Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES, DORA HERBERT (1890-1974), cantores a gweinyddydd.

Ganwyd Dora Herbert Jones yn Llangollen ar 26 Awst 1890, y bumed a'r ieuengaf o ferched John ac Eleanor Rowlands (g. Edwards). Ei henw bedydd oedd Deborah Jarrett Rowlands, ond cafodd ei hadnabod wrth yr enw Dora o'i phlentyndod. Cadwai ei thad siop groser a oedd yn ynys o Gymreictod ynghanol Seisnigrwydd y dref. Addysgwyd hi yn Ysgol Sir Llangollen ac aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio'r Gymraeg yn 1908. Yn ystod ei chyfnod yn y coleg daeth dan ddylanwad Mary Davies , casglydd alawon gwerin, a bu'n aelod o bedwarawd a ganai alawon gwerin ac a berfformiodd yn y Sorbonne ym Mharis yn 1911. Wedi graddio yn 1912 dilynodd gwrs mewn paleograffeg am flwyddyn cyn cael ei phenodi'n ysgrifennydd i John Herbert Lewis , Aelod Seneddol sir y Fflint. Hi mae'n debyg oedd y ferch gyntaf i weithio yn Nhŷ'r Cyffredin. Daeth i gysylltiad â Ruth , gwraig Herbert Lewis , a ymddiddorai'n fawr mewn canu gwerin, ac â'r gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen .

Ym Mehefin 1916 priododd â Herbert Jones o Blas Blaenau ger Llangernyw, a oedd ar y pryd yn gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig, ac a gafodd ei glwyfo yn Ypres yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Dros dymor y gaeaf 1916-17 bu Dora hithau yn Ffrainc fel nyrs gyda'r Groes Goch dan arweiniad y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies o Landinam. Wedi hynny bu'n ysgrifennydd i'r Arglwydd Wimborne, Arglwydd Raglaw Iwerddon, gan wneud gwaith cyfrinachol ar ei ran yn Nulyn. Cyn Etholiad Cyffredinol 1918 dychwelodd i Lundain i drefnu ymgyrch Herbert Lewis fel ymgeisydd am sedd Prifysgol Cymru, a hi oedd y ferch gyntaf ym Mhrydain i fod yn gynrychiolydd etholiadol.

Ganwyd ei merch Elsbeth yn 1919 a'i mab Hugh yn 1922, ond bu farw ei gŵr ym mis Tachwedd 1922. Cafodd Dora swydd am bedair blynedd yn y Llyfrgell Genedlaethol cyn cael ei phenodi yn 1927 yn ysgrifennydd Gwasg Gregynog, a bu'n byw yn Bronbechan ar stad Gregynog am bymtheng mlynedd, gan gynorthwyo gyda'r Wasg yn ei chyfnod mwyaf gweithgar, a threfnu gweithgareddau eraill cysylltiedig, gan gynnwys Gŵyl Gerdd Gregynog a sefydlwyd yn 1933. Arhosodd yng Ngregynog pan drowyd y lle yn ysbyty dan nawdd y Groes Goch ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ond yn 1940 collodd ei merch Elsbeth pan drawodd torpido y llong yr oedd yn teithio arni adref o Awstralia, lle yr aethai i ofalu am blant o dde Cymru. Bu ei mab Hugh yn gwasanaethu yn y fyddin a chlwyfwyd ef yn ddifrifol yn Arnhem, ond goroesodd, ac aeth yn ei flaen i yrfa yn y gwasanaeth diplomataidd.

Yn 1942 gadawodd Gregynog i weithio i'r Weinyddiaeth Lafur yn Abertawe, wedyn yng Nghaerdydd lle y bu'n gweinyddu cynllun y llywodraeth i gynorthwyo pobl ifainc i ailgydio yn eu haddysg, cyn dychwelyd i Abertawe yn swyddog gyrfaoedd yng Ngholeg y Brifysgol hyd ei hymddeoliad yn 1956. Dychwelodd i Gregynog i fyw yn Tŷ Canol gyda'i chwaer Gertrude, a fu farw yn 1962. Bu hithau farw 9 Ionawr 1974.

Bu'n canu alawon gwerin ar hyd ei hoes ac yn eu cyflwyno ar y radio a'r teledu o 1932 ymlaen. Cynrychiolodd Gymru yng Nghynhadledd Ryng-genedlaethol y Celfyddydau ym Mhrâg yn 1928 ac enynnodd ddiddordeb y cyfansoddwr Gustav Holst yng nghaneuon gwerin Cymru - fe drefnodd yntau ddeuddeg ohonynt i leisiau cymysg. Etholwyd hi yn un o Is-Lywyddion Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1942, a bu'n Llywydd o 1972 hyd ei marwolaeth. Urddwyd hi â'r MBE yn 1967. Diogelwyd casgliad o'i phapurau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Yr oedd Dora Herbert Jones yn arloeswraig ym myd gweinyddiaeth ac o ran hawlio lle i ferched mewn swyddi gweinyddol amrywiol, yn arloeswraig ym myd darlledu, ac yn un o'r cwmni ymroddgar a ddiogelodd ac a ddehonglodd ganeuon gwerin Cymru i gynulleidfa ehangach.

Ffynonellau:

  • Gwenan Mair Gibbard, Brenhines Powys: Dora Herbert Jones a byd yr alaw werin , Llanrwst, 2003;
  • Alun Oldfield Davies (gol), Y Llwybrau Gynt 2 , Llandysul, 1972, t. 91-114.

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016