WYNN, GRIFFITH (1669? - 1736), 'offeiriad Llangadwaladr' a chyfieithydd

Enw: Griffith Wynn
Dyddiad geni: 1669?
Dyddiad marw: 1736
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'offeiriad Llangadwaladr' a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd c. 1669 - yr oedd yn 20 oed pan ymaelododd, 2 Gorffennaf 1689, ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Oriel, yn fab i Griffith Wynn, Mallwyd; graddiodd yn 1693. Fe'i coffeir oblegid iddo gyhoeddi cyfieithiad, Ystyriaethau o gyflwr dyn yn y bywyd hwn ac yn yr hwn sy i ddyfod , o un o weithiau Jeremy Taylor, sef Contemplations of the state of man in this life and in that which is to come. Argraffwyd y cyfieithiad yng Nghaer gan Roger Adams; nid oes ddyddiad wrth yr argraffiad cyntaf (bu dau argraffiad arall) eithr yn William Rowlands ('Gwilym Lleyn'), Llyfryddiaeth y Cymry, fe'i rhestrir o dan y flwyddyn 1724; awgrymir dyddiad diweddarach gan W. M. Myddelton