Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , CHRISTOPHER DAVID ( 1873 - 1934 ), arlunydd ; g. ym Maesteg 7 Ionawr 1873 , yn fab i Evan Williams ; astudiodd yn ysgolion y R.C.A. a'r R.A. ac ar y Cyfandir . Paentiodd ddarluniau o urddiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon , o Syr Henry Jones , o D. Lloyd George , o Syr John Williams , ac eraill. Bu f. 19 Gorffennaf 1934 .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor