Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , EVAN (TALFRYN) ( 1857 - 1935 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ; g. 26 Mai 1857 ym Moel-y-crio , Helygain , sir y Fflint , yn unfed ar ddeg o 12 plentyn Evan a Mary Jones . Methodistiaid oedd ei rieni, ond ymunodd ef ag eglwys y Bedyddwyr yn Ainon , Pont-y-gof ; bedyddiwyd ef 24 Mawrth 1872 , a dechreuodd bregethu yn 1878 . Aeth i ysgol yn Llangollen yn 1879 , ac yn 1880 i athrofa'r Bedyddwyr yno. Bu'n fugail Pont-y-gof ( 1881 ), Penrhyn-coch ( 1882 ), Blaen-y-waun ( Mawrth 1883 ), a Llwyn-y-pia ( Mai 1892 ). Ar 23 Rhagfyr 1900 sefydlwyd ef yn Seion , Llanelli , ac yno y bwriodd weddill ei yrfa. O Awst 1918 hyd Fawrth 1923 analluogwyd ef, ond ailgydiodd yn ei waith hyd fis Rhagfyr 1929 , pan ymddeolodd. Bu f. 6 Gorffennaf 1935 . Cydnabyddid ef yn un o bregethwyr mwyaf ei ddydd. Ymddiddorai hefyd yn hanes ei enwad , a chyhoeddodd ysgrifau yn Traf. Cymd. Hanes Bed. , ar Titus Lewis ( 1908-9 ), eglwys Cilfowyr ( 1913-4 ), a David Jones, Caerfyrddin ( 1932 ).

Llyfryddiaeth:

  • Hanes Eglwys Capel Sion, Llanelli , Llanelli, 1931 , yn bennaf 92-115 (gan Benjamin Humphreys );
  • Seren Gomer , 1936 , 41-52, 148-53.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor