ALLCHURCH, IVOR JOHN (1929-1997), pêl-droediwr

Enw: Ivor John Allchurch
Dyddiad geni: 1929
Dyddiad marw: 1997
Priod: Esme Allchurch (née Thomas)
Plentyn: David Ivor Allchurch
Plentyn: John Stephen Allchurch
Rhiant: Mabel Sarah Allchurch (née Miller)
Rhiant: Charles Wilfred Allchurch
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pêl-droediwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Richard E. Huws

Ganwyd Ivor Allchurch ar 16 Hydref 1929 yn 66 Heol Waun-wen, Abertawe. Ef oedd y chweched o saith o blant Charles Wilfred Allchurch (1894-1956) a'i wraig Mabel Sarah (ganwyd Miller; 1895-1982), ill dau 'n hanu 'n wreiddiol o Dudley yng ngorllewin Canolbarth Lloegr. Bu ei frawd iau Leonard 'Len' Allchurch, (1933-2016) hefyd yn bêl-droediwr proffesiynol adnabyddus a chwaraeodd dros Gymru. Roedd eu rhieni wedi symud i weithio yn Abertawe yn fuan ar ôl priodi yn 1916. Buasai 'r tad yn gweithio cyn hynny fel arolygwr pen pwll yn Dudley, ond cafodd waith yn Abertawe fel ffwrneisiwr.

Mynychodd Ivor Ysgol Plasmarl tan ei fod yn bedair ar ddeg oed, gan adael i weithio mewn swyddfa ac yn ddiweddarach fel cludwr mewn marchnad bysgod. Ar ôl cael ei weld yn chwarae gan Joe Sykes, sgowt a chyn-chwaraewr gyda Thref Abertawe, cafodd ei arwyddo fel prentis gyda 'i glwb cartref yn 1944, gan ddod yn chwaraewr proffesiynol llawn yn 1946, ar ôl iddo gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol. Chwaraeodd am y tro cyntaf dros y tîm cyntaf mewn gêm yn yr ail adran yn erbyn West Ham United yn Upton Park ar Ŵyl San Steffan 1949, pan gollodd yr Elyrch 3-0.

Gwnaeth enw iddo 'i hun yn fuan iawn fel mewnwr gosgeiddig a allai greu cyfleoedd i chwaraewyr eraill gyda 'i basio treiddgar, ond roedd ganddo ergyd nerthol hefyd, yn enwedig â 'i droed chwith, a thrwy hynny daeth yn sgoriwr goliau helaeth ar ei liwt ei hun. I 'r rhai a fu 'n ddigon ffodus i 'w weld yn chwarae, hyd yn oed yn ei flynyddoedd olaf, profiad bythgofiadwy oedd ei weld yn llithro fel petai 'n ddiymdrech heibio ei wrthwynebwyr syfrdan. Gyda 'i lond pen o wallt melyn daeth 'Eurwas' pêl-droed Cymru yn arwr cenedlaethol yn fuan iawn, a derbynnid yn gyffredinol ei fod yn un o 'r pêl-droedwyr mwyaf dawnus a gynrychiolodd ei wlad erioed.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru ym mis Tachwedd 1950, mewn gêm yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Gwledydd Prydain a gollodd Cymru 4-2. Chwaraeodd dros ei wlad 68 o weithiau yn gyfan gwbl, gan sgorio 23 o goliau. Daeth uchafbwynt ei yrfa ryngwladol yn 1958 yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sweden, pan sgoriodd Allchurch ddwy gôl allweddol wrth i Gymru gyrraedd rownd yr wyth olaf, cyn cael eu curo gan Brazil, enillwyr y gystadleuaeth yn y pen draw.

Priododd Esme Thomas o Abertawe ar 13 Mehefin 1953. Bu iddynt ddau fab, John Stephen Allchurch (ganwyd 1954) a David Ivor Allchurch (ganwyd 1961).

Ymddangosodd Allchurch mewn 782 o gemau clwb yn y Gynghrair Bêl-droed (gan gynnwys pob cystadleuaeth gwpan), a sgoriodd gyfanswm hynod o 284 o goliau. Chwaraeodd dros ei glwb cartref Abertawe o 1947 tan 1958, gyda chyfanswm o 358 o gemau a 134 o goliau. Ym mis Hydref 1958, ac yntau 'n 28 oed, gofynnodd am drosglwyddiad ac arwyddodd i glwb Newcastle United yn yr adran gyntaf am ffî o £28,000. Diau y byddai Allchurch yn dipyn mwy adnabyddus heddiw pe bai wedi dewis symud i chwarae yn yr adran gyntaf yn gynt, ond roedd ei deyrngarwch i Abertawe ar y pryd yn rhwystr i ddatblygiad ei yrfa. Bu 'n uchel ei barch yn ystod ei amser gyda Newcastle, gan chwarae 154 o weithiau a sgorio 51 o goliau. Rhwng 1962 a 1965 chwaraeodd 127 gêm dros Ddinas Caerdydd, gan sgorio 47 o goliau. Ei gyfnod olaf gyda chlwb proffesiynol oedd yr un pan ddaeth adref i ailymuno ag Abertawe yn 1965, ac yntau 'n 35 oed, lle chwaraeodd 143 o weithiau eto, gan sgorio 52 o goliau. Chwaraeodd dros glybiau y tu allan i 'r gynghrair nes cyrraedd ei hanner cant oed, a gorffennodd ei yrfa gyda Pontardawe Athletic yng Nghynghrair Cymru, ar ôl cyfnodau gyda Worcester City a Haverfordwest County. Gweithiodd yn ddiweddarach fel ceidwad stordy.

Ivor Allchurch oedd enillydd y bleidlais am Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 1962, ac yn Ionawr 1966 cafodd ei urddo 'n MBE am ei wasanaeth i bêl-droed Cymru. Pan symudodd Dinas Abertawe i Stadiwm y Liberty ym mis Hydref 2005 datguddiwyd cerflun efydd maintioli llawn ohono o waith y cerflunydd Michael Field (ganwyd 1964) y tu allan i Eisteddle 'r De a gomisiynwyd gan gefnogwyr y clwb. Mae rhai ofergoelus ymhlith y cefnogwyr yn arfer taro esgid Allchurch fel arwydd o lwc dda cyn gemau. Cynhwyswyd Allchurch yn y Neuadd Enwogion Pêl-droed Cenedlaethol ym Manceinion yn 2015. Roedd yn ddyn swil a diymhongar, ac roedd ei gyfoedion i gyd yn ei ystyried yn ŵr bonheddig o 'r iawn ryw.

Bu Ivor Allchurch farw yn ei gartref yn Llandeilo Ferwallt, Abertawe, ar 10 Gorffennaf 1997, yn 67 oed. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Abertawe ar 16 Gorffennaf gyda thorf o dros 500 o alarwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-10-05

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.