Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ANTHONY, WILLIAM TREVOR (1912-1984), canwr.

Ganwyd Trevor Anthony ar 28 Hydref 1912 yn Nhŷ-croes, ger Rhydaman, yn fab hynaf i David John Anthony a'i wraig Adeline (g. Lewis). Wedi gadael yr ysgol bu'n gweithio dan ddaear a derbyn hyfforddiant lleisiol gan Gwilym R. Jones . Daeth i amlygrwydd pan enillodd gystadleuaeth yr unawd bas yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd yn 1934, ac yntau'n ddim ond 21 oed. Un o feirniaid y gystadleuaeth oedd y canwr Henry Plunket Greene, a'i hanogodd i ddilyn gyrfa broffesiynol. Arweiniodd ei athro Gwilym R. Jones ymgyrch leol i godi arian iddo gael hyfforddiant yn Llundain, a bu'n astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol o 1935 hyd 1939, dan gyfarwyddyd Norman Allin. Enillodd ysgoloriaeth George Mence Smith, ac ar derfyn ei gwrs Wobr Goffa Robert Radford a Gwobr Goffa Rutson.

Yn ystod y cyfnod hwn bu'n canu mewn perfformiadau operatig yn Llundain ac yn darlledu ar raglenni'r BBC yng Nghymru. Yn 1937 cafodd le yng Nghôr Abaty Westminster, ond amharwyd ar ei yrfa gan yr Ail Ryfel Byd, pryd y bu'n gwasanaethu fel telegraffydd yn y Llynges. Wedi'r rhyfel ailafaelodd yn ei ganu a dod yn boblogaidd fel datgeinydd oratorio a chyngerdd. Gwnaeth argraff dda ar yr arweinydd enwog Thomas Beecham, a'i gwahoddodd i ganu rhan y Brenin Mark mewn darllediad o Tristan und Isolde gan Wagner yn 1946. O 1948 ymlaen bu'n canu yn Covent Garden ac mewn nifer o wyliau cerdd pwysig, yn Leeds, Caeredin ac Aldeburgh, yr olaf dan gyfarwyddyd Benjamin Britten. Ym Mehefin 1958 ef a greodd ran Llais Duw yn opera Britten Noye's Fludde. Ymddangosodd saith gwaith yng nghyngherddau'r Proms rhwng 1946 ac 1960: ef oedd yr unawdydd bas yn nawfed simffoni Beethoven yn 1955 ac yn Missa Solemnis yr un cyfansoddwr yn 1960, y ddau dro dan arweiniad Malcolm Sargent. Bu'n canu hefyd gyda chwmni opera D'Oyly Carte.

Diogelwyd ei lais ar record mewn perfformiad o Meseia Handel dan arweiniad Beecham yn 1947, ac yn yr un gwaith a nifer o weithiau eraill dan arweiniad Sargent. Bu'n perfformio ac yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol droeon, ac yn Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965 canodd ran Crist yn yr oratorio Sant Pedr o waith Daniel Jones .

Ymddeolodd o'i yrfa gyhoeddus yn gymharol gynnar oherwydd afiechyd, a bu'n cadw gwesty yn Llundain am gyfnod. Brawd iddo oedd Cyril Anthony, organydd capel King's Cross, Llundain.

Priododd yn 1941 ag Olga Bonnell, merch Tom Bonnell, un o gantorion adnabyddus y Rhondda, a chawsant un mab, Robert. Bu hi farw yn 1978. Bu Trevor Anthony farw ar 1 Awst 1984 a chynhaliwyd ei angladd yn Llundain ar 8 Awst 1984. Claddwyd ef gyda'i wraig ym mynwent gyhoeddus Mortlake.

Ffynonellau:

  • Donald Brock, Singers of Today , Llundain, ail arg., 1948;
  • Musicus, ‘Trefor Anthony’, Y Ddinas, Cylchgrawn Cymry Llundain , Chwefror 1959;
  • Gareth H. Lewis, ‘Trevor Anthony (1912-1984)’, Cerddoriaeth Cymru, cylchgrawn y Gymdeithas er hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru , 8/2 (Gwanwyn 1986), 98-9.

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2016