Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , THOMAS ( 1871 - 1938 ), ysgolfeistr a hynafiaethydd ; g. 10 Hydref 1871 yn Pontrhydfendigaid , sir Aberteifi . Ar ôl cael addysg yng Ngholeg y Brifysgol , Caerdydd , bu'n athro ysgol , gan dreulio blynyddoedd lawer yn ysgolfeistr ysgol Trealaw , Dyffryn Rhondda , sir Forgannwg . Ymddiddorodd yn hanes y Rhondda ac arweiniodd hyn ef i astudio hanes (yn enwedig enwau lleoedd, llên-gwerin, etc.) cylchoedd eraill. Ysgrifennodd gyfres o erthyglau i'r Brython ( Lerpwl ) ar lên-gwerin Morgannwg a chynullodd hefyd eirfa i dafodieithoedd y sir . Cyhoeddwyd yn Bulletin Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ei ‘ Bibliography of Monographs on the Place-Names of Wales ’ (v, 249-64; vi, 171-8) a ‘ Bibliography of the Dialects of Wales ’ (vi, 323-44; vii, 134-6). Bu f. 21 Ionawr 1938 .

Llyfryddiaeth:

  • Adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

William Rosser Jones, Trealaw