JAMES, JOHN (‘Ioan Meirion ’; 1815-1851), llenor;
g. yn y Tŷ-gwyn, Llan-ym-Mawddwy, yn fab iau i John James (a'i goroesodd) a'i wraig Sarah; yr oedd y tad yn ddiacon gydag Annibynwyr Dinas Mawddwy, a bu'r mab hynaf, Hugh James (1809-1875) yn weinidog Annibynnol yn y Brithdir ac yn Llansantffraid-ym-Mechain. Aeth John James yn gynnar i Lundain; ni wyddys beth oedd ei waith yno, ond priododd ferch gyfoethog; ar adeg ei farw yr oedd yn byw yn 4, Tysoe Street, Wilmington Square. Byddai'n llenora yn y ddwy iaith, ac yn ôl ‘Talhaiarn’ yr oedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Cymreigyddion. Ar awr anffodus i'w glod, penodwyd ef yn un o ddeuddeg cynorthwywr y comisiwn ar addysg yng Nghymru, 1846 — ‘yr unig Ymneilltuwr’ ohonynt; ond tegwch ag ef yw barnu bod ei Ymneilltuaeth erbyn hynny'n fwy o enw nag o sylwedd. Achosodd ei adroddiadau, a argraffwyd yn adroddiad y comisiwn, gyffro dirfawr, a bu yntau'n destun beirniadaeth lem gan Lewis Edwards (yn Y Traethodydd — neu gw. y ddwy ysgrif yn Traethodau Llenyddol, 374-421), a gwawd ffyrnig gan wŷr llawer llai na Lewis Edwards. Y mae'n sicr ei fod erbyn 1847 wedi cefnu ar Ymneilltuaeth, oblegid yng Ngorffennaf 1847 dewiswyd ef yn ysgrifennydd i ymddiriedolwyr y ‘Welsh Charity School’; a phenodwyd ef yn olygydd y newyddiadur eglwysig Y Cymro pan symudwyd y papur o Fangor i Lundain yn 1850. Ciciwyd ef gan ei geffyl ar Blackheath, 24 Ebrill 1851, a bu farw; claddwyd ef ym mynwent eglwys Llan-ym-Mawddwy, a dywed carreg ei fedd ei fod ‘yn 36 oed.’
Llyfryddiaeth:
- Gwaith Talhaiarn, i, 435;
- Y Dysgedydd, 1851, 192;
- Y Brython, v, 451-2;
- Bye–Gones, 1894, 427;
- Rachel Leighton, Rise and Progress [of the Welsh School], 102.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.