JOHN, EDWARD THOMAS (1857 - 1931), diwydiannwr a gwleidyddwr

Enw: Edward Thomas John
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1931
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 14 Mawrth 1857 ym Mhontypridd. Bwriodd ei gyfnod diwydiannol yn Middlesbrough, yn aelod o ffyrm Bolckow, Vaughan, a Williams, gwneuthurwyr haearn - ffyrm a sefydlwyd gan John Vaughan (1799? - 1868), Cymro a fu'n gweithio yn ei ieuenctid fel ' roll-turner ' yng ngwaith haearn Clydach ym mhlwy Llanelli yn sir Frycheiniog, ac a atynodd lawer iawn o Gymry i Middlesbrough ar un cyfnod. Y mae delw ohono yn Middlesbrough (gweler dan Edward Williams.

Prynodd John, a gŵr o'r enw Torbock, y ' Dinsdale Iron-works ' yn ddiweddarach; wedyn, ymunodd y rhain â gwaith Bolckow Vaughan yn Linthorpe, i ffurfio'r Linthorpe-Dinsdale Smelting Co..

Wedi ymryddhau o ofalon uniongyrchol y gwaith hwn, troes John at wleidyddiaeth. Bu'n aelod seneddol (fel Rhyddfrydwr) dros ddwyrain Dinbych, 1910-8; yn 1918 safodd fel ymgeisydd Llafur yn rhanbarth arall y sir, ond trechwyd ef gan Syr D. S. Davies - a hefyd fel Llafurwr ym Môn yn 1922 (yr oedd ar y pryd yn byw ym Mhlas Llanidan).

Ar hyd ei yrfa wleidyddol bu'n selog iawn dros ymreolaeth i Gymry, a bu wrthi'n ddyfal yn casglu gwybodaeth ystadegol tuag at atgyfnerthu'r ddadl economaidd dros ymreolaeth Gymreig. Bu am ddeng mlynedd yn llywydd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg; pleidiai'r mudiad heddwch hefyd, a bu'n llywydd y ' Peace Society ' o 1924 hyd 1927. Sgrifennodd lawer i newyddiaduron a chyfnodolion, e.e. i'r Beirniad ac i'r Welsh Outlook.

Bu farw 16 Chwefror 1931.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.