WYNNE, JOHN (1650 - 1714), anturwr diwydiannol

Enw: John Wynne
Dyddiad geni: 1650
Dyddiad marw: 1714
Priod: Jane Wynne (née Wynne)
Plentyn: Catherine Lloyd (née Wynne)
Rhiant: Elizabeth Wynne (née Salusbury)
Rhiant: John Wynne
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: anturwr diwydiannol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Teithio
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab Copa'rleni (y mae sawl ffurf ar yr enw; gweler Ellis Davies, Prehistoric and Roman Remains of Flintshire, 159-60; tŷ-fferm ' y Gop ' ydyw'r plas heddiw), Trelawnyd, Sir y Fflint. John Wynne hefyd oedd enw ei dad, ei daid, a'i hendaid; yr oedd yr hendaid yn fab i Edward ap John Wynne ap Robert ap Ieuan ap Cynwrig ap Ieuan ap Dafydd ap Cynwrig, o hil Edwin ap Gronw o Degeingl (Powys Fadog, iv 99, v 244, a mannau eraill; T. A. Glenn, Griffith of Garn, 77); yr oedd Copa'rleni ym meddiant Ieuan ap Dafydd ap Cynwrig yn 1441, a chlywir am ei fab Cynwrig yn 1467; yn oes Elisabeth y sadiodd y cyfenw ' Wynne,' a'r enw ' John ' ar yr aer; cyfreithwyr oedd rhes ohonynt. Tebyg mai taid y John y mae â fynnom ag ef oedd y John Wynne 'of Rhylofnoyd ' a ymaelododd yn Rhydychen o Goleg Iesu yn 1624, 'yn 17 oed' (Foster, Alumni Oxonienses), ac a briododd â Catherine Thelwall (Bathafarn); ac mai ei dad, priod Elizabeth Salusbury o Lewesog, oedd y gŵr a fu'n siryf Sir y Fflint yn 1677. Aeth y John Wynne sydd dan sylw yn awr i Goleg Iesu yn 1668, 'yn 18 oed'; ymaelododd hefyd yn Gray's Inn yn 1669. Priododd (1673) â Jane, ferch Robert Wynne o'r Foelas. Ond y gwir yw na wyddom ddim oll am fanylion ei yrfa, ar wahân i'r ffaith iddo yntau fod yn siryf y Fflint, yn 1695. Eto y mae'n ddyn diddorol iawn. Yn y lle cyntaf, yr oedd yn un o'r 'spirited proprietors.' Credai fod dyfodol i Drelawnyd fel canolfan gweithydd plwm, a cheisiodd droi'r dreflan (capelaeth ddistadl ym mhlwyf Diserth), nad oedd ynddi ond 10 o dai (Lhuyd, Parochialia, i, 59-61), yn dref ddiwydiannol. Cododd yno gryn nifer o dai, ac o 'adeiladau cyhoeddus gwychion,' ar ei draul ef ei hunan; sefydlodd ynddi farchnad wythnosol a ffair flynyddol, a chafodd ganiatâd gan lys esgob Llanelwy yn 1710 i'w hailenwi'n 'Newmarket' - 'gan fod yr hen enw'n ymrithio dan ddeuddeg a mwy o wahanol ffurfiau,' meddai ei ddeiseb (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, i, 408-10). Ysywaeth ni ffynnodd y gweithydd, ac ers tro mawr nid erys o freuddwyd Wynne ond yr enw 'Newmarket.' Drachefn, yr oedd Wynne yn Ymneilltuwr (y mae peth awgrym o gyswllt rhyngddo â Wrecsam), ac yn 1701 rhoes gapel Ymneilltuol i Drelawnyd - capel y bu Thomas Perrott yn weinidog arno; llaw James Owen yn bur sicr a welir yma. Saesneg oedd y capel, ac ar gyfer y gweithwyr estron y bwriadwyd ef, nid ar gyfer Cymry cynhwynol yr ardal; 30 oedd rhif y gwrandawyr pan gasglodd John Evans ei ystadegau, tua 1715. Edwinodd y gynulleidfa'n gyflym gyda'r gwaith plwm, a dilewyrch braidd oedd ei gweinidogion gan mwyaf. Erbyn tua 1793, nid oedd yno ond un aelod (hen wraig o Sgotland), ond yna ail gorfforwyd hi'n eglwys Gymraeg (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iv, 213-4). Yn olaf, credai John Wynne mewn addysg. Eisoes dywedir gan Lhuyd fod yn NNhrelawnydhrelawnyd ysgol elfennol, dan 'one Mr. Turner, an Anabaptist' a chynorthwywr, ac edrydd Lhuyd, fod ym mwriad Wynne agor 'mathematical school' hefyd. Gwelir ei gynllun yn llawn yn yr atodiad i'w ewyllys, a wnaethpwyd 17 Hydref 1713. Yr oedd ysgol ramadeg i'w sefydlu, i ddysgu Lladin a Groeg a Ffrangeg, a mathemateg a morwriaeth; ' Mr Thomas Parrott' i fod yn athro, gyda chynorthwywr; gweler y manylion yn llawn yn Adroddiad y Dirprwywyr Elusennau, 1815-39 ('Flints. ', 216-26), a'r hanes yn fwy cryno yn Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, loc. cit. Edwinodd yr ysgol hithau, a chamdriniwyd y gwaddol - a gwaddol elusennau eraill a adawodd Wynne i dlodion y plwyf. Bu John Wynne farw 31 Rhagfyr 1714, a chladdwyd yn y capel Ymneilltuol yn Nhrelawnyd. Enwir brawd iddo, Edward (a fu farw o'i flaen, gellid meddwl), a thair chwaer: Mary, Elizabeth (a briodwyd â John Hough o Gaer, yn 1700, gan y gweinidog Annibynnol enwog James Owen), a Catherine. Yn ôl Powys Fadog (iv, 298) a J. E. Griffith (Pedigrees, 299), yr oedd ganddo ferch ac aeres, Catherine, a briododd â John Lloyd o'r Rhagad yn Edeirnion; ond yn wyneb amlder yr enw ' John Wynne ' yn ach y teulu, dylid wynebu'r posibilrwydd mai chwaer, ac nid merch iddo, oedd y Catherine hon. Sut bynnag, hi oedd yr aeres. Os nad oedd y Dr. John Evans (neu'r Dr. Daniel Williams) wedi casglu ei ystadegau cyn marw John Wynne (ac y mae hynny'n berffaith bosibl), y mae'n rhaid fod Catherine hithau'n Annibynwraig, o leiaf ar yr adeg honno, oblegid dywed John Evans fod un aelod o gynulleidfa Trelawnyd 'yn werth £14-15,000,' ac ni buasai neb yno ond perchen Copa'rleni 'n werth hynny. Yn yr ymrafael ynglŷ'n â gwaddol elusennau Wynne, enwir rhyw ' Elizabeth Wynne ' a oedd wedi marw cyn 1764.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.