JONES
,
THOMAS MORRIS
(‘
Gwenallt
’;
1859
-
1933
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a newyddiadurwr
;
g. yn nhref
Caernarfon
. Wedi'r ysgol elfennol fe'i prentisiwyd yn swyddfa'r
Herald
, ond oddeutu 20 oed dechreuodd
bregethu
. Bu yn
ysgol Clynnog
a
Choleg y Bala
. Ordeiniwyd ef yn
1887
. Bu'n
weinidog
ym
Magillt
(
1885-9
),
Penmachno
(
1889-99
),
Bethlehem
,
Bae Colwyn
(
1899-1911
), ac yng
Ngwespyr
a
Gronant
(
1911-33
). Bu farw mewn ysbyty yng
Nghaer
,
21 Ionawr 1933
, a'i gladdu ym
mynwent Coed Bell
,
Gronant
, ar
25 Ionawr
. Tra oedd yn
weinidog
ym
Magillt
priododd a merch
Thomas
Roberts
,
swyddog elusennol
; cawsant fab a dwy
ferch. Sgrifennodd
T. M.
Jones
lawer i gylchgronau a newyddiaduron
Cymru
, ond fe'i cofir yn arbennig am ddau lyfr:
Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymraeg
(
Treffynnon
,
1893
), a
Cofiant y Parch. Roger Edwards, yr Wyddgrug
(
Gwrecsam
,
1908
). Bu'n fuddugol yn yr eisteddfod genedlaethol yn
1890
ac yn
1891
am draethodau ar y Wasg
Gymraeg
ac ar y newyddiadur a'r cylchgrawn. Bu hefyd yn gyd-
awdur
â'r
Parch.
T.
Parry
ar y gyfrol
Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngholwyn Bay a'r cylch
(
Dolgellau
,
1909
).
Llyfryddiaeth:
-
Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd
,
1934
;
-
Y Genedl
,
30 Ionawr a 6 Chwefror 1933
;
-
Y Goleuad
,
25 Ionawr a 1 ac 8 Chwefror 1933
;
-
[y mae mynegai i
Llenyddiaeth fy Ngwlad
, 1893
yn
Journal of the Welsh Bibliographical
Society
, vi, 90-101, gan
Gwyneth E. Jenkins
].
Awdur:
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban