BIGGS, NORMAN (1870 - 1908), chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: Norman Biggs
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1908
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 3 Tachwedd 1870 yng Nghaerdydd, yn drydydd mab i John Biggs, ac yn aelod o deulu y bu cynifer â phump ohonynt (heblaw ef) yn cynrychioli Caerdydd ar y maes Rygbi. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yn Trinity Hall, Caergrawnt; bu wedyn ym musnes ei dad. Chwaraeai ar yr asgell dros Gaerdydd, gan ddechrau yn 1887. Bu'n cynrychioli Cymru wyth o weithiau yn 1893 a 1894; ei ddiwrnod mawr oedd hwnnw yn Edinburgh yn 1893, pan fu ei gyflymdra a'i fedr yn foddion i ennill y fuddugoliaeth gyntaf i Gymru ar Sgotland, a chyda hi'r ' Goron Driphlyg ' am y tro cyntaf erioed. Ef oedd capten Caerdydd yn y blynyddoedd hynny, a thano ef y chwaraeodd E. Gwyn Nicholls gyntaf dros Gaerdydd. Heblaw chwarae dros Gaerdydd, bu Biggs yn chwarae dros Richmond, dros Brifysgol Caergrawnt, a thros y 'London Welsh.'

Aeth allan gyda 'Yeomanry' Morgannwg i'r rhyfel â'r Boëriaid, a daeth yn gapten. Wedi'r rhyfel, aeth i Nigeria yn swyddog yn yr heddlu milwrol; lladdwyd ef yno 27 Chwefror 1908.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.