PETERSON, JOHN CHARLES (JACK PETERSEN) (1911-1990), paffiwr

Enw: John Charles Peterson
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1990
Priod: Annie Elizabeth Peterson (née Williams)
Plentyn: Elizabeth Peterson
Plentyn: Robert Peterson
Plentyn: David Peterson
Plentyn: Michael Peterson
Plentyn: John Peterson
Rhiant: Melinda Laura Peterson (née Rossiter)
Rhiant: John Thomas Peterson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Mel Williams

Ganwyd Jack Petersen yn 52, Monthermer Road, Eglwys Newydd, Caerdydd ar 2 Medi 1911 yn un o dri o blant i John Thomas Peterson (1889-1945) a'i wraig Melinda Laura Rossiter. Ei enw bedydd oedd John Charles Peterson, ond mabwysiadodd y sillafiad Petersen ar gyfer ei yrfa broffesiynol. Roedd ei dad wedi ymfudo o Corc a'i daid yn hanu o Norwy. Roedd tad Petersen yn ffisiotherapydd yn arbenigo mewn tylino, ac yn ddyn amlwg iawn ym myd bocsio Caerdydd lle adwaenid ef fel Pa, Pop neu J. T. Yn 1905 sefydlodd y Lynn Institute yn Sgwâr St Ioan, canolfan a ddaeth yn enwog fel lle i ddysgu paffio ac ymaflyd codwm a hefyd yn gyrchfan i sbortsmyn a phobl fusnes y ddinas.

Cafodd Petersen yrfa amaturaidd lewyrchus iawn drwy ennill ei deitl cyntaf, Pencampwr ABA Pwysau Trwm Ysgafn Cymru, yn y Drill Hall Caerdydd ar 23 Chwefror 1931, a fis yn ddiweddarach, Pwysau Trwm Ysgafn Prydain. Casglodd ei dad sindicat o gefnogwyr chwaraeon at ei gilydd i gynorthwyo'r mab i droi'n broffesiynol, a hynny yn 1931 ac ymladdodd o dan yr enw Jack Petersen.

Yn ei ornest broffesiynol gyntaf ym Medi 1931, fe drechodd y cawr, Bill Partridge, yn y bedwaredd rownd yn Stadiwm yr Holborn, Llundain, er bod hwnnw â mantais o dair stôn drosto. Mewn ychydig mwy na thri mis fel paffiwr proffesiynol, roedd wedi ymladd tair gornest ar ddeg, ac yn ystod 1932 enillodd dri theitl, sef Pencampwriaeth Pwysau Trwm Cymru yn erbyn Dick Power, Pencampwriaeth Pwysau Trwm Ysgafn Prydain yn erbyn Harry Crossley, a Phencampwriaeth Pwysau Trwm Prydain yn erbyn Reggie Meen. Tarodd Meen allan yn yr ail rownd, i fod y Cymro cyntaf i ennill teitl Pwysau Trwm Prydain. Ac yntau ond yn ugain oed ef oedd y paffiwr ieuengaf i ennill y teitl erioed.

Yn 1933 ymladdodd saith gornest ac enillodd yn erbyn y cawr chwe throedfedd pedair modfedd o Wyddel, Jack Doyle, a bwysai bedair stôn yn drymach na Petersen, gan ennill Gwregys Lonsdale. Ar derfyn y flwyddyn, fodd bynnag, fe'i trechwyd am y tro cyntaf, ar ôl pum gornest ar hugain, gan Len Harvey, a cholli ei deitl Pwysau Trwm Prydain.

Bu 1934 yn llwyddiannus iawn iddo; enillodd bob un o'i saith gornest gan hawlio Pencampwriaeth Pwysau Trwm Prydain a'r Gymanwlad yn ei ail ornest yn erbyn Len Harvey, y Cymro cyntaf, eto, i ennill y teitl. Bellach, roedd wedi ennill deuddeg ar hugain o ornestau a cholli un.

Ddwywaith yn unig yr ymladdodd Petersen yn ystod 1935, a chollodd y ddau dro yn erbyn y cawr o'r Almaen, Walter Neusel. Yn ei ail ymddangosiad roedd ar y blaen, er bod ôl paffio ar y ddau; ar gychwyn y ddegfed rownd, pan oedd Neusel ar fin rhoi'r gorau iddi, taflodd Pa Petersen y lliain i'r sgwâr mewn camgymeriad ac o'r herwydd collodd Jack yr ornest. Hwn oedd y tro olaf iddo ymladd dan reolaeth ei dad.

Ar 29 Ionawr 1936 amddiffynnodd ei deitl yn llwyddiannus yn erbyn Len Harvey, ac yna ar 23 Ebrill trechodd Jock McAvoy, a oedd ar y pryd yn Bencampwr Pwysau Canol a Phwysau Trwm Ysgafn Prydain. Ond ar 17 Awst 1936, ar gae rygbi Caer-lŷr, collodd Petersen i Ben Foord o Dde Affrig mewn tair rownd ac o'r herwydd collodd Bencampwriaeth Pwysau Trwm Prydain a'r Gymanwlad. Daeth y canlyniad yn syndod mawr i'w gefnogwyr.

Ymladdodd un ornest arall yn erbyn ei hen elyn, Neusel. Roedd i fod i ymladd Ben Foord am yr ail dro, ond oherwydd gwaeledd, daeth Neusel i'r adwy. Ar 1 Chwefror 1937 wynebodd Walter Neusel yn y Ring yn Harringay. Er iddo ymladd ei orau glas, yr oedd cryfder ei wrthwynebydd yn drech nag ef ac ataliwyd yr ornest yn y ddegfed rownd. Cynghorwyd ef gan arbenigwr i roi'r gorau i baffio neu fyddai'n colli ei olwg. Felly, penderfynodd ymddeol ac yntau ond yn chwech ar hugain mlwydd oed. Yn ystod ei bum mlynedd a hanner fel paffiwr proffesiynol enillodd 33 o'i 38 gornest, 19 drwy ergyd derfynol, a cholli 5.

Yn ystod yr ail Ryfel Byd ymunodd â'r Fyddin yn swyddog Hyfforddiant Corfforol. Ar ôl y rhyfel, chwaraeodd ran bwysig yn y BBBC (British Boxing Board of Control) gan ganolbwyntio ar baffio yng Nghymru. Anrhydeddwyd ef yn 1978 â'r OBE am ei wasanaeth i chwaraeon. Yn 1986 etholwyd ef yn Llywydd y BBBC ac enwyd pencadlys newydd y Bwrdd yn ne Llundain yn 'Jack Petersen House'. Daeth yn Is-gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, a bu hefyd yn gynghorydd dros ward Plasnewydd yng Nghaerdydd.

Priododd ar 9 Hydref 1935 ag Annie Elizabeth 'Betty' Williams, merch Thomas Baker Williams, arwerthwr o Gaerdydd. Mae eu mab David (ganwyd 1944) yn gerfluniwr adnabyddus.

Roedd Petersen yn baffiwr eofn a chyflym iawn, a'i unig anfantais oedd ei bwysau ysgafn wrth ymladd yn rhengoedd y Pwysau Trwm. Yn y dyddiau hynny, nid oedd yna gyfyngder pwysau yn yr adran Pwysau Trwm, ac ni chyrhaeddodd Jack, wrth ei bwyso yn ei ddillad, 13 stôn erioed yn ystod ei holl yrfa focsio.

Bu farw Jack Petersen o gancr yr ysgyfaint yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 22 Tachwedd 1990 yn 79 mlwydd oed, ac fe'i hamlosgwyd yn Amlosgfa Coychurch. Gosodwyd plac glas i'w anrhydeddu ar yr adeilad yn Sgwâr St Ioan a oedd ar un adeg yn gampfa Sefydliad Lynn yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-03-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.