd yn 1947 â'r Parchg Robert Môn Jones, yn enedigol o Aberffraw, a oedd yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd. Buont yn byw mewn sawl man yng Ngogledd Cymru cyn ymsefydlu yn Llanfair Caereinion yn 1965, ac yno y bu ei chartref weddill ei hoes. Bu farw ei gŵr yn 1982. Urddwyd hi â'r MBE yn 1983 a dyfarnwyd iddi Fedal Syr T. H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999. Bu f. 8 Medi 2000 ac amlosgwyd ei chorff yn Amlosgfa Wrecsam. Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â'i chartref ym Meifod yn 2003 cynhaliwyd cyfarfod arbennig i'w chofio.

Ffynonellau:

  • Robin Gwyndaf, ‘Portread o gymwynaswraig: Frances Môn Jones’, Canu Gwerin cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru 22 (1999), 3-10.

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016