JONES
,
ABEL
(‘
Bardd Crwst
’;
1830
-
1901
),
baledwr a chantwr pen ffair
;
g. yn
Llanrwst
, yn fab i
Abel
Jones
, ‘
carrier
,’ a'i wraig
Jane
— bu'r ddau farw yn
1876
, ill dau'n 74 oed. Yr oedd ganddo frawd,
William
, a fu farw yn
1893
; yr oedd yntau'n ‘gymeriad,’ a hoffai beri i bont
Llanrwst
siglo, neu eto neidio i'r afon oddi ar big y bont. Dyn
unllygeidiog
oedd ‘
Bardd Crwst
’; y mae darlun ohono yn
Cymru (O.M.E.)
, xxvii, 173, neu'r wyneb-ddalen i
Cerddi Cymru
(d.d.), cyf. i. Gwyddys ei fod yn
canu
yn
1864
beth bynnag, a chlywodd
‘
Elfyn
’ (
R. O.
Hughes
, q.v.)
ef yn
canu
yn
Abergele
yn gynnar yn
1901
— y mae llawer sydd eto'n fyw wedi ei glywed. Bu ar un adeg yn byw yn yr
Wyddgrug
, ‘mewn cwrt yn y
Stryd Fawr
,’ ac edrydd
Ellis
Edwards
[q.v.]
y byddai'n troi i mewn i siop
Daniel
Owen
y
nofelydd
am sgwrs. Canai nid yn unig yng
Ngogledd Cymru
ond yn y Deheudir hefyd, a seiliwyd amryw o'i faledau ar ddigwyddiadau yn y Deheudir. Y mae 69 o'i faledau ar gael. Gelwir ef yn ‘
faledwr breiniol
,’ a chan gofio diweddarwch ei gyfnod y mae ar un ystyr yn ffigur hanesyddol ym mywyd cymdeithasol
Cymru
— ‘yr olaf o'r
baledwyr
mawr.’ Bu f. yn y tloty yn
Llanrwst
yn
1901
, ‘yn 71 oed,’ a chladdwyd ar
22 Mehefin
.
Llyfryddiaeth:
-
Cyfeiriadau mynych yn
Cymru
, e.e. xxii, 30, xxvii, 173, etc., xxviii, 303, xlix, 41;
-
rhagymadrodd
D. Samuel
i
Cerddi Cymru casgliad o ganeuon Cymreig, hen
a diweddar
, Caernarfon
;
-
B. B. Thomas
,
Baledi Morgannwg
, 1951
— y faled rhif xxxi;
-
rhestr o'i faledau yn
Journal of the Welsh Bibliographical
Society
, vii, 64-70;
- cofrestr Eglwys Fair, Llanrwst, trwy garedigrwydd y rheithor;
-
gwybodaeth gan
Mr. A. Morley Jones
, Llanrwst.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor