Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



YOUNG , GRUFFYDD ( c. 1370 - c. 1435 ), esgob, a phleidydd Owain Glyndŵr . Fe'i ganed yn anghyfreithlon. Enillodd ffafr Anne o Bohemia , brenhines Richard II ( Cal. Pap. Letters , iv, 445; v, 239) a rhwng 1391 a 1403 yr oedd yn dal amryw fywiolaethau yn esgobaethau Bangor a ThyddewiLlanynys , Llanbadarn Fawr , a phrebendau Garthbrengi , Boughrood , Llanbedr-pont-Steffan , Bangor ( Cal. Pat. Rolls , 1388-92 , 355; ibid., 1391-6 , 16; Cal. Pap. Letters , v, 239, 412, 521); daeth hefyd yn ‘ Vicar-Generalesgobaeth Tyddewi , Regg. St. Davids , 18-22) ac yn archddiacon Meirionnydd ( B. Willis , Bangor , 140). Tua'r flwyddyn 1403 ymunodd â phlaid Glyndŵr gan ddyfod yn ganghellor iddo, ac yr oedd ym Mharis yn 1404 gyda John Trevor [q.v.] yn trefnu cytundeb o gynghreiriaeth â Charles VI . Efe, y mae'n debyg, a oedd yn gyfrifol am ‘ bolisi Pennal ’; yn ôl hwnnw yr oedd Glyndŵr yn cytuno i drosglwyddo gwrogaeth Eglwys Cymru o Rufain i'r pab Benedict XIII yn Avignon ( Lloyd Owen Glendower , 121-2). Ym mis Chwefror 1407 cafodd esgobaeth Bangor , o bosibl oherwydd iddo gynllwynio yn erbyn yr esgob Lewis Byford . Ym mis Ebrill yr un flwyddyn trosglwyddwyd ef i Dyddewi —yr esgobaeth y golygai ‘ polisi Pennal ’ iddi fod yn fam-esgobaeth Cymru . Erbyn 1408 yr oedd gallu Glyndŵr yn edwino, a serch i Young gadw mewn cysylltiad ag ef hyd y diwedd, rhoes heibio bleidio polisi pabaeth Avignon pan drefnodd cyngor Constance ddyfod â'r sism i ben gydag ethol y pab Martin V yn 1417 . Cafodd ei ethol yn esgob Ross gan Martin yn 1418 eithr ni bu erioed mewn gofal cyfan gwbl yn yr esgobaeth honno ac yn 1423 symudwyd ef i esgobaeth Hippo ‘ in partibus infidelium ’ a chaniatáu iddo ddal rhai bywiolaethau ‘in commendam’ yn archesgobaethau Rheims a Tours . Yr oedd yn parhau i'w alw ei hun yn esgob Ross yn 1430 ac yr oedd yn fyw yn 1432 .

Llyfryddiaeth:

  • J. R. Gabriel , ‘Wales and the Avignonese Papacy,’ yn Archaeologia Cambrensis , 1923 ;
  • J. E. Lloyd , Owen Glendower / Owen Glyn Dwr , 1931 ;
  • T. Matthews , Welsh Records in Paris , Caerfyrddin, 1910 , 123-6.

Awdur:

Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor