WYNN, WILLIAM (1709 - 1760), clerigwr, hynafiaethydd, a bardd

Enw: William Wynn
Dyddiad geni: 1709
Dyddiad marw: 1760
Rhiant: Margaret Wynn (née Lloyd)
Rhiant: William Wynn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, hynafiaethydd, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Robert Gwilym Hughes

Roedd ei dad, William Wynn, Maesyneuadd, plwyf Llandecwyn, Meirionnydd (gweler yr ysgrif ar y teulu), yn uchel-siryf (1714), a'i fam Margaret, merch ac aeres Roger Lloyd o Ragad, yn perthyn i deuluoedd hynafol eraill, megis Nannau, a Helygen yn Nhegeingl. Ymaelododd Wynn yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 14 Mawrth 1727, a graddio'n B.A. 12 Hydref 1730, ac yn M.A. 15 Gorffennaf 1735. Trwyddedwyd ef 22 Medi 1734 yn ddiacon yn Watlington gerllaw Rhydychen, a symudodd i Lanbrynmair wedi ei benodi'n ficer y plwyf hwnnw 9 Mehefin 1739. Bu ymryson rhyngddo â Howel Harris yn Llanbrynmair Tachwedd, 1740. Priododd â Martha Roberts, Rhydonnen, Llandysilio gerllaw Dinbych, 6 Awst 1742. Bu iddynt blant a chyfeirir atynt gan Wynn (Panton MS. 58 (185)) a chan William Morris (Morris Letters, ii, t. 168); ymaelododd ei fab Robert yng Ngholeg Iesu (31 Mawrth 1762) a chladdwyd ei ferch, Margaret, yn Llanbrynmair (12 Mawrth 1747). Derbyniodd Wynn reithoraeth Manafon 15 Mawrth 1747 gan gartrefu yn Aberriw. Ychwanegwyd bywoliaeth Llangynhafal iddo at Manafon 28 Ebrill 1749, ac yn Llangynhafal y bu farw 18 Ionawr 1760, ac y claddwyd ef 28 Ionawr. Ymddiddorai mewn hynafiaethau a llenyddiaeth Gymraeg, gan ohebu â'i gyfeillion yng nghylch y Morrisiaid yn bennaf ar y pynciau hyn, yng ngolau MSS. a gasglodd ac y gwnaeth gopïau ohonynt. Canodd ychydig gywyddau, cerddi, carolau ac englynion, ar destunau arferol ei gylch a'i gyfnod. Ac er nad oedd iddo fawredd Goronwy Owen na Lewis Morris, eto, trwy ei ddysg Gymraeg, a'i waith yn casglu MSS., a thrwy ei lythyrau a'i ganeuon, bu iddo yntau ei ran yng nghylch y Morrisiaid mewn cloddio at sylfeini'r traddodiad Cymraeg a esgeuluswyd yn y ddwy ganrif flaenorol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.