YORKE
,
PHILIP
(
1743
-
1804
),
Erddig
(neu
Erthig
),
Wrecsam
,
hynafiaethydd
,
mab hynaf
Simon
Yorke
(bu f.
1767
), ŵyr
Simon
Yorke
,
Dover
,
groser cyfanwerthol
, a chefnder i'r
arglwydd-ganghellor
Hardwicke
; g.
29 Gorffennaf 1743
yn
Erthig
, a etifeddasid gan
Simon
(
1732
) oddi wrth ei ewythr,
John
Meller
, a brynasai'r stad ar ôl i
Josua
Edisbury
[q.v.]
fynd yn fethdalwr. Yr oedd yn fab-bedydd
Hardwicke
. Wedi iddo fod mewn ysgolion paratoawl yn ymyl
Llundain
(
1758-9
), treuliodd dri thymor yn
Ysgol Eton
(
1759-60
); bu wedyn gartref am ychydig amser cyn treulio dau dymor yn
Benet College
,
Caergrawnt
(
Coleg Corpus Christi
yn awr) o
10 Ebrill 1762
ymlaen, a myned ymlaen i
Lincoln's Inn
(
1764
). Graddiodd yn
M.A.
‘per literas regias’ yn
1765
a dyfod yn ôl i
Gymru
gyda
diddordeb cryf yn y clasuron
(
Virgil
yn arbennig) ac atyniad tuag at
hynafiaethau
— etholwyd ef yn
F.S.A.
yn
1768
. Ychydig o flas a oedd ganddo ar ddiddordebau a phleserau ffasiynol ei oes. Pan etifeddodd y stad, y flwyddyn flaenorol, dangosodd ei fod yn
feistr tir
goleuedig; defnyddiodd ei incwm o £7,000 y flwyddyn i
brydferthu'r plasty a'r tir o'i amgylch
, i brynu ychwaneg o diroedd yn agos i'w stad ei hun, i
ddatblygu gweithiau mwynau
, ac i
amaethu mewn dull gwyddonol
. Cymerth ei le mewn bywyd cymdeithasol a
llywodraeth leol
, a bu yn y
Senedd
ddwywaith dros fwrdeisdrefi ‘poced’ yn
Lloegr
. Eithr oblegid fod ei ddechreuadau a'i addysg yn
Seisnig
a'i wraig gyntaf heb fod yn
Gymraes
, ychydig o ddiddordeb a gymerai yng ngwlad ei enedigaeth hyd nes iddo, yn
1782
, briodi â
Diana
, merch
Piers
Wyn
,
Dyffryn Aled
, a gweddw
R. O.
Meyrick
. Gan ddechrau ‘
with no great respect for the mountain Welsh great or small
’ (
‘
Nimrod
’
), a hoffai ei wraig yn fwy ‘
when the Welshwoman is not predominant
’ (
Cust
,
Chronicles of Erthig …
ii, 251, 261), datblygodd ddiddordeb hynafiaethydd yn ei disgyniad hi o
Farchudd
,
arglwydd Uwchdulas
, nes iddo, erbyn
1795
, ‘come to think the race of Cadwallon more glorious that the breed of Gimcrack’; y flwyddyn honno argraffwyd drosto, gan
Richard
Marsh
,
Wrecsam
,
Tracts of Powys
, gwaith wedi ei gyflwyno i
Thomas
Pennant
[q.v.]
ac yn seiliedig ar yr ychydig ffynonellau printiedig a oedd at ei wasanaeth ac ar lythyrau a fu rhyngddo â
Walter
Davies
(‘
Gwallter Mechain
’ [q.v.]
ac ysgolheigion eraill; y mae'r gyfrol yn cynnwys hanes disgynyddion
Bleddyn ap Cynfyn
[q.v.]
, gwrthateb i feirniadaeth
Polydore
Virgil
ar yr hen
Frythoniaid
,
nodiadau ar arglwyddiaethau'r Goron
ym
Mhowys
, a rhai llythyrau gan
Goronwy
Owen
[q.v.]
a
Lewis
Morris
(‘
Llewelyn Ddu o Fôn
)’ [q.v.]
. Helaethwyd y gwaith hwn a datblygodd nes ffurfio'r gwaith clasurol hwnnw
Royal Tribes of Wales
, a argraffwyd,
1799
gan
John
Painter
,
Wrecsam
. Rhoes fynegiant hefyd i'w
ddiddordeb mewn achyddiaeth ac arf-beisiau
trwy beri paentio a dodi yng nghyntedd blaen ei dŷ arf-beisiau prif deuluoedd
Gogledd Cymru
, eithr llesteiriwyd gan ei farwolaeth (
19 Mawrth
1804
) ei fwriad o baratoi gwaith ar y Pymtheg Llwyth Cyffredin a oedd i ddilyn ei
Royal Tribes
. Claddwyd ef ym
Marchwiel
; ysgrifennodd
‘
Nimrod
’
fel hyn amdano — ‘
the worst horseman I ever saw in a saddle
,’ a ‘
one of the worst-dressed men in the country
,’ eithr ychwanegodd ei fod heb ei ail fel cydymaith, ymddiddanwr, ac
adroddwr straeon
; llwyddodd hefyd i raddau fel
actiwr
yn
chwaraedy Wynnstay
. Y mae teuluoedd
Yorke
(
Erthig
) a
Wynn-Yorke
(
Dyffryn Aled
) yn ddisgynyddion o'i ddwy briodas.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
A. L. Cust
,
Chronicles of Erthig on the Dyke
,
Llundain, 1914
;
-
A. N. Palmer
,
History of the thirteen country townships of
the old parish of Wrexham, and of the townships of Burras
Riffri, Erlas, & Erddig Being the fifth and last part
of "A history of the town and parish of Wrexham"
,
1903
, 236-42;
-
J. E. Griffith
,
Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire
Families
, 1914
, 167, 327;
-
‘Nimrod’ (
C. J. Apperley
),
My Life and Times
, 1927
;
-
T. Pennant
,
A Tour (Tours) in [North] Wales
, 1773.
1778, etc
(arg.
1883
), i, 374-5;
-
Philip Yorke
,
The Royal Tribes of Wales
, Llundain /
Wrecsam, 1799
(arg.
1887
), rhagymadrodd bywgraffyddol gan
R. Williams
.
Awdur:
Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor