DAVIES, DAVID ('Dai'r Cantwr'; 1812? - 1874), un o derfysgwyr 'Beca'

Enw: David Davies
Ffugenw: Dai'r Cantwr
Dyddiad geni: 1812?
Dyddiad marw: 1874
Rhiant: Mary Davies
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o derfysgwyr 'Beca'
Maes gweithgaredd: Ymgyrchu; Troseddwyr; Gwrthryfelwyr; Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd yn nhreflan Treguff (Tregof), Llancarfan, Morgannwg, yn 1812 neu 1813 - rhoddir ei oedran yn '31' pan gyrhaeddodd Tasmania yng Ngorffennaf 1844. Ei dad, meddir, oedd John Davies, tenant i'r dug Beaufort - gellid meddwl ei fod wedi marw erbyn adeg alltudiad y mab, ond yr oedd mam 'Dai,' ei ddau frawd William a Morgan, a'i chwiorydd Ellen Jane Margaret Elizabeth (pa gynifer oeddynt nid yw'n eglur) eto'n fyw. Dyn gweddol dal oedd 'Dai,' â gwallt gwinau a locsen ledgoch. Dywedir yn recordiau'r heddlu mai labrwr ar y tir ydoedd, ac y medrai aredig; y mae son iddo fod yn chwarelwr ym Mhenybont-ar-Ogwr (ac yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid yno), ac yn labrwr ar y tir yn Llangatwg-y-Barri, lle y mynychai gapel (Philadelphia) y Bedyddwyr. Yn y 'gan hiraethlon' (B. B. Thomas, Baledi Morgannwg, 56-8) a wnaeth pan oedd yn y carchar yng Nghaerfyrddin, dywed iddo fyw hefyd yn Nhroedriw'rclawdd ac yn Nhredegar. Gall mai ef oedd y David Davies o Benybont-ar-Ogwr a enillodd y delyn yn eisteddfod Cymreigyddion y Fenni yn 1838. Ei esboniad ef ei hun (i awdurdodau Tasmania) ar ei lysenw oedd 'Byddwn yn eu dysgu i ganu yn y capelau.'

Yn 1843, dywedir ei fod yn 'ymgymerwr' yn Pont-Yates neu Bontyberem, h.y. yn cyflogi nifer o ddynion dros berchnogion glofeydd; gall fod 'Shoni Sguborfawr' (John Jones, c.1810-1867) yn un o'r sawl a gyflogwyd ganddo. Yn hydref y flwyddyn honno ceir ef gyda 'Shoni' yn cychwyn tanau ac yn malu clwydydd - ac fel 'Shoni' derbyniai dâl am hynny. Cydiwyd ynddo ar 24 Medi yn nhafarn y Plough and Harrow, Pum Heol, ger Llanelli, a mynd ag ef i garchar Caerfyrddin. Ar 22 Rhagfyr, yn yr 'Assizes,' dedfrydwyd ef i ugain mlynedd o alltudiaeth am falu'r glwyd dyrpeg yn 'Spudder's Bridge' (Pont-Rhys-bwdwr, ger Cydweli); ar 5 Chwefror 1844 symudwyd ef i Millbank; rhoddwyd ef ar y llong London, a hwyliodd ar 12 Mawrth, a glaniodd yn Van Diemen's Land ar 10 Gorffennaf. Bu mewn 'probation gang' ar Ynys Maria hyd 14 Mehefin 1845, wedyn cyflogwyd ef gan hwn a'r llall ond cafodd ysbeidiau byrion o lafur caled am haerllugrwydd, meddwdod, iaith anweddus a gwrthsefyll cwnstabl, a dirwywyd ef deirgwaith am feddwdod ac unwaith am dorri rheol. Cafodd ryddhad dan amodau ar 20 Ebrill 1854, a phardwn dan amodau ar 31 Hydref yn yr un flwyddyn.

Yr oedd rhyw ddyn a honnai mai ef oedd 'Dai'r Cantwr' yn ymofyn elusen yng Nghymru yn 1848; a gall mai hyn a roes fod i'r dyb anghywir i 'Dai' ddychwelyd i'w hen wlad. Ni wyddys ddim am ei yrfa wedi iddo gael pardwn. Adnabyddid ef yn y cyfnod hwnnw fel 'Taff Davis.' Bu farw 10 Awst 1874. Am rai nosweithiau cyn hynny, cawsai ganiatâd i gysgu yn un o adeiladau allanol y Ross Hotel. Aeth i gysgu'n feddw y noson honno, a chafwyd ef drannoeth wedi ei fygu a'i ddarn-losgi - tybir iddo fynd ati i ysmygu, a rhoi'r gwair y cysgai arno ar dân

Nid yw'r 'gân hiraethlon,' y cyfeiriwyd ati heb deilyngdod llenyddol. Gwerthid dwy faled arall a briodolid iddo, ac ymddangosodd un arall eto yn y Merthyr Guardian yn 1853.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.