Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUGHES , WILLIAM ( 1757 - 1846 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd, a cherddor ; ail fab Hugh Jones a Jane Williams (gweddw), Gadlys , Llanwnda (Arfon) ; bedyddiwyd 25 Mehefin 1757 . Priododd â Jane Jones yn Llanwnda , 20 Chwefror 1783 , a bedyddiwyd eu mab John yno, 2 Rhagfyr 1784 . Ymunodd a'r Annibynwyr yng Nghaernarfon yn amser y deffroad dan George Lewis [q.v.] ; codwyd ef yn bregethwr cynorthwyol yn 1788 , wedi ymadawiad George Lewis ( 1794 ), penodwyd ef yn efengylydd teithiol , a chododd drwydded bregethu, yn y frawdlys chwarterol, ar 17 Gorffennaf 1795 . Bu cymaint llwyddiant ar ei lafur fel na ellir adrodd hanes eglwysi hynaf yr Annibynwyr yn Arfon , Eifionydd , a Dyffryn Conwy heb ei enwi ef yn un o'r cyfryngau pennaf yng nghychwyniad yr achosion. Adnabyddid ef ar ei deithiau fel ‘ Hughes , Brynbeddau ’ — bu'n amaethu Brynbeddau ( Llanwnda ) gyda'i dad ar ôl priodi, ac ef oedd y tenant o 1794 hyd 1814 . Tua 1815 symudodd i dŷ a gododd gerllaw capel Saron ( 1812 ) yn yr un plwyf, ac ar 2 a 3 Gorffennaf 1821 , ac yntau'n 64 oed, urddwyd ef yn weinidog Saron . Ni lwyddodd cystal fel gweinidog ag fel efengylydd , a darfu ei gyswllt â Saron ymhell cyn ei farw — ymunodd yntau ag eglwys y Bontnewydd , un arall o'r eglwysi a blanesid ganddo. Cyfansoddodd emynau gwych, a chyhoeddwyd rhai tonau ganddo, yn Y Dysgedydd . Bu f. 9 Mawrth 1846 ; yn 1858 cododd eglwysi Annibynnol y sir gistfaen ar ei fedd ym mynwent y llan yn Llanwnda .

Llyfryddiaeth:

  • Cofrestr plwyf Llanwnda;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 246-8;
  • H. Ivor Jones , Hanes Annibyniaeth yn Sir Gaernarfon hyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Llyfr cyntaf , Caernarfon, 1897 , 98-9;
  • David Morgan , Hanes Ymneillduaeth yn cynnwys olrheiniad manwl o'r egwyddorion hanfodol a'r ymarferiadau perthynol i'r cyfundraeth uchod ei ddechreuad a'i ledaeniad llwyddianus yn y deyrnas hon, yn wyneb y gwrthwynebiadau mwyaf cyffrous, yn nghyda'i sefyllfa bresenol yn enwedig yn Nghymru , Dolgellau, 1855 , 280-1;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , i, 547;
  • Llawlyfr Undeb yr Annibynwyr , 1930 , 1930 , 50-4;
  • Cofiant y Parch. David Griffith, Bethel, Arfon , 1879 ;
  • Seren Gomer , 1821 , 315;
  • Y Dysgedydd , Ebrill 1846 ;
  • Cymru , Gorffennaf 1893 ;
  • W. Williams , Blaenor wrth ei ddiwrnod gwaith cofiant Edward Williams, Talysarn , Caernarfon, 1882 .

Awdur:

Y Parch. Griffith Jones, (1886-1964), Pwllheli / Caerdydd