HUGHES, ARWEL (1909-1988), cerddor

Enw: Arwel Hughes
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1988
Priod: Enid P. Hughes (née Thomas)
Plentyn: Delun Arwel Callow (née Hughes)
Plentyn: Ieuan Arwel Hughes
Plentyn: Owain Arwel Hughes
Rhiant: Catherine Hughes
Rhiant: William Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganed Arwel Hughes ar 25 Awst 1909 yn 'Arwelfa', Rhosllannerchrugog, yn un o naw plentyn William a Catherine Hughes. Brawd iddo oedd y cerddor John Hughes (1896-1968). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle bu'n astudio cyfansoddi gyda C. H. Kitson a Ralph Vaughan Williams. Bu'n organydd eglwys St Margaret's, Westminster ac eglwys St Philip a St James yn Rhydychen. Yn 1935 penodwyd ef i swydd gyda'r BBC yng Nghymru a dod yn gynhyrchydd yn yr Adran Gerddoriaeth o dan Mansel Thomas. Olynodd Mansel Thomas fel Pennaeth yr Adran o 1965 hyd 1971. Bu'n arwain Cerddorfa Gymreig y BBC o 1950 ymlaen, a gwnaeth lawer i hyrwyddo gwaith cerddorion ac artistiaid Cymreig drwy berfformiadau radio a theledu. Bu'n Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gydwladol Llangollen o 1978 hyd 1986. Ef a drefnodd y gerddoriaeth ar gyfer seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969, ac fe'i penodwyd yn OBE yn y flwyddyn honno. Yng Nghaerdydd gwasanaethodd am flynyddoedd fel organydd a chorfeistr capel y Tabernacl (B) ac arwain nifer o berfformiadau corawl yno. Ef hefyd oedd Cadeirydd y Pwyllgor Cerdd yn Eisteddfodau Cenedlaethol Caerdydd yn 1960 ac 1978.

Daeth i'r amlwg fel cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1937 pan berfformiwyd ei Fantasia for Strings on an Old Ecclesiastical Welsh Melody dan arweiniad Adrian Boult. Cyflwynwyd y gwaith hwn i J. Lloyd Williams (1854-1945), a roesai'r alaw iddo. Fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Fantasia for Strings yn 1949 a daeth yn ddarn poblogaidd i gerddorfa. Cyfansoddodd ddau waith corawl nodedig i libretti gan ei gydweithiwr yn y BBC, Aneirin Talfan Davies (1909-1980), sef Dewi Sant ar gyfer Gŵyl Prydain yn 1951, a Pantycelyn, a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964. Lluniodd hefyd ddwy opera a lwyfannwyd gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, sef Menna (1954), i libretto gan Llewelyn Wyn Griffith, a berfformiwyd yn Sadler's Wells, a Serch yw'r Doctor (1960), i libretto gan Saunders Lewis ar sail drama Molière, L'amour médecin. Ymhlith ei weithiau llai daeth Gweddi (1944), i soprano, corws a llinynnau, yn boblogaidd, yn ogystal â'i osodiad o eiriau T. Rowland Hughes, 'Tydi a roddaist'. Darlledwyd y gosodiad hwn ar ddiwedd rhaglen nodwedd ar Gymru yn 1938, ac fe'i trefnwyd gan y cyfansoddwr i gorau meibion yn ddiweddarach.

Priododd 1940 ag Enid P. Thomas, a chawsant ddau fab, Ieuan ac Owain, a merch, Delun. Daeth Owain i amlygrwydd fel arweinydd proffesiynol, a sefydlodd ŵyr y cyfansoddwr, Meuryn Hughes, gwmni Aureus i gyhoeddi ei weithiau.

Bu farw yng Nghaerdydd 23 Medi 1988 ac amlosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Thornhill. Mewn teyrnged dywedodd Alun Guy amdano ei fod yn 'un o'r criw bychan o gyfansoddwyr a roddodd hunan-barch i gerddoriaeth Cymru'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-05-19

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.