DAVIES, BRYAN MARTIN (1933-2015), athro a bardd

Enw: Bryan Martin Davies
Dyddiad geni: 1933
Dyddiad marw: 2015
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Grahame Davies

Ganwyd Bryan Martin Davies ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, ar 8 Ebrill 1933, yn fab i Horace Davies (1900-1950), glöwr, a'i wraig Evelyn (ganwyd Martin, 1909-1997). Cafodd ei fagu o fewn cymuned glós yr ardal lofaol Gymraeg hon, gan gyfranogi o'i diwylliant barddonol bywiog a oedd wedi cynhyrchu enwogion megis yr englynwr Gwydderig (Richard Williams) a'r bardd a'r emynydd Watcyn Wyn. Er iddo, fel cynifer o'i genhedlaeth, ddilyn llwybr addysg gan ymgartrefu maes o law mewn ardaloedd eraill o Gymru, ni chrwydrodd ei galon erioed ymhell o Frynaman, y bu ei gwerthoedd a'i gwreiddiau yn ffynhonnell ddihysbydd o ysbrydoliaeth ac o ddelweddaeth iddo gydol ei oes.

Gosodwyd seiliau ei grefft farddonol yn gynnar hefyd, drwy iddo ddod yn gyfeillion yn yr Urdd gyda meibion y bardd J. M. Edwards. Wrth ymweld â chartref y teulu yn Y Barri, daeth o dan ddylanwad moderniaeth y bardd hyn, a'i barodrwydd ef i ymwneud â'r byd diwydiannol. Wedi iddo adael Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, aeth i astudio Cymraeg ynn Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, gan ddod yn edmygydd o waith dau o'i ddarlithwyr yn arbennig: T.H. Parry-Williams a Gwenallt. Apeliodd gwaith Gwenallt yn neilltuol iddo, efallai oherwydd eu cefndir cyffredin yng nghymunedau diwydiannol de-orllewin Cymru, a dewisodd ei waith ef fel testun ei draethawd M.A. Tra yn Aberystwyth, dechreuodd farddoni o ddifrif, gan ennill coron yr Eisteddfod Ryng-Golegol yn ei flwyddyn olaf, 1955.

Dilynwyd hyn gan ddwy flynedd o wasanaeth gorfodol yn y fyddin, yng nghatrawd y North Staffordshire, cyn iddo gychwyn ei yrfa fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon ger Wrecsam, gan symud ymlaen maes o law i swydd fel darlithydd Cymraeg yng Ngholeg Chweched Dosbarth Iâl, yn nhref Wrecsam ei hun, lle y gweithiodd tan ei ymddeoliad cynnar.

Priododd Gwenda ar 12 Awst 1958, gan ymgartrefu yn Rhiwabon, lle ganwyd dwy ferch iddynt, Nia a Siân. Yr ardal hon, am y ffin â Lloegr, a fu ei gartref tan ei ychydig flynyddoedd olaf, pan symudodd i Ystradowen ym Mro Morgannwg i fod yn agosach at ei deulu. Yn ardal Wrecsam, dros y blynyddoedd, byddai'n mwynhau cwmni Cymry lleol diwylliedig megis y bardd Euros Bowen, a'i gymydog yn Rhiwabon, y cyn-reolwr pwll glo a'r gwleidydd Tom Ellis; bu hefyd yn un o sylfaenwyr y gymdeithas lenyddol leol, Cymdeithas Owain Cyfeiliog. Er hyn oll, ardal Brynaman oedd lleoliad a deunydd y gyfres o gerddi a ddaeth ag ef i amlygrwydd cenedlaethol fel bardd ym 1970, pan enillodd Goron y Brifwyl yn ei gwm genedigol, yn Rhydaman, a phan gyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Darluniau ar Gynfas, gyda'i chyfres o bortreadau o olygfeydd a chymeriadau'r fro. Nid prentiswaith mo'r gyfrol gyntaf hynod aeddfed hon, gyda'i delweddaeth feiddgar, ei chyfeiriadaeth eang a'i meistrolaeth lwyr o grefft y vers libre gyflythrennog. Ynddi, fe gyflwynodd y bardd un o'r ymdriniaethau estynedig cyntaf o'r Cymoedd ôl-ddiwydiannol dirywiedig i ymddangos yn y Gymraeg. Cyngor Bryan Martin Davies wrth lenorion ifanc yn ddiweddarach oedd iddynt beidio â chyhoeddi nes eu bod dros eu deg ar hugain, a gellir tybio mai ffrwyth profiad oedd wrth wraidd y gosodiad hwnnw.

