YOUNG
,
THOMAS
(
1507
-
1568
),
archesgob Caerefrog
;
g. yn
Hodgeston
,
sir Benfro
. Aeth i
Neuadd Broadgates
(
Coleg Pembroke
heddiw),
Rhydychen
, lle y graddiodd
B.A.
14 Mehefin
1529
,
M.A.
ar
19 Mawrth 1553
,
B.C.L.
ar
17 Chwefror 1538
, a
D.C.L.
ar
13 Chwefror 1566
, a daeth yn
bennaeth ei neuadd
,
1542-6
. Gwnaed ef yn
ficer
Llanfihangel Castell Gwallter
(
Genau'r Glyn
),
Ceredigion
, yn
1541
,
rheithor
Hodgeston
a
Nash
,
1542
,
prebendari
Trallwng
,
1545
, a
Thregaron
,
1560
. Wedi ei ddewis yn
gantor Tyddewi
yn
1542
, daeth yno i breswylio yn
1547
, a bu'n un o arweinyddion y blaid a wrthwynebodd
Ferrar
[q.v.]
. Dywedir iddo ffoi i'r
Cyfandir
yn ystod teyrnasiad
Mari
, ond ni ellir olrhain ei alltudiaeth ymhlith cofnodion Cyfandirol. Yn
1559
, bu'n un o
ymwelwyr brenhinol esgobaethau Cymru
, ac etholwyd ef yn
esgob
Tyddewi
,
6 Rhagfyr 1559
. Ar sail cymeradwyaeth
Parker
etholwyd ef yn
archesgob
Caerefrog
,
27 Ionawr 1561
. Fel
archesgob
a
llywydd cyngor y Gogledd
, bu'n
flaenllaw yn hyrwyddo trefniant crefyddol
Elisabeth
, ond cafodd ei feirniadu am gamddefnyddio eiddo tymhorol ei esgobaeth. Bu f.
26 Mehefin 1568
, a chladdwyd ef yn
eglwys gadeiriol Caerefrog
. Priododd (1) â merch
George
Constantine
, a (2) â
Jane
Kynaston
,
Estwick, Staffs.
, a ddug iddo un mab,
Syr
George
Young
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
Calendar of State Papers, Domestic
Series
, Record Publication
a
Calendar of…State Papers…relating to the
negotiations between England and Spain
. Record
Publication, 1862 ff
;
-
Foxe
,
Acts and Monuments of these latter and
perilous days
, 1563, etc
;
-
Garrett
,
The Marian Exiles, a study of the origins of
Elizabethan Puritanism
, 1938
;
-
Le Neve
,
Fasti Ecclesiae Anglicanae
(diwyg. ) , 1854
;
-
Wood
,
Athenae Oxonienses
, 1813–20
;
-
E. Yardley
,
Menevia Sacra. Arch. Camb.
, Supplement,
1927
.
Awdur:
Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe