JONES, DAVID (1803 - 1868), baledwr a chantwr pen ffair

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1868
Rhiant: David Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: baledwr a chantwr pen ffair
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1803 ar stad y Dolau Bach, Llanybydder, yn fab i David Jones, saer coed. Collodd ei olwg trwy ddamwain, ac adwaenid ef fel 'Dewi Dywyll' a 'Dewi Medi.'

Yr oedd yn gantwr adnabyddus iawn ym mhob rhan o Gymru; y mae disgrifiad ohono yn Cymru O.M.E.), xxix, 158 . Bu farw yn Llanbedr-Pont-Steffan yn 1868. Y mae 66 o'i gerddi ar gael.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.