Enillodd Goron y Brifwyl drachefn y flwyddyn ganlynol, ym Mangor, ac fe ymddangosodd ei ail gyfrol, Y Golau Caeth, yn 1972. Egyr y gyfrol gyda'r gyfres a rydd ei theitl i'r llyfr, sef y dilyniant 'Y Golau Caeth' a oedd wedi cipio Coron Bangor. Yn y gyfres hon, gwelir un o brif ffynonellau delweddau'r bardd, sef llên gynnar Cymru, a'r Mabinogi yn arbennig, sydd yn darparu cyfres o symbolau a hanesion i oleuo ein dealltwriaeth o sefyllfaoedd cyfoes, ac i ddangos parhad oesol cyneddfau a chymhellion dynol. Gwelir yma hefyd ddefnydd helaeth o ddelweddaeth sy'n nodweddiadol o holl waith y bardd, sef geirfa barddoniaeth ei hun, gyda'r 'gerdd' yn sefyll fel symbol o greadigrwydd ac o ddaioni yn erbyn philistiaeth ac anobaith.

Ymddangosodd ei drydedd gyfrol, Deuoliaethau, yn 1976, gan grynhoi ffrwyth llafur y pum mlynedd blaenorol, a chan ddangos fel yr oedd profiad y bardd o ymraniad daearyddol bellach wedi ymsefydlu'n diriogaeth fewnol symbolaidd. Rhennir y gyfrol rhwng cerddi'n seiliedig ar atgofion am ei fro enedigol 'i lawr yn Ne fy nghof' ('Llwch'), a'r gweddill yn ymwneud â'i brofiad o ardal Wrecsam yn y presennol, gan gynnwys y dilyniant 'Y Clawdd', sef Clawdd Offa, y mae ei bresenoldeb corfforol a symbolaidd yn treiddio'r cerddi. Ychydig o gysur sydd i'r bardd yn y ddau leoliad, gyda'r De yn glos, yn Gymreig, yn llawn cymeriadau - ond hefyd yn gyfyng, yn gaeëdig, yn glawstroffobaidd, ac, wrth gwrs, yn golledig. Ar y llaw arall, y mae ardal gyfoes y Clawdd yn chwalfa ddigyswllt, ddiberthynas, agoraffobaidd, sydd yn fythol agored, fel y sylwa Dafydd Johnston, i wyntoedd main y dwyrain Seisnig sydd yn sgubo tyfiant bregus Cymreictod o'r tir. Os deufyd sydd yma, yna'r gwaethaf o ddau fyd ydyw, a rhaid yw cydnabod, yn achos y darlun o ardal y Clawdd, mai gweledigaeth ddethol iawn ydyw hefyd, nad yw'n cynnwys profiad y pentrefi Cymreigaidd diwydiannol mawr megis Rhosllannerchrugog a geir o fewn tafliad cnepyn glo o dref Wrecsam ei hun. Tirlun i ddarlunio cyflwr mewnol o ymddieithriad yw hwn, nid portread gwrthrychol, ffaith y mae'r bardd yn ei chydnabod yn agored gyda cherdd agoriadol y dilyniant, sef 'Ynom Mae y Clawdd'.

Yn 1984, ymddangosodd ei bedwaredd gyfrol, sef Lleoedd, gydag ardal y ffin unwaith eto yn gefndir i nifer o'r cerddi, a chyda'r besimistiaeth a fu'n islais mewn llawer o'r cerddi blaenorol bellach yn canfod adleisiau cynyddol boenus ym mhrofiad pob-dydd yr awdur. Sonia ei ragair am afiechyd a wnaeth lunio cerddi yn orchwyl anodd iawn iddo, sef yw cyfeiriad at y llawdriniaeth fawr y bu'n rhaid iddo ei dioddef ddechrau'r wythdegau o achos canser, cyflwr a achosodd iddo ymddeol yn gynnar o'i waith yng Ngholeg Iâl. Tywyllwyd ei brofiad hyd yn oed yn fwy pan ddatblygodd ei wraig Gwenda sglerosis ymledol, cyflwr a arweiniodd at ei marwolaeth yn 1996. Diwedda'r gyfrol gyda'r gerdd 'Lasarus', a ddarlunia'r cymeriad Beiblaidd fel y'i cyflwynwyd gan y cerflunydd Jacob Epstein, yn codi o farw'n fyw wrth ymwthio o'i rwymiadau caregaidd. Yn wir, rhyw fath o garreg filltir yn natblygiad gweledigaeth y bardd yw'r gerdd hon, wrth i ddelweddaeth Gristnogol ddechrau disodli ieithwedd flaenorol celfyddyd a'r 'gerdd' fel prif gyfrwng y bardd o wrthsefyll materoliaeth ac anobaith.

Daeth yr ymrafael hon â dirgelwch dioddefaint ac â'r argyfwng gwacter ystyr i benllanw yn 1988 yng nghyfrol sylweddol olaf y bardd, sef Pan Oedd y Nos yn Wenfflam. Gwelir yma rai o elfennau cyfarwydd ei waith blaenorol, megis cerddi am y ffin a rhai yn cyfarch cyfeillion o feirdd, ond calon y llyfr yw'r gerdd hir, 'Ymson Trisco', sydd fel petai'n cyfuno prif ffrydiau delweddaeth a syniadaeth yr awdur: crefydd, cymuned a chelfyddyd yn gwrthdaro â dioddefaint, diawlineb a diffyg ystyr. Rhyw fath o alegori ydyw, wedi ei gosod ym maes glo ardal Brynaman, gyda cheffyl pwll-glo delfrydyddol o'r enw Trisco yn profi Dioddefaint megis Iesu Grist, ond yn trechu marwolaeth gyda'i haeriad heriol: 'Nid oes i dywyllwch ystyr', haeriad a nododd ddiwedd y gerdd, ac, i bob pwrpas - ac eithrio dyrnaid bach o gerddi hwyr - a nododd ddiwedd gyrfa'r bardd hefyd.

Cymeriad carismataidd ydoedd Bryan Martin Davies, yn naturiol bruddaidd, ond â fflachiadau o ffraethineb sych; un yr oedd ei besimistiaeth ynglyn â dyfodol diwylliant Cymru ond fel pe bai'n dwysáu ei gariad ato. Trosglwyddodd ei angerdd i'r ddau awdur y bu'n athro barddol iddynt, sef y beirdd Elin ap Hywel a'r awdur presennol, a fu'n ddisgyblion iddo ar wahanol adegau yng Ngholeg Iâl. Gresyn i'w gyfeillion lawer oedd tawedogrwydd llenyddol ac encilgarwch cymdeithasol Bryan Martin Davies am ddeg mlynedd ar hugain olaf ei fywyd. Wrth edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei flynyddoedd olaf, dywedodd ef, gyda'r agwedd realistig ddidostur a oedd yn nodweddiadol ohono, mai mewn gwirionedd ryw bymtheng mlynedd o greadigrwydd dwys a fu ei hanes fel llenor. Yr oedd yn barod iawn i gyfaddef fod ysgrifennu yn waith caled iddo, ac y mae'n wir na thrafferthodd ryw lawer gyda gweithgareddau llenyddol ategol, megis darlleniadau, adolygiadau, erthyglau, cynadleddau, pwyllgorau ac yn y blaen, heblaw fel beirniad ar gystadleuaeth y Goron, lle bu'n un o'r hoelion wyth, gan feirniadu yn 1973, 1977, 1979, 1980, 1988 a 1991. Ac eithrio'r pum cyfrol o farddoniaeth, dau lyfr arall a gafwyd ganddo, sef ei gyfieithiad celfydd o Brolog Chwedlau Caergaint gan Chaucer yn 1983, a'r nofel fer i blant, Gardag, o 1988, a sonia am hanes llwynog cyfrwys.

Er gwaethaf ei feudwyaeth hir, nid anghofiodd y gymuned lenyddol ac addysgiadol amdano yntau: cynhwyswyd ei waith am flynyddoedd ar y maes llafur TGAU; fe'i cynrychiolir mewn blodeugerddi a gweithiau beirniadol, cyhoeddwyd casgliad cyflawn o'i gerddi pan drodd yn 70 oed yn 2003, ac fe dalwyd teyrngedau cyhoeddus amlwg pan ddaeth ei ben-blwydd yn bedwar ugain. Mesur oedd hwnnw o'i arwyddocâd amlwg fel bardd, nad oedd angen hunan-hyrwyddo diflino er mwyn ei gadw gerbron sylw darllenwyr. O'i ymddangosiad cyntaf ar y llwyfan cenedlaethol, hyd at ei fudandod annhymig, a thu hwnt i hynny, amlwg i ddarllenwyr a beirniaid oedd fod yma un o feirdd mwyaf sylweddol a dylanwadol ei genhedlaeth.

Bu farw Bryan Martin Davies ar Awst 19, 2015, yn 82 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-03-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.