Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BEYNON , WILLIAM ( 1884? - 1932 ), paffiwr ; g. yn Port Talbot , a bu yn byw yn ddiweddarach yn Llangynwyd , Morgannwg . Bu Beynon yn paffio yn gyson o 1912 hyd 1918 , ac yn ystod y cyfnod hwnnw ymladdodd â'r paffwyr blaenaf yn Ewrop ac America . Ei gampwaith mwyaf oedd yn 1913 pan enillodd fuddugoliaeth yn erbyn ‘ Digger Stanley ’ am y teitl o bencampwr Prydeinig (‘bantam’) , a hefyd am y ‘ Lonsdale Belt .’ Yn ddiweddarach y flwyddyn honno enillodd Stanley y teitl yn ôl oddi wrth Beynon . Cafodd Beynon ei ladd gan gwymp yn y pwll glo yn y Bryn , ger Port Talbot , ar 20 Gorffennaf 1932 .

Llyfryddiaeth:

  • The Times , 21 Gorffennaf 1932 , 21 Mai 1934 ;
  • Western Mail , 21 Gorffennaf 1932 , 20 Mehefin 1950 (‘Former Welsh Boxing Champions, No. 11,’ gan Tudor James );
  • The Glamorgan Gazette , 25 Mai 1934 .

Awdur:

Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth