GRIFFITHS, PHILIP JONES (1936-2008), ffotograffydd

Enw: Philip Jones Griffiths
Dyddiad geni: 1936
Dyddiad marw: 2008
Partner: Heather Holden
Partner: Donna Webb (née Ferrato)
Plentyn: Katherine Holden
Plentyn: Fenella Ferrato
Rhiant: Catherine Griffiths (née Jones)
Rhiant: Joseph Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffotograffydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Troughton

Ganwyd Philip Jones Griffiths yn Rhuddlan ar 18 Chwefror 1936. Roedd ei dad Joseph Griffiths (1903-1962) yn rheolwr ar gangen leol Gwasanaeth Nwyddau Rheilffordd y London Midland & Scottish, a'i fam Catherine (ganwyd Jones, 1905?-1973) yn fydwraig. Roedd ganddo ddau frawd iau, Penri Jones Griffiths (ganwyd 1938) a Gareth Jones Griffiths (ganwyd 1944). Cymraeg oedd iaith y cartref, a byddai Philip yn mynd i gapel Methodistaidd y Tabernacl deirgwaith bob Sul. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanelwy, a dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn bedair ar ddeg oed. Ei ffotograff cyntaf, a dynnwyd ar 'box brownie', oedd llun o ffrind mewn cwch rhwyfo oddi ar Gaergybi. Yn un ar bymtheg oed cafodd flas ar y Picture Post ac ymunodd â Chlwb Camera y Rhyl. Cyn iddo adael yr ysgol roedd wedi meistroli digon o'r grefft i dynnu lluniau priodas a gweithio fel ffotograffydd yng ngwersyll gwyliau cyfagos Golden Sands. Ar ôl gadael yr ysgol daeth yn brentis fferyllydd yn Boots yn y Rhyl. Un o fanteision y swydd honno oedd y cyfle i fenthyg camerâu am y penwythnos. Honnai iddo ddysgu tynnu lluniau rhwng un ar bymtheg a deunaw oed: 'I got all that beautiful landscape stuff out of the way in North Wales and was ready for the rest of the world.'

I gychwyn roedd gweddill y byd yn gyfyngedig i Brifysgol Lerpwl, lle astudiodd fferyllyddiaeth, a Piccadilly, lle gweithiodd fel fferyllydd yn siop Boots yn 1959. Yn Llundain cyfunodd sifftiau nos fel fferyllydd gyda gwaith llawrydd fel ffotograffydd i bapurau newydd y Sunday Times, y Guardian a'r Observer, nes iddo ddod yn ffotograffydd llawn-amser i'r Observer yn 1961. Mae llawer o luniau'r cyfnod hwn i'w gweld yn y gyfrol Recollections a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw.

Roedd ei fagwraeth mewn tref Gymreig dan gysgod castell Seisnig wedi rhoi iddo gydwybod gymdeithasol a chydymdeimlad â rhai dan orthrwm. Dyna pam y disgrifiwyd ei waith cynnar ym Mhrydain fel 'a Welshman's offbeat critique of any manifestation of power.' Byddai'r agwedd hon yn nodwedd barhaol.

Daeth ei gyfle mawr cyntaf yn Algeria yn 1962. Wrth i'r rhyfel dros annibyniaeth dynnu i'w derfyn, roedd sïon cyson am wersylloedd regroupment diarffordd a ddefnyddid i ddal sifiliaid tra roedd y wlad o amgylch yn cael ei napalmio. Ond eto ni ddaethai lluniau o'r gwersylloedd hyn i'r fei. Gan ddefnyddio ei gysylltiadau a thryw drecio am gryn bellter, llwyddodd i fynd i mewn i un o'r gwersylloedd a'i ffotograffio. Cyhoeddwyd ei luniau wedyn dros ddau dudalen yn yr Observer. Yn sgil hyn cafodd ei anfon i Alaska, i Rwsia ac i sawl man yn Ewrop. Erbyn 1966 roedd swyn teithio rhyngwladol cyson yn pallu a gwelai Griffiths angen rhywbeth i fod yn angerddol amdano. Gyda 180,000 o bersonél milwrol Americanaidd yn Vietnam bellach, hawdd oedd gweld bod rhywbeth pwysig dros ben ar droed yno.

Cyrhaeddodd Griffiths Vietnam yn 1966, ac erbyn hynny roedd yn aelod cyswllt o'r Magnum Photo Agency, diolch i gymorth Ian Berry. Teithiodd trwy'r wlad gan fagu parch at bobl yr oedd eu dulliau yn ei atgoffa o gefn gwlad Cymru. Roedd ei deithiau'n fodd i wrthbrofi adroddiadau swyddogol, gan ddatgelu cynghrair filwrol-ddiwydiannol ar waith yn halogi diwylliant a thirwedd. Gan ddewis camerâu Leica a Nikon F gyda ffilm ddu a gwyn ffotograffodd yr effaith ar Fietnamiaid cyffredin ac, i raddau llai, ar y brwydrwyr. Am fod ei luniau'n ddu a gwyn collodd sawl cyfle cyhoeddi i ffotograffwyr eraill a defnyddiai ffilm liw. Newidiodd yn nes ymlaen i dryloywluniau lliw am resymau masnachol.

Nid mater hawdd oedd gwerthu ei luniau fyth. Pan ddigwyddodd daro ar Jackie Kennedy a'r Arglwydd Harlech (dau yr oedd sïon am gyswllt rhamantus rhyngddynt) yn Angkor Wat cafodd gyfle am sgŵp yn null y paparazzi a ddaeth â digon o incwm iddo i gynnal ei waith yn Vietnam.

Er bod ei ffotograffiaeth yn cael ei chymharu â gwaith ei gyfoedion Don McCullin, Tim Page a Larry Burrows, Griffiths oedd yr unig un i gwestiynu moesoldeb y rhyfel. Roedd am fod yr un a ddangosai i'r byd y gwir am beth oedd yn digwydd yn Vietnam. Dyma rywbeth o'r pwys mwyaf i'r byd cyfan, a gosododd Griffiths nod iddo'i hun o gyflwyno pob agwedd ar y rhyfel mewn modd dealladwy rhwng cloriau un llyfr. Y canlyniad oedd Vietnam Inc gyda dros 260 o ddelweddau, beirniadaeth lem ar weithgarwch yr Americaniaid yn ne-ddwyrain Asia. Defnyddiodd y llyfr ddelweddaeth ddu a gwyn bwerus ochr yn ochr â dinoethi deifiol ar derminoleg filwrol. Daw cydymdeimlad Griffiths â chyflwr Fietnamiaid cyffredin i'r amlwg yn y modd y mae'n gadael i'r bobl yn ei luniau gadw eu hurddas er gwaethaf eu dioddefaint. Cafodd y llyfr dderbyniad da ac atgyfnerthodd y gwrthwynebiad cynyddol i'r rhyfel yn yr Unol Daleithiau. Roedd yr adolygiadau'n gadarnhaol: fe'i gelwid gan y cylchgrawn Time 'the best work of photo-reportage of war ever published', ac yn ôl y New York Times dyma 'the closest we are ever going to come to a definitive photo-journalistic essay on the war.'

Tra bu erchylltra Rhyfel Vietnam yn lledu i wledydd cyfagos ac yn tynnu tua'i derfyn, roedd gwrthdaro o fath gwahanol yn magu yn agosach o lawer i gartref. Gwelsai Philip Jones Griffiths Ogledd Iwerddon heddychlon yn 1965 tra'n dogfennu gorymdeithiau'r Urdd Oren, ond gallai rag-weld yr anghydfod oedd ar ddod. Erbyn 1972, digwyddai trais enwadol yno yn gyson, wedi'i ddwysáu gan y lladd ar Sul Gwaedlyd 30 Ionawr. Dengys ei ddelweddau o 1972 a 1973 anghysonderau'r gwrthdaro trwy gymysgu rhyfela trefol gyda bywyd pob dydd di-nod. Er iddynt ddangos ymladdwyr, maent yn awgrymu brwydro llechwraidd yn digwydd allan o olwg y camera, yn wrthgyferbyniad llwyr i Vietnam.

Ar ddechrau 1973 cafodd ei arwain gan ei lygad am wrthdrawiadau diwylliannol i ddogfennu'r gwyliau parod 'Adventure Club' cyntaf i Papua New Guinea yn y Môr Tawel. Gan ymuno â chyfreithiwr, offeiriad Catholig, cyn-bencampwraig golff Swydd Efrog ac amryw eraill, roedd y daith yn fater o drec dair wythnos trwy anialwch un o'r gwledydd lleiaf fforiedig a mwyaf bio-amrywiol yn y byd. Gweithiodd yr egsotigiaeth y ddwy ffordd wrth i'w luniau ddogfennu nid yn unig y llwythau cyntefig ond hefyd eu chwilfrydedd tuag at y gorllewinwyr yn eu plith. Ymddangosodd y lluniau yng nghylchgrawn y Sunday Times ac wedyn mewn nifer o gyhoeddiadau Ewropeaidd. Aeth ar daith arall i'r ardal yn fuan wedyn gan ganolbwyntio ar ffotograffu'r brodorion a'u seremonïau. Unwaith eto atgynhyrchwyd ei luniau yng nghylchgrawn y Sunday Times. Er bod ffilm liw yn cyfleu lliwiau llachar y trofannau ac yn trosglwyddo'n dda i atodiadau lliw niferus y papurau, i ddibenion arddangosfa dewisai argraffu ei hoff ddelweddau mewn du a gwyn.

Dywediad enwog o eiddo Philip Jones Griffiths yw 'Once the camera is loaded with colour film the problems begin.' Er iddo ddatgan yn aml mai du a gwyn oedd orau ganddo, tynnwyd y rhan fwyaf o'i luniau ar ffilm liw. Hoffai Kodachrome neu Ektachrome, heb fod yn rhy hen nac yn rhy newydd. Yn berffeithydd bob amser, datblygodd ddull o 'ddeor' ei stoc ffilm i gael y cydbwysedd lliw dymunol. Yn sgil cyhoeddi Vietnam Inc daeth ei allu amryddawn fel ffotograffydd yn amlwg, ac felly hefyd ei awydd parhaus i roi llais i'r gorthrymedig. Ar ôl teithio'r Môr Tawel aeth ymlaen i ffotograffu gwrthdaro, straeon o ddiddordeb dynol a phrosiectau masnachol. Dan gyfaredd Vietnam ail-ymwelodd â'r wlad bump ar hugain o weithiau, a bu'n ffotograffu'n helaeth yn Cambodia a Gwlad Thai yn ogystal. Gwasanaethodd hefyd fel Llywydd y Magnum Photo Agency o 1980 i 1985.

Ar wahân i gomisiynau ni chyhoeddodd lyfr arall nes i Dark Odyssey gael ei ryddhau i gyd-fynd ag arddangosfa ôl-syllol yn Amgueddfa Cymru. Wedi'i gyhoeddi chwarter canrif ar ôl Vietnam Inc, ac yn rhychwantu pum degawd, cynhwysai ddelweddau o Ryfel Vietnam hyd at Operation Desert Storm yn 1991. Gwaith tebyg o ran arddull i Vietnam Inc oedd Agent Orange - Collateral Damage in Viet Nam (2003) yn yr ystyr ei fod yn bortread didrugaredd o ddiffygion genedigol a achoswyd gan y defnydd o dioxin Agent Orange yn ystod Rhyfel Vietnam. Gan gwblhau ei drioleg o lyfrau am Vietnam, mae Viet Nam at Peace yn darlunio datblygiad Vietnam o'i chyflwr ynysig wedi'r rhyfel i fod yn wlad fodern a ffyniannus gydag un o'r cyfraddau tyfiant uchaf yn y byd. Gwelir y llyfr gan rai beirniaid fel diweddglo i Vietnam Inc.

Bu farw Philip Jones Griffiths yn ei gartref yn Shepherd's Bush, Llundain, ar 19 Mawrth 2008, wedi iddo wybod ers 2001 fod arno gancr angheuol. Gadawodd ddwy ferch, Fenella Ferrato (merch Donna Ferrato, ganwyd 1982) a Katherine Holden (merch Heather Holden, ganwyd 1982). Dymunai i'w gasgliad gael cartref yng Nghymru, a bod Sefydliad Philip Jones Griffiths yn cael ei greu i ddiogelu ei archif ac i addysgu'r cyhoedd am gelfyddyd a gwyddor ffotograffiaeth, gan hyrwyddo darlithoedd, arddangosfeydd a chyfleoedd ymchwil, a rhoi cymorth ariannol, offer neu lyfrau i bobl dan 25 oed i'w cynorthwyo i ddod yn ffotograffwyr. Ar hyn o bryd mae ei archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle cynhaliwyd arddangosfa fawr o'i waith yn 2015.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-07-04

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.