EVANS, GRUFFYDD (1866 - 1930), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: Gruffydd Evans
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1930
Priod: Mary Evans (née Roberts)
Plentyn: John Gruffydd Evans
Plentyn: Heilin Telitor Evans
Plentyn: Edward Meldred Evans
Plentyn: Elined Evans
Plentyn: Merlys Evans
Plentyn: Herber Prestyl Evans
Rhiant: John Gruffydd Evans
Rhiant: Elizabeth Evans (née Griffiths)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 18 Medi 1866 ym Mhontardawe, yn fab i John Gruffydd, goruchwyliwr gwaith, a’i wraig Elizabeth (g. Griffiths). Wedi bod am gyfnod byr yn ddisgybl-athro yng Nghlydach (Cwm Tawe), aeth i Goleg Dewi Sant, a graddio yn 1891 (B.D. 1902). Cafodd urddau yn 1892 a 1894; bu'n gurad yn Abertawe, Llansadwrn, a Llandingad (Llanymddyfri). Cafodd ficeriaeth Cydweli yn 1908; yn 1913 symudodd i ficeriaeth Castellnewydd Emlyn, ac yno y bu farw yn ddisyfyd, brynhawn Sul, 30 Mawrth 1930.

Priododd Mary Roberts (1873-1962) yn 1899, a ganwyd iddynt chwech o blant: John Gruffydd, Heilin Telitor, Edward Meldred, Elined, Merlys a Herber Prestyl.

Cymerai ddiddordeb mawr mewn llên-gwerin, a sgrifennodd lawer ar y pwnc hwn ac eraill i'r cyfnodolion. Ond cofir ef yn well am ei gyfraniadau hynafiaethol sylweddol i gylchgronau'r Cymmrodorion: 'The Story of the Ancient Churches of Llandovery ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1911-2), 'Carmarthenshire Gleanings - Kidwelly ' (Y Cymmrodor, xxv), a ' The Story of Newcastle Emlyn and Atpar ' (Y Cymmrodor, xxxii).

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.