Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS , OWEN , neu OWEN , LEWIS ( 1533 - 1595 ), esgob Cassano , de'r Eidal ; g. 15 Rhagfyr 1533 , mab, yn ôl Humphrey Humphreys ( Wood , Athenae Oxonienses , gol. Bliss , ii, col. 837 n.) i rydd-ddeiliad o blwyf Llanfeirian ( Llangadwaladr bellach) ym Môn . Addysgwyd ef yn Ysgol Winchester a New College , Rhydychen , yr etholwyd ef yn gymrawd (‘ perpetual fellow ’) ohono yn 1554 . Graddiodd yn B.C.L. 21 Chwefror 1558/9 , ond tua 1561 , yn hytrach na chydymffurfio a'r drefn newydd o dan Elisabeth , cefnodd ar y Brifysgol a chilio i'r Cyfandir . Aeth i brifysgol newydd Douai i gymryd graddau doethur yn y gyfraith ac mewn diwinyddiaeth, ac yno fe'i penodwyd yn athro'r gyfraith eglwysig . Gwnaed ef yn ganon eglwys gadeiriol Cambrai yn fuan ar ôl hyn, ac wedyn yn archddiacon Hainault . Rhoes bob cynhorthwy i'r Dr. William Allen , ei gyfaill er dyddiau Rhydychen , i sefydlu, yn 1568 , goleg enwog Douai i baratoi offeiriaid ar gyfer y genhadaeth Seisnig . Tua 1574 anfonwyd Owen Lewis i Rufain ar fusnes cyfreithiol dros gabidwl Cambrai , ac yno daeth ei allu a'i ddiwydrwydd ag ef i sylw uchel-glerigwyr y Fatican , a bwysodd arno i aros yn Rhufain . Cydsyniodd yntau, a thoc fe'i penodwyd gan y Pab Gregori XIII yn ‘ referendarius utriusque signaturae ’ — swydd a'i gwnaeth yn ŵr o gryn ddylanwad yn llys y Pab . Y mae'n sicr mai Owen Lewis oedd un o'r rhai a gymhellodd Gregori i gefnogi ymgyrch Thomas Stukeley yn erbyn Iwerddon yn 1578 ; bu iddo hefyd ran bwysig yn sefydlu'r Coleg Seisnig yn Rhufain , ac ar ei awgrym ef y dewiswyd Morys Clynnog [q.v.] yn warden . Bu helyntion blwyddyn gyntaf y coleg, pan gododd y myfyrwyr Seisnig yn erbyn Clynnog a mynnu cael y Jesiwitiaid yn rheolwyr, yn ergyd drom i Owen Lewis , nad oedd ganddo mwy na'r rhelyw o'r alltudion Cymreig lawer o gariad at ‘y gwŷr â'r gyddfau hirion,’ fel y galwent y Jesiwitiaid . Ond tra yn y cyfwng hwn fe'i penodwyd yn ficer cyffredinol i S. Carlo Borromeo , archesgob Milan ac un o brif urddasolion yr Eglwys Gatholig . Yn ôl rhai awdurdodau, Borromeo ei hun a'i denodd i'w wasnaethu; eithr dywedir ym mhapurau'r Tad Robert Parsons mai'r Pab a drefnodd y cyfryw benodiad er mwyn cael gwared ag Owen Lewis o Rufain , ac felly sicrhau heddwch a chytundeb yn y Coleg Seisnig . Pa un bynnag am hynny, cyrhaeddodd Milan ar 16 Mehefin 1580 , ac yno y bu am y pedair blynedd nesaf yn ymgymryd â gorchwylion pwysig ar ran Borromeo . Ac ym mhlas yr archesgob cafodd gwmni ei gydwladwr, Gruffydd Robert [q.v.] , yntau hefyd yn un o ‘deulu’ Borromeo , ac yn un o'i gyffeswyr. Ymddengys fod Gruffydd Robert yn aml yn cynorthwyo Owen Lewis yn ei swydd fel ficer cyffredinol . Bu farw Borromeo ym mis Tachwedd 1584 , ac ymhen deufis dychwelodd Owen Lewis i Rufain , lle'r arhosodd am y gweddill o'i oes yn uchel ei barch yn llys y Pab . Ceir ei hanes yn 1586 yn hynod weithgar dros Mari , frenhines Sgotland , ac yn ceisio cael y Pab i gydsynio â'r cynllwyn i'w gosod ar orsedd Lloegr . Casâi'r Sbaenwyr a phleidwyr brenin Sbaen , gan gynnwys y Jesiwitiaid yn fwyaf arbennig; gwyddai Philip II yn dda am hyn, ac y mae'n sicr mai ef a fynnodd wneud Owen Lewis yn esgob Cassano bellennig yn 1588 , a hynny er mwyn cael ei wared o lys y Pab . Eithr yn Rhufain yr arhosodd ar ôl ei gysegru'n esgob , a hynny ar gais y Pab . Ar y pryd yr oedd yr Armada ar fin cychwyn yn erbyn Lloegr , a phe llwyddai'r ymgyrch dymuniad cyfeillion Owen Lewis oedd iddo gael ei benodi'n archesgob Caerefrog . Ond ni fynnai'r Dr. Allen mo hyn, a chan dybied nad doeth fyddai gadael esgob Cassano yn yr Eidal , awgrymodd roddi iddo esgobaeth Tyddewi neu Henffordd neu Gaerwrangon — ‘ with some occupation to keep him in play at a distance from Rome and London .’ Ofer wrth gwrs fu'r holl ddisgwyliadau hyn, ond ym mis Hydref 1594 cododd gobeithion y Catholigion Cymreig unwaith eto pan fu farw'r Cardinal William Allen . Hyderent y dewisid Owen Lewis yn gardinal yn ei le, ac y mae'n sicr ei fod yntau'n chwennych yr anrhydedd a'i fod yn ffefryn gan y Pab . Ond bu farw yn Rhufain 14 Hydref 1595 pan oedd ar fin cael ei ddyrchafu'n un o dywysogion yr Eglwys ; claddwyd ef oddi mewn i furiau capel y Coleg Seisnig .

Ceir ei hanes ym mis Awst 1579 yn apelio at y Cardinal Guglielmo Sirleto , gŵr pwysig yn Eglwys Rufain , ar iddo gael gan y Pab roi cymorth ariannol tuag at argraffu yn yr Eidal gyfieithiadau Cymraeg o lyfrau Pabyddol. Ei fwriad wedyn oedd smyglo'r cyfryw lyfrau i Gymru , ac yno eu dosbarthu er gwrthweithio dylanwad y llenyddiaeth Brotestannaidd a oedd yn ei dyb ef yn llygru eneidiau ei gydwladwyr. Ond ymddengys nad ymatebodd y Pab i'w apêl, ac mai methiant fu ei ymgais.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Joseph Gillow , A Literary and Biographical History or Biographical Dictionary of the English Catholics , 1895–1902 , iv, 211-6;
  • D. Mathew , The Celtic Peoples and Renaissance Europe. A study of the Celtic and Spanish influences on Elizabethan history , 1933 , 76-86;
  • G. J. Williams (gol.), Gramadeg Cymraeg yn ôl yr argraffiad y dechreuwyd ei gyhoeddi ym Milan yn 1567 , Caerdydd, 1939 ;
  • W. Llewelyn Williams yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1901-2 ;
  • Geraint Gruffydd yn Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 , 1922 , Ionawr 1952 .

Awdur:

Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor