GIBBS, REGINALD ARTHUR (1872 - 1938), perchennog llongau yng Nghaerdydd (un o bedwar brawd adnabyddus yn y fusnes honno), a chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: Reginald Arthur Gibbs
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1938
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog llongau yng Nghaerdydd (un o bedwar brawd adnabyddus yn y fusnes honno), a chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 1872. Bu'n cynrychioli Cymru 16 o weithiau rhwng 1906 a 1911, naill ai fel asgellwr neu fel maeswr ('stand-off half'); enillodd un o'r ddau 'gais' a gafodd Cymru y tro cyntaf y chwaraeodd hi yn Twickenham (1910); ac yr oedd yn un o dim Caerdydd dan E. Gwyn Nicholls pan enillwyd y fuddugoliaeth enwog dros Dde Affrica. Bu farw 28 Tachwedd 1938.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.