Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WYNNE, DAVID (1900-1983), cyfansoddwr.

Ganed David Wynne ar fferm Nantmoch Uchaf ym Mhenderyn, sir Frycheiniog, ar 2 Mehefin 1900, yn fab i Philip Thomas (g. 1872), a'i wraig Elizabeth (g. Thomas, 1877). Fe'i bedyddiwyd yn David William Thomas, a mabwysiadodd yr enw David Wynne yn nes ymlaen ar gyfer ei yrfa gerddorol. Yn 1901 symudodd y teulu i Lanfabon, Morgannwg, lle cafodd ei dad waith yng nglofa'r Albion, Cilfynydd. Mynychodd David yr ysgol leol nes ei fod yn 12 oed ac yna gweithio mewn siop groser. Ar ddydd ei ben blwydd yn bedair ar ddeg dechreuodd weithio dan ddaear yng nglofa'r Albion, ac aros yno nes ei fod yn 25.

Pan oedd yn ugain oed prynodd un o'i chwiorydd biano iddo, a dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth a chael gwersi gyda T. Llewellyn Jenkins. Yn 1925 enillodd Ysgoloriaeth Morgannwg a'i galluogodd i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o dan David Evans a John Morgan Lloyd , a graddio'n B. Mus. yn 1928. Er iddo gael Evans a Lloyd yn geidwadol iawn eu hagwedd gerddorol, gwerthfawrogai'r ffaith fod sgoriau o weithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes yn cael eu pwrcasu i lyfrgell y Coleg yn rheolaidd. O 1929 hyd 1960 bu'n athro cerdd yn Ysgol Lewis, Pengam (yr athro cerdd amser llawn cyntaf mewn ysgol uwchradd yng Nghymru), a chyfrif ymhlith ei ddisgyblion ddau gerddor amlwg o genhedlaeth iau, Robert Smith a Mervyn Burtch. Bu'n dysgu yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd rhwng 1960 a 1970, ac yna yng Ngholeg y Brifysgol tan 1980. Priododd yn 1933 ag Eirwen Evans (1912/13-1997), ac roedd ef a'i briod bob amser yn hael eu croeso i gerddorion eraill yn eu cartref ym Maesycymer.

Daeth yn gynnar dan ddylanwad cerddoriaeth gyfoes. Clywodd Edward Elgar yn arwain perfformiad o'i Ail Simffoni yng Nghaerdydd yn 1923, a gwnaeth hynny gryn argraff arno; felly hefyd y perfformiad a glywodd o opera Ralph Vaughan Williams, Hugh the Drover, yn 1925, dan arweiniad John Barbirolli. Ond daeth trobwynt yn ei yrfa yn 1927 pan gyhoeddwyd Trydydd Pedwarawd y cyfansoddwr Hwngaraidd Béla Bartók - rhoddodd Wynne sylw manwl i'r gwaith hwn ac i waith Arnold Schoenberg, Five Pieces for Orchestra. Bartók mae'n debyg oedd y dylanwad pennaf arno, ond datblygodd ei arddull ei hun fel cyfansoddwr, gan ymddiddori ym mhatrymau cymhleth y gynghanedd mewn barddoniaeth, a gwaith Dafydd ap Gwilym yn arbennig.

Gweithiai ar ei gyfansoddiadau yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol, a dechreuodd cyfnod newydd iddo yn 1945 pan enillodd Wobr Gyfansoddi A. J. Clements am ei Bedwarawd Llinynnol Rhif 1. Un o feirniaid y gystadleuaeth oedd y cyfansoddwr Seisnig Michael Tippett, a ddaeth yn gyfaill agos iddo ac yn lladmerydd dros ei waith. Cyfansoddodd Wynne bedair simffoni a nifer o weithiau siambr ar raddfa eang, gan gynnwys pump o bedwarawdau llinynnol, pedair sonata i biano, a gweithiau i offerynnau eraill. Gwnaeth ddefnydd o alawon traddodiadol yn ei ddau Cymric Rhapsody a'i Welsh Folk Song Suite. Recordiwyd rhai o'i weithiau dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Er bod cymhlethdod llawer o'i gyfansoddiadau yn milwrio yn erbyn perfformiadau mynych, cydnabyddir David Wynne yn un o gyfansoddwyr mwyaf arloesol a dylanwadol Cymru yn yr 20fed ganrif. Bu farw yn ei gartref ym Maesycymer ar 23 Mawrth 1983.

Ffynonellau:

  • Richard Elfyn Jones, David Wynne (Caerdydd, 1979);
  • ‘David Wynne’, Grove Music Online;
  • Welsh Music / Cerddoriaeth Cymru , 5/7 (1977/78); 6/5 (1980).

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2014