Yn Ionawr 1870 urddwyd ef yn weinidog eglwys Mostyn , swydd y Fflint , ac yno yr arhosodd ar hyd ei oes faith. Gorlifwyd glofeydd Mostyn i gyd yn 1884 , ac er mwyn ysgafnu baich yr eglwys aeth am daith i America , ond er na wellaodd yr amgylchiadau daeth yn ôl at ei bobl.
Gŵr diwyd, llafurus, o ynni diderfyn ac o gryn dalent. Bu â llaw amlwg mewn sefydlu achosion newydd yn y cylch ac ymladdodd i wrthweithio dylanwad Pabyddiaeth a oedd mor gryf yn y gymdogaeth. Sgrifennai'n barhaus i'r Wasg a daeth i drybini deirgwaith a gwysiwyd ef am enllib, a chostiodd hynny £1,200, ond, ys dywedodd, ‘ talodd y cyhoedd hwynt bob dimai .’ Bu'n golygu Y Celt ( 1881-84 ). Cyhoeddodd flwyddiadur dan yr enw Llawlyfr yr Annibynwyr , ac erbyn 1891 yr oedd iddo 5,000 o dderbynwyr, a hefyd amryw lyfrau a phamffledau, megis: Cofiant y Parch. S. Griffiths, Horeb ; Cofiant y Tri Brawd o Lanbrynmair ; Oes a Gwaith y Prif Athraw M. D. Jones ; Ein Hen Philistiaid ; Y Dydd Hwn ; Gargantua ; Oriel Coleg Caerfyrddin ; etc.
Ymddiddorai yn fawr ym mhwnc y tir, ac ni allai sôn am ‘landlordiaeth’ heb falu ewyn. Er treulio'i oes mewn ardal ddiwydiannol, a hynny yng nghyfnod y chwyldro diwydiannol, nid oedd a fynnai nemor ddim â phroblemau a berthynai i'r bywyd hwn. ‘ Y Tir i'r Bobl ’ oedd ei arwyddair, a haerai ond setlo pwnc y tir y deuai popeth i drefn. Lled ddi-amcan oedd ei ymdrechion i argyhoeddi'r wlad, er iddo o bosibl ragdybio cenedlaetholi'r tir a ddaeth yn ddiweddarach i'w drafod gan rai o'r pleidiau gwleidyddol. Gan faint ei frwdfrydedd teithiodd rannau helaeth o Gymru â men, gan gynnal cyfarfodydd er hyrwyddo'r mudiad; ysywaeth, ychydig effaith a fu i'r crwsâd. Cyhoeddodd hefyd fisolyn a alwai Cwrs y Byd , a fu'n cylchredeg o 1891 am tua 14 blynedd. Ef oedd cludydd-arfau M. D. Jones [q.v.] ym mrwydr y cyfansoddiadau, ac i ŵr o'i afiaith ef yr oedd yn ei elfen yn ‘cicio dros y tresi.’ Gŵr od yn ddiamau, eithr ni ellir dibrisio ei ddilysrwydd ac onestrwydd ei argyhoeddiadau. Gŵr annibynnol o feddwl eithr nid oedd arlliw rhagrith yn agos ato. Er ei holl wasanaeth ni welodd ei enwad yn dda estyn iddo yr un o'i anrhydeddau arferol. Bu f. 8? Mai 1922 a chladdwyd ef ar y 12fed ym mynwent Penrhewl , Mostyn .
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor