FELD, VALERIE ANNE (1947-2001), gwleidydd

Enw: Valerie Anne Feld
Dyddiad geni: 1947
Dyddiad marw: 2001
Priod: John Feld
Partner: Mike Read
Rhiant: Evelyn Breen-Taylor
Rhiant: James Breen-Taylor
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd Val Feld ym Mangor ar 24 Hydref 1947, merch James Breen-Taylor, deintydd, a'i wraig Evelyn. Magwyd hi fel rhan o boblogaeth uniaith Saesneg fechan tref Caernarfon, a daeth yn ymwybodol iawn, fel canlyniad, nad oedd modd iddi chwarae rhan lawn ym mywyd y gymuned leol. Addysgwyd hi yn Ysgol Hillgrove, Bangor, The Abbey, Malvern Wells, a Phrifysgol Cymru, Caerdydd, lle enillodd radd MA mewn Astudiaethau Menywod yn nes ymlaen. Priododd John Feld ym 1969, a chawsant ddwy ferch. Bu iddynt ysgaru ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Ei phartner ar ôl hynny oedd Mike Read.

Gweithiodd fel ymchwilydd ac ysgrifenyddes i BBC, ITN, a Tellex Monitors, 1969-72, a chwaraeodd ran mewn nifer o weithgareddau gwirfoddol a chymunedol rhwng 1972 a 1977. Bu'n weithiwr tai a hawliau lles yn Chorley, 1977-79, a hi a sefydlodd Shelter Cymru, mudiad y bu'n Gyfarwyddwr arno rhwng 1981 a 1989. Gwasanaethodd wedyn fel Cyfarwyddwr Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal Cymru am ddeng mlynedd.

Bu Val Feld yn drysorydd i'r ymgyrch 'Ie dros Gymru' yn Refferendwm 1997, a theithiodd y wlad yn ddiflino yn ymgyrchu dros yr achos. Hi oedd yr AC Llafur dros etholaeth Dwyrain Abertawe o 1999 hyd at ei marwolaeth yn 2001. Ei diddordebau arbennig oedd datblygu economaidd, tai a materion addysgol, a chadwai berthynas agos gyda'i hetholwyr bob amser. Roedd yn angerddol ymrwymedig i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, a gwelai lywodraeth ddatganoledig yn gyfle i greu cymdeithas decach yng Nghymru. Gwnaeth lawer i annog mwy o ferched i gymryd rhan yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac mae'r ffaith bod 25 allan o 60 aelod gwreiddiol y Cynulliad yn ferched yn ddyledus i raddau helaeth i'w dylanwad hi.

Cymerodd gadair Pwyllgor Datblygu Economaidd y Cynulliad pan ymddiswyddodd Ron Davies, ond gorfodwyd hi i roi'r gorau i'r swydd ym mis Mai 2001 oherwydd afiechyd cynyddol. Bu hi hefyd ar bwyllgorau Materion Ewropeaidd a Safonau Ymddygiad. Cyn yr etholiad roedd rhai'n cyfeirio ati fel aelod posibl o'r Cabinet gan ei bod mor uchel ei pharch fel gwleidydd oedd â hanes o weithredu'n gymdeithasol. Roedd yn aelod o Amnest Rhyngwladol, Greenpeace a Cyrenians Cymru. Bu hefyd yn dysgu'r iaith Gymraeg, gan deimlo'n ymwybodol iawn o'r angen i uno'r ddwy gymuned ieithyddol yng Nghymru.

Bu Val Feld farw o gancr ar 17 Gorffennaf 2001. Hi oedd yr aelod cyntaf erioed o'r Cynulliad Cenedlaethol i farw tra yn ei swydd. Yn yr isetholiad a gynhaliwyd ar 27 Medi 2001 llwyddodd Val Lloyd i ddal sedd Dwyrain Abertawe ar ran y Blaid Lafur. Mae papurau helaeth Feld ym meddiant Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe. Ar ôl ei marwolaeth sefydlwyd Cronfa Goffa gan Archif Menywod Cymru i ddarparu cefnogaeth addysgol i ferched sy'n rhiaint sengl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-16

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.