Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BRIDGEMAN , GEORGE THOMAS ORLANDO ( 1823 - 1895 ), clerigwr, hynafiaethydd ac achyddwr ; g. 21 Awst 1823 yn ail fab i ail iarll Bradford ; disgynnai o'r Syr Orlando Bridgeman (gw. D.N.B. ) â fu'n geidwad y sêl dan Siarl II ; yr oedd i'r teulu gysylltiadau priodasol â sir Amwythig ac a Myddeltoniaid y Waun . Addysgwyd ef yn Harrow a Choleg y Drindod , Caergrawnt — graddiodd yn 1845 . Wedi bod yn rheithor yn sir Amwythig , cafodd yn 1864 reithoraeth deuluol Wigan , ac yno y bu f. 25 Tachwedd 1895 . Sgrifennodd lyfr ar hanes Wigan .

Ond teimlai hefyd ddiddordeb mawr yng nghysylltiadau ei deulu â'r goror Cymreig . Cyfrannodd i Arch. Camb. 1863 ysgrif ar ‘ The Ancient Lords of Mechain ,’ ac i Mont. Coll. ysgrifau ar ‘ The Princes of Upper Powys ’ a ‘ The Welsh Lords of Kerry and Arwystli ’ — y ddwy yn 1868 . Cyhoeddodd yn 1876 ei gyfrol ddefnyddiol iawn History of the Princes of South Wales — nid ‘hanes’ yn ystyr gyffredin y gair, ond yn hytrach gasgliad o ffeithiau achyddol nid yw'n rhwydd i'w ddarllen ond y mae ynddo swm mawr o fanylion nas ceir yn hwylus yn unman arall.

Llyfryddiaeth:

  • Burke's … Peerage, Baronetage, and Knightage ;
  • Venn , Alumni Cantabrigienses ;
  • Archaeologia Cambrensis 1877 , 243-8.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor