Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



BAKER , ELIZABETH ( c. 1720 - 1789 ), dyddiadures . Er nad oedd yn Gymraes — merch clerigwr yn byw yn rhywle yng nghanolbarth Lloegr oedd hi — treuliodd Elizabeth Baker gyfran mor helaeth o'i hoes yn sir Feirionnydd a daeth ei chysylltiad â phlasty a thylwyth Hengwrt , gerllaw Dolgellau , mor glos nes haeddu ohoni le yn y geiriadur hwn, yn arbennig felly ar gyfrif y dyddiadur a gadwodd. Wedi iddi hi, a phobl o'r enw Ralph Lodge , Mrs. Gilbert , a Mrs. Rawlins , gael patent yn caniatáu iddynt chwilio am feteloedd ar rai o diroedd y Goron rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn , gadawodd Elizabeth Baker Loegr 25 Gorffennaf 1770 gyda'r amcan o gario'r gwaith ymlaen. Siomiant mawr fu ei hantur, ac ni chafodd hi fawr o gymorth ychwaith gan ei phartneriaid. Gorfu iddi hi, felly, ddyfod yn fath o ysgrifenyddes , o 1771 hyd 1778 , i Hugh Vaughan , Hengwrt [gor-or-ŵyr i Robert Vaughan, yr hynafiaethydd , a oedd mewn helynt ar ôl helynt ariannol ac yn gorfod dioddef bygwth colli ei gartref a'i eiddo.

Tua diwedd y flwyddyn 1778 symudodd Miss Baker i Doluwcheogryd , plasty llai na Hengwrt ond yn ei ymyl; yno llwyddodd am gryn amser i ddal y ty rhag bygythion ac ymosodiadau is-siryfion a beilïau; llwyddodd y rheini yn y pen draw, fodd bynnag, a bu Elizabeth Baker yn byw yn Bryn Adda , ty sydd yr ochr arall i'r dyffryn, hyd nes y symudodd i dref Dolgellau ar 26 Ebrill 1784 . Rhydd ei hanes yn ei dyddiadur — Pen. MS. 416 (mewn 10 cyfrol) yn y Llyfrgell Genedlaethol . Ceir detholion ohono (wedi eu gwneuthur gan Syr Ben Bowen Thomas ) yn Cylchgrawn Ll.G.C. , iii, 81-101; o ddarllen y detholion hynny fe welir gymaint o olau a deflir ganddynt ar hanes lleol (pethau a phersonau) nid yn unig yn sir Feirionnydd ond mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru . Claddwyd hi ym mynwent eglwys Dolgellau 26 Tachwedd 1789 .

Llyfryddiaeth:

  • At y cyfeiriadau a roddwyd uchod ychwaneger dogfennau Nannau a Hengwrt yn C.P.C. Bangor;
  • B. B. Thomas , The Old Order based on the diary of Elizabeth Baker (Dolgelley, 1778 - 1786) , Caerdydd, 1945 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth