JENKINS, HENRY HORATIO ('RAE') (1903-1985), fiolinydd ac arweinydd cerddorfa

Enw: Henry Horatio Jenkins
Dyddiad geni: 1903
Dyddiad marw: 1985
Priod: Miriam Jenkins (née Staincliffe)
Rhiant: Ann Jenkins
Rhiant: Henry Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: fiolinydd ac arweinydd cerddorfa
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Trevor Herbert

Ganwyd Rae Jenkins yn 13 Hall St, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ar 19 Ebrill 1903, yn fab i Henry Jenkins, labrwr mewn pwll glo, a'i wraig Ann; roedd y rhieni hefyd yn ofalwyr Capel Bedyddwyr Ebenezer, Rhydaman. Yn ôl cyfrifiad 1911 roedd un mab arall, Rees, a anwyd tua 1900. Soniwyd hefyd am ferch, May, yn ymddangosiad Rae Jenkins ar Desert Island Discs. Fe'i hadwaenid fel 'Rae' ar hyd ei fywyd, enw a gafwyd trwy gwtogi Horatio mewn dau gam: yn gyntaf 'Ratio', ac wedyn 'Rae'.

Ac yntau ond yn bedair oed cafodd fiolin gan ei dad-cu, a dysgodd ei chanu dan gyfarwyddyd George Evans, glöwr a oedd hefyd yn fiolinydd dawnus. Yn ogystal â rhoi gwersi i'w ddisgybl, cynhwysodd Evans ef mewn band bach a gyfeiliai ffilmiau di-sain yn y sinema leol, ac efallai mai hyn a greodd y gallu amryddawn a nodweddai yrfa Jenkins.

Ar ôl y cyfnod gorfodol o addysg mewn ysgol, dilynodd y llwybr arferol i lofeydd y Betws a Thir-y-Dial, lle y gweithiodd am yn agos i dair blynedd, ond roedd ei ysfa gerddorol yn anorchfygol, a chyn ei ben-blwydd yn ddeunaw fe'i derbyniwyd i'r Academi Gerdd Frenhinol. Yn yr Academi dysgwyd y fiolin iddo gan Hans Wessley, y fiola gan Lionel Tertis ac arweinyddiaeth gan Syr Henry Wood. Daeth Wood yn dipyn o fentor iddo ac fe'i cyflogodd fel fiolinydd yn ei Queen's Hall Orchestra, ond erbyn hyn roedd Jenkins yn elwa ar ei brofiad ym mandiau ffilmiau di-sain Dyffryn Aman trwy nosweithio gydag amryw fandiau theatrau miwsig Llundain.

Erbyn dechrau'r Ail Ryfel Byd roedd Jenkins wedi ymsefydlu fel fiolinydd ac yn achlysurol fel arweinydd mewn cerddoriaeth glasurol ac ysgafn yn Llundain. Gan gydnabod pwysigrwydd cynyddol darlledu, ffurfiodd 'The Caravan Players' i berfformio cerddoriaeth sipsiwn ar y BBC. Dyma ddechrau ei ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth sipsiwn ar hyd ei fywyd, maes y bu'n chwilio ynddo'n ddyfal ledled Ewrop, gan gasglu dros ddwy fil o ddarnau.

Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd roedd yn un o griw bach o gerddorion dawnus yn Llundain a ddetholwyd gan y BBC i ffurfio'r hyn a elwid yn Gerddorfa Salon, a ddarlledai berfformiadau uchel eu safon o ddiogelwch cymharol Evesham. Yn 1942 daeth yn arweinydd y BBC Midlands Light Orchestra, ac yn 1946 daeth yn arweinydd y BBC Variety Orchestra.

Ar ôl y rhyfel daeth yn enw adnabyddus trwy ei gyfraniadau radio fel cyfarwyddwr cerdd ar gyfer rhaglen Tommy Handley It's that man again (ITMA). Un o nodweddion y rhaglen oedd y cellwair rhwng y ddau ddyn, a'r ymadroddion 'Play Rae' a 'Right you are Tommy bach' yn digwydd o hyd, er mawr ddifyrrwch i'r gynulleidfa. Yn 1950 fe'i penodwyd yn arweinydd Cerddorfa Gymreig y BBC, swydd a ddaliodd tan 1965. Dyfarnwyd MBE iddo am wasanaeth i gerddoriaeth yn 1966, wedi iddo gael ei benodi'n Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol (FRAM). Ar ôl ei farwolaeth, dadorchuddiwyd plac er cof amdano yn Neuadd Tref Rhydaman.

Nid oedd Rae Jenkins yn arweinydd dwfn nac yn fiolinydd penigamp, ond er nad yw'n cael ei gofio am gorff o berfformiadau hynod a gwirioneddol gampus, roedd yn llawer mwy na phâr diogel o ddwylo ac un o gerddorion Cymreig mwyaf llwyddiannus ei gyfnod. Diolch i'w grefft gerddorol reddfol a'i ddawn i symud yn ddidrafferth rhwng dulliau clasurol ac ysgafnach gallai berfformio yr un mor rhwydd gyda cherddorfeydd simffoni a siambr mawr y wlad â chyda Geraldo a'r BBC Variety Orchestra. Ar ben hynny, roedd ei waith fel arweinydd Cerddorfa Gymreig y BBC yn gyfraniad pwysig i ddatblygiad y gerddorfa mewn cyfnod o ailadeiladu wedi'r rhyfel.

Yn gyhoeddus fe'i hystyrid yn ddyn dymunol a oedd yn ymhyfrydu mewn cerddoriaeth, garddio a physgota, ac mae'n debyg bod hyn yn wir am ei fywyd personol. Ond roedd aelodau cerddorfeydd yn adnabod dyn gwahanol iawn. Prin y byddai neb yn amau ei ddoniau cerddorol, ond ni roddai bwys ar greu ysbryd clòs rhwng ei gerddorion, ac roedd yn dueddol o gael pyliau o dymer ddrwg a hyd yn oed bwlian. Nid oedd y fath ymddygiad yn anghyffredin ymhlith arweinyddion cerddorfa ar y pryd, ond daeth Jenkins yn ddiarhebol amdano.

Ym mis Medi 1931 priododd Miriam Staincliffe, a fuasai'n un o'i gyfoedion fel pianydd yn yr Academi. Ar wahân i'r cyfnod yn Evesham yn ystod y rhyfel, trigai'r ddau yn 53 Selvage Lane, Mill Hill, Llundain nes iddo ymddeol, pan symudasant i Grantown-on-Spey, Morayshire, yn yr Alban lle'r ymroddodd Rae i fwynhau pysgota. Bu farw ar 29 Mawrth 1985. Cynhaliwyd ei angladd yn eglwys leol St Columba.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-08-04

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.