WYNN, PRYSE, a CORBET (TEULUOEDD), Ynysmaengwyn, a GWYN a NANNEY (TEULUOEDD), Dolau Gwyn, Sir Feirionnydd.

Dyma deulu arall yn hawlio disgyn Osbwrn Wyddel. Bu i Kenric (Cynwrig), mab Osbwrn, fab o'r enw LLEWELYN, a briododd Nest, ferch ac aeres Gruffydd ab Adda, Dôl Goch ac Ynysmaengwyn. Disgynyddion Llewelyn a Nest yn y llinell uniongyrchol (sef y rheini y mae a fynno'r erthygl hon â hwy) oedd GRUFFYDD, EINION (a briododd Tanglwst, ferch Rhydderch ap Ieuan Llwyd , Gogerddan, Ceredigion), IORWERTH (yn fyw yn 1425), a JENKIN AB IORWERTH. Yr oedd Jenkin ab Iorwerth yn ' ffermiwr ' (h.y. prydleswr ar ran y Goron) melinau Cyfyng a Chaethle a fferri Aberdyfi yn y 36 flwydd o deyrnasiad y brenin Harri VI.

Bu HOWEL AP JENKIN AB IORWERTH farw o'r pla yn 1494. Dilynwyd ef gan ei fab, HUMPHREY (bu farw 1545); ei fam ef oedd Mary, ferch Syr Roger Kynaston, cwnstabl castell Harlech. Gwraig Humphrey oedd Annes, ferch Syr Richard Herbert, Trefaldwyn, a'i aer JOHN WYNN AB HUMPHREY, a briododd ferch Rhys Vaughan, Corsygedol, ac a ddilynwyd gan ei fab HUMPHREY WYNN (yn fyw yn 1571). Anfonwyd i Humphrey Wynn gywydd gan Siôn Phylip yn gofyn iddo roddi telyn rawn i Siôn ap Richard, Pennal. Priododd Humphrey â Jane (Hughes, Maes y Pandy) a gadael dwy ferch yn gyd-aeresau - (1) ELIZABETH (bu farw 17 Mai 1642), a briododd â Syr JAMES PRYSE Gogerddan (bu yntau farw yn 1642), a (2) CATHERINE, a ddaeth yn wraig John Owen ap John ap Lewis ab Owen, Llwyn, Dolgellau. Canodd Siôn Cain gywydd i 'Syr Siams Prys marchog, o ynys y maengwyn,' yn 1633 (Peniarth MS 116 ); ceir hefyd gywydd gan Richard Phylip 'I Syr Siams Prys o ynis y maengwyn i ofyn kledde a dagar dros Sion Huwes o faes y pandy' (gweler yr erthygl ar 'Phylipiaid Ardudwy ' yn Y Cymmrodor, xlii). Bu Syr James yn siryf Meirionnydd yn 1606 a 1619.

Aer Elizabeth a Syr James Pryse oedd eu merch BRIDGET a briododd (1) â ROBERT CORBET, trydydd mab Syr Vincent Corbet, Moreton Corbet, Sir Amwythig; a (2) â Syr Walter Lloyd, Llanfair Clydogau, Sir Aberteifi. Dilynwyd Bridget a Robert Corbet gan eu mab VINCENT CORBET (bu farw 1723), siryf Meirionnydd yn 1682. Priododd ef ag Ann, ferch William Vaughan, Corsygedol a gadawodd bedair merch yn gyd-aeresau - (1) ANN, a briododd ag ATHELSTAN OWEN, Rhiwsaeson, Sir Drefaldwyn - trwyddynt hwy y cariwyd llinach Ynysmaengwyn ymlaen; (2) Jane; (3) Elizabeth; a (4) Rachel. Ni bu i Corbet Owen a Richard Owen, meibion Ann ac Athelstan Owen, etifeddion, ond dygwyd y llinach ymlaen gan eu chwaer ANN OWEN (bu farw 1767) a'i gŵr, PRYSE MAURICE (1699 - 1799), Lloran Ucha, etc., a fabwysiadodd y cyfenw CORBET, megis y gwnaeth eraill a'i dilynodd - yr olaf oedd ATHELSTAN JOHN SODEN CORBET (ganwyd 1850), siryf Meirionnydd yn 1875.

Dywedir bod gan y VINCENT CORBET a fu farw yn 1723 fab, Thomas Vincent, gweler yr ysgrif ' Vincent.' Dylid archwilio'r hanes am ei ddietifeddu. Yr unig ' Thomas Vincent ' a restrir yn Foster Alumni, sydd a'i ddyddiadau yn cyfateb, yw Thomas Vincent, mab Thomas 'of Merioneth (town)' - hwyrach gwall am 'Merioneth (Towyn)'. Ymaelododd hwn yn S. Mary Hall, 16 Ebrill 1698 yn 19 oed, a graddiodd yn B.A. yn 1701. A disgrifir ef fel ' pauper puer '.

Prynwyd stad Ynysmaengwyn yn 1874 gan John Corbett, Impney, aelod seneddol dros Droitwich. Nid oedd, fodd bynnag, unrhyw berthynas rhwng y Corbett hwn a'r lleill. Am nodyn ar y tŷ gweler Archæologia Cambrensis, xcvii, 230.

Yr oedd cysylltiad rhwng Ynysmaengwyn â Dolau Gwyn, tŷ ar ochr y ffordd sydd yn arwain o Dywyn i Abergynolwyn. Adeiladwyd Dolau Gwyn cyn 1620 gan LEWIS GWYN (bu farw 1630), siryf Meirionnydd yn 1617. Ail fab oedd Lewis Gwyn, Dolau Gwyn, i John Wynn ap Humphrey, Ynysmaengwyn (uchod); yr oedd felly'n frawd i'r Humphrey Wynn y canodd Siôn Phylip gywydd iddo. Bu Lewis Gwyn yn briod ddwywaith - (1) â Jane, ferch Hugh Nanney, Nannau, a chael Gwen (isod) ac Elizabeth, a briododd Edward (?) Nanney, Nannau, a (2) ag Annes, ferch Hugh Gwyn ab Evan, Llwyn Griffri, Llanddwywe, a chael ohoni bedair merch - daeth un o'r rhain yn gyd-aeres maes o law.

Yr oedd Lewis Gwyn yn noddwr beirdd. Ysgrifennodd Richard Phylip ddau gywydd i ryw lestr diod ('Fiol frech ” - ' ffiol oddfyn') a oedd yn Nolau Gwyn, cywydd ' i ofyn milgi llwyd gan John Vaughan o Gaergai dros Lewis Gwyn o'r Dolegwyn '; marwnadodd Richard Phylip dros Lewis Gwyn a thros ei ferch Gwen, gwraig gyntaf Lewis Lloyd, Rhiwedog. Bu hefyd 'ymryson' ynghylch Dolau Gwyn rhwng Richard Phylip, Gruffydd Hafren, Ieuan Tew, a Siôn Phylip. Canodd Gruffydd Phylip, mab Siôn Phylip, farwnad GRUFFYDD NANNEY, Dolau Gwyn. Mab oedd ef i Hugh Nanney (1588 - 1647), Nannau. Bu'n siryf Meirionnydd yn 1642. Priododd ef ag ANN GWYN, cyd-aeres Lewis Gwyn.

Y mae'r llythrennau a'r rhifau L.G.A.G. 1620 a G.N.A.N. 1656 i'w gweld eto yn Nolau Gwyn; cyfeirio y mae'r cyntaf at Lewis Gwyn a'i wraig Ann (Gwyn) a'r ail at Gruffydd Nanney ac Ann (Nanney).

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.