GRIFFITH, OWEN ('Ywain Meirion,' 'Owen Gospiol'; 1803 - 1868), baledwr a chantwr pen ffair

Enw: Owen Griffith
Ffugenw: Ywain Meirion, Owen Gospiol
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1868
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: baledwr a chantwr pen ffair
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Pe gellid credu'n ffyddiog mai ef oedd yr 'Owen Meirion' a sgrifennodd yr ysgrif 'Hanes Tre'r Bala' yn Y Brython, 1860, 264-5, yna gellid barnu mai brodor o'r Bala ydoedd. Canai yn y ffeiriau ar hyd ac ar led Cymru - clywir amdano e.e. ym Machynlleth, Holywell, Llanfyllin, Llanrwst, a ffeiriau Sir Gaernarfon; ac yr oedd hefyd yn adnabyddus iawn yn y Deheudir. Gwisgai 'het silc' bob amser. Myn rhai iddo roi'r gorau i ganu, a chymryd at gasglu a gwerthu carpiau; sut bynnag, adfydus fu ei ddyddiau diwethaf, ar waethaf caredigrwydd Nicholas Bennett wrtho; bu farw 'ar y plwyf' yn Llanbrynmair, 24 Mehefin 1868, yn 65 oed, a chladdwyd yno - gwnaeth 'Mynyddog' englyn i'w roi ar garreg ei fedd. Y mae 56 o'i faledau ar gael.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.