Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES, MORGAN GLYNDWR (GLYN) (1905-1995), bardd a llenor.

Ganwyd Glyn Jones yn 16 Clare Street, Merthyr Tudful, ar 28 Chwefror 1905, mab ieuengaf William Henry Jones (1873-1957), clerc gyda Swyddfa'r Post, a'i wraig Margaret (g. Williams, 1897-1966), athrawes. Daeth ei frawd hŷn, David Tydfilyn (1901-1968) yn Arolygwr Ysgolion. Roedd ei dad-cu ar ochr ei dad, David William Jones (1832-1900) yn fardd Cymraeg gyda'r enw barddol Llwch-Haiarn. Roedd y tad a'r fam yn Gymry Cymraeg, mynychai'r teulu Gapel Soar (Annibynwyr Cymraeg), ac roedd y ddau fab yn ddwyieithog yn blant, er iddynt droi'n raddol at y Saesneg, iaith eu haddysg, iaith strydoedd Merthyr ac yn y pen draw iaith yr aelwyd. Serch hynny, pan oedd yn blentyn byddai Jones yn treulio'r haf gyda pherthnasau Cymraeg ar fferm y Lan yn Llanybri, sir Gaerfyrddin, ardal a fu'n agos at ei galon ar hyd ei fywyd ac sy'n ymddangos yn gyson yn ei ffuglen fel gwrthbwynt i Ferthyr drefol.

Cafodd ei addysg uwchradd (1916-23) yn Ysgol Ramadeg Cyfarthfa yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr, cyn-gartref teulu'r Crawshays , y meistri haearn lleol. Er iddo ddangos dawn arlunio, gwrthododd Jones awgrym ei fam y dylai fynd i ysgol gelf, ac yn lle hynny dilynodd ei frawd hŷn i Goleg St Paul's, Cheltenham, i hyfforddi fel athro. Ond er iddo gwblhau ei gwrs, gwelai Cheltenham yn ‘hollol oeraidd ac estron’. Yn ystod dwy flynedd ei gwrs hyfforddi, symudodd ei rieni i Gaerdydd, lle'r oedd gan ei dad swydd newydd gyda Swyddfa'r Post, ac ar ôl ymgymhwyso'n athro yn 1925 cafodd Jones swydd yn Ysgol Wood Street, Caerdydd, yn yr ardal a elwid yr adeg honno'n Temperance Town. Gan ei fod yn adnabod braidd neb yn y ddinas, bu'n byw gyda'i rieni yn ardal y Rhath ac wedyn yn Cathays, ac âi gyda hwy i gapel yr Annibynwyr Cymraeg yn Minny Street, Cathays; er iddo sgrifennu yn nes ymlaen mai ‘yr unig reswm yr es i i'r capel yr adeg honno oedd i blesio Mam’, daeth yn gyfeillgar â nifer o bobl ifainc yn y capel, llawer ohonynt yn fyfyrwyr yn y brifysgol gerllaw.

Roedd y cyswllt hwn â chymuned Gymraeg yn allweddol i fywyd Jones mewn sawl ffordd; bu'n fodd iddo ailgydio yn ffydd grefyddol ei ieuenctid-arhosodd yn aelod yn Minny Street ar hyd ei oes - a thrwy'r cyfeillion a astudiai'r Gymraeg daeth i wybod am y tro cyntaf am gyfoeth llenyddiaeth Gymraeg; sgrifennodd yn nes ymlaen am gael ei syfrdanu gan ‘unfamiliar music’ y cywyddwyr, eu delweddaeth lachar a'u hymateb croyw i harddwch gweledol y byd. Erbyn 1932 roedd yn aelod o ddosbarth nos Saunders Lewis , ac wrth iddo ddod o hyd i'w lais ei hun fel bardd roedd eisoes yn cyfieithu o farddoniaeth Gymraeg. Ond ni ddaeth Jones dan ddylanwad Saunders Lewis yn wleidyddol (‘I doubt if he went on many of the Hunger Marches’), ac er i sawl un o'i gyfeillion ddod yn aelodau brwd o Blaid Cymru, arhosodd yn amheugar ac ymuniaethodd â Llafur ar hyd ei fywyd: ‘I just couldn't understand how on earth self-government for Wales […] was going to improve […] the poverty that I came face to face with every day at School’. Er bod Temperance Town yn agos i ganol y ddinas (gerllaw safle presennol gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog), roedd ei ddisgyblion yn byw yn rhai o slymiau gwaethaf Caerdydd. Byddent yn dod i'r ysgol ar eu cythlwng a heb ddillad digonol, yn droednoeth yn aml hyd yn oed yn y gaeaf, ac roedd tor cyfraith a drygioni'n rhemp yn yr ardal; gwyddai Jones fod llawer o'r plant yn cael eu cam-drin yn gorfforol ac yn rhywiol. Roedd yr hyn a welai yn y strydoedd di-raen o'i amgylch yn ddychryn iddo, ac yn fodd i'w wneud yn ymwybodol o'r boen y gallai bodau dynol ei hachosi i'w gilydd ac o allu unigolion i ddioddef a dygnu arni. Arhosodd yr ymwybyddiaeth hon gydag ef am byth a gadawodd ei hôl ar lawer o'i waith creadigol.

Roedd yr addysg lenyddol a gafodd yng Nghastell Cyfarthfa yn gyfyngedig i lenyddiaeth Saesneg wrth gwrs, ac yn ei arddegau ffolodd Jones ar y farddoniaeth ramantaidd a ddarganfu yn Golden Treasury Palgrave: Wordsworth, Keats a chanoloesoldeb Fictorianaidd Morris, Rossetti a Tennyson. Mae dylanwad y beirdd hyn, ynghyd â D. H. Lawrence a Manley Hopkins, yn amlwg yn y farddoniaeth y dechreuodd ei hysgrifennu ar ddiwedd y 1920au a dechrau'r 1930au, fel y mae ei brofiad o ddarllen y Mabinogion. Dihangfa ddychmygus i fyd harddwch telynegol yw'r cerddi hyn, heb ddatgelu dim o'r realiti llwm o'i amgylch yn eu naws ramantaidd a'r nodyn o hiraeth unig. Cyhoeddwyd barddoniaeth gynnar Jones yn Dublin Magazine Seumas O'Sullivan ac yn Poetry Harriet Monroe (Chicago) cyn cael eu casglu yn Poems (Gwasg Fortune, 1939). Erbyn hyn roedd Jones wedi cwrdd â Dylan Thomas (Ebrill 1934). Oherwydd cefndir capel Jones - ‘I represented everything he was trying to get away from’- ni allai fyth ddeall bohemiaeth Dylan (ac fe'i dychanodd yn ei stori fer ‘The Tower of Loss’). Ond gwelodd Jones fod Thomas yn debyg iddo fe'i hun yn y modd yr oedd wedi'i gyfareddu gan newydd-deb geiriau Saesneg - cadwai'r ddau fardd lyfrau nodiadau i gofnodi geiriau ac ymadroddion trawiadol - a chafodd yn ei gerddi gadarnhad o'r effeithiau syfrdanol y gellid eu cael pan adewid i eiriau anghydnaws fflachio ynghyd mewn ffyrdd annisgwyl ac anghonfensiynol. ‘I fancy words’ meddai Jones yn un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, ‘Merthyr’.

Ehangodd cylch cysylltiadau llenyddol Jones yn fwy byth pan gydweithiodd â Keidrych Rhys wrth sefydlu Wales yn 1937. Cynghorodd Rhys ei bod yn hollbwysig i'r cylchgrawn newydd fod yn arbrofol, a chynorthwyodd gyda dewis deunydd ar gyfer y rhifynnau cynnar.

Yn 1935 priododd â Doreen (g. Jones, 1910-1999) ac ymgartrefasant yn 158 Manor Way, yr Eglwys Newydd, lle y byddent yn treulio gweddill eu hoes. Ni fu plant o'r briodas. Ar yr un pryd roedd Jones yn anesmwyth ar adegau: ni châi foddhad o'r gwaith dysgu, a theimlai'n ddieithryn yn ei fyd dosbarth-canol cyfforddus; dengys ei ddyddiadur yr awydd a oedd ganddo i ‘roi'r gorau i'r holl bethau hyn - fy nhŷ, fy mywyd bwrgeisiol - a mynd i lawr i Stryd Bute i fyw'n syml, heb drafferthu gyda chymdogion ac eiddo’. Mae nifer o'r straeon cynnar yn The Blue Bed (a gyhoeddwyd yn 1937 â chlod mawr gan yr adolygwyr) hefyd yn dangos atyniad at yr ‘amharchus’, at gartrefi dosbarth-gweithiol blêr, fel pethau mwy byw, mwy dilys, na'i fagwraeth a'i fywyd bwrgeisiol ei hun. Yn gysylltiedig â hyn y mae tynfa, yn y straeon ac ym marddoniaeth y 1940au, tuag at frawdgarwch gweithwyr a glowyr, a ddisgrifir mewn modd rhamantaidd yn aml, gyda nodau erotig yn ymgolli i mewn i gyweiriau o dosturi dwfn. Mae rhai o'r teimladau hyn yn bresennol yn ‘I was born in the Ystrad Valley’, stori am wrthryfel arfog Marcsaidd ffuglennol yn ne Cymru. Mae The Water Music (1944) yn cynnwys straeon am fachgendod mewn byd trefol di-raen tebyg i Ferthyr, ond mae'r pwyslais gwaelodol (fel yn y stori deitl) ar gymuned unwaith eto, gyda golwg negyddol ar y rhai sy'n eu gosod eu hunain ar wahân trwy falchder neu uchelgais.

Mae straeon Jones, a rhai ohonynt ymhlith y goreuon a gynhyrchwyd yn ei genhedlaeth, yn arddangos, fel ei farddoniaeth, dyndra cymhleth rhwng dathlu harddwch naturiol ac ymwybyddiaeth barhaus o ddioddefaint dynol (‘blood in the bottom of everyman's cup’, ‘Machludiad’). Gyrrwyd Jones gan ei dosturi dynol dwfn tuag at heddychiaeth weithredol yn y blynyddoedd yn arwain at yr Ail Ryfel Byd; yn sgil ei gofrestru fel gwrthwynebwr cydwybodol ym mis Tachwedd 1940 cafodd ei ddiswyddo o Ysgol Allensbank, Caerdydd, a chafodd drafferth i gael swydd unrhyw le ym Mhrydain. Pan gafodd swydd yn y pen draw ym Mhen-y-bont ar Ogwr collfarnwyd y penodiad yn y wasg a throdd llawer o'i gydweithwyr eu cefnau arno.

Bildungsroman yw nofel gyntaf Glyn Jones, The Valley, the City, the Village (1956) yn y bôn, gan ddilyn twf ac addysg bachgen artistig o'r cymoedd, Trystan. Yn arbrofol o ran ei thechnegau rhethregol, yn enwedig yn ei thrydedd ran, nofel syniadau ydyw yn ei hanfod, yn ymdrin yn arbennig â pherthynas celfyddyd (ac ysgrifennu yn ymhlyg yn hynny) â'r byd ehangach. Gellir gweld Trystan a'i gyfaill prifysgol, Gwydion, fel dwy wedd ar eu creawdwr. Mae Gwydion wedi'i gyfareddu gan eiriau (is-thema yn y nofel), ac mae ganddo olwg besimistaidd iawn ar fodolaeth dyn, fel un sydd wedi teithio yn rhai o ardaloedd mwyaf llwm y byd ac wedi gweld aflendid a dioddefaint; ‘a mixture of madhouse and torture chamber’ yw'r byd iddo fe. Mae Trystan yn ymwrthod â golwg Gwydion ar gelfyddyd fel peth ar wahân i fywyd; i Trystan mae'n rhaid i gelfyddyd gofleidio anghysondebau harddwch a hagrwch y byd ac mae'n cyflwyno ei arlunwaith ‘always to the prisoner […] to the incurable […] to the repressed’. Mae gweledigaeth dosturiol Jones hefyd yn bresennol yn y modd y disgrifir namau corfforol rhai o'i gymeriadau, yn ei nofelau ac yn ei straeon, er bod y cymariaethau rhyfedd a ddefnyddia yn creu effaith sy'n ymylu ar y swrreal; yn wir, roedd Jones wedi llunio ysgrif Gymraeg ar Swrealaeth yn 1937 ar gyfer cylchgrawn Alun Llywelyn-Williams, Tir Newydd.

Ail nofel Jones, The Learning Lark (1960) yw'r lleiaf llwyddiannus o'i nofelau, ond cafodd sylw gan y wasg yng Nghymru ac yn Llundain yn sgil ei hymosodiad ar y dulliau llwgr o wneud penodiadau addysgol yn ne Cymru, rhywbeth yr oedd gan Jones brofiad personol ohono. Symudasai i swydd fel athro Saesneg yn Ysgol Sir Glantaf yn yr Eglwys newydd yn 1952. Tynnodd ar ei brofiadau dadrithiol yn y dosbarth yn ei ‘radio ode’, The Dream of Jake Hopkins, a ddarlledwyd yn 1953, a'r gerdd honno a roddodd deitl i'w ail gasgliad o farddoniaeth (1954).

Ei nofel orau, a ddaeth yn un o glasuron llên Saesneg Cymru, yw The Island of Apples (1965). Defnyddir safbwynt diniwed y plentyn, Dewi Davies, sy'n tyfu i fyny mewn tref ddi-raen yn ne Cymru debyg i Ferthyr, i adrodd am atyniad Dewi at y bachgen hŷn, rhamantaidd ond annirnadwy, Karl. Oherwydd goddrychedd y safbwynt mae gwir natur Karl yn ansicr, ac mae'r llyfr wedi cael ei ystyried yn enghraifft o realaeth hudol Gymreig. Yn ei hanfod stori yw hon am beryglon dihangfa ramantaidd oddi wrth fyd go-iawn dioddefaint a marwoldeb; math o Peter Pan Cymreig yw Karl yn y bôn.

Yn 1968 cyhoeddodd Jones The Dragon has Two Tongues, yr astudiaeth lawn gyntaf o lên Saesneg Cymru a gwaith sy'n dal i fod yn glasur, gan dynnu ar ei wybodaeth bersonol am rychwant o awduron, gan gynnwys Dylan Thomas . Ymhlith ei gyhoeddiadau diweddarach y mae cyfrol arall o straeon byrion, Welsh Heirs (1977) a dau gasgliad o gyfieithiadau o'r hen benillion, When the Rose-bush Brings Forth Apples (1980) a Honey on the Wormwood (1984).

Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D.Litt i Glyn Jones yn 1974, cafodd wisg wen yr Orsedd yn 1988, a'r flwyddyn cyn iddo farw fe'i hetholwyd yn Llywydd Adran Saesneg yr Academi Gymreig. Er gwaethaf colli ei fraich dde yn 1992, roedd Glyn Jones yn ddyn hynod o radlon a hael ei ysbryd yn ei flynyddoedd olaf, er bod ymwybyddiaeth ddofn o ddioddefaint dynol yn dal i fod yn gysgod ar ei gerdd hir anorffenedig ‘Seven Keys to Shaderdom’ lle gwelir artist aflwyddiannus yn ei atig.

Bu farw Glyn Jones yn ei gartref ar 10 Ebrill 1995. Cynhaliwyd ei angladd ar 19 Ebrill yng Nghapel Minny Street ac Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, a chladdwyd ei lwch ym mynwent Eglwys Llansteffan.

Ffynonellau:

  • Tony Brown, Introduction to The Collected Stories of Glyn Jones , 1999;
  • Glyn Jones, The Dragon has Two Tongues , arg. diw. 2001;
  • Glyn Jones, ‘The Making of a Poet’, cyf. Meic Stephens, Planet the Welsh internationalist 112 & 113 (1995);
  • Glyn Jones, ‘Tyfu'n Gymro’, ysgrif hunangofiannol anghyhoeddedig, c. 1970au;
  • Meic Stephens, gol., The Collected Poems of Glyn Jones , 1996;
  • Meic Stephens, gol., Necrologies. A Book of Welsh Obituaries , Seren, 2008;
  • Adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

Tony Brown

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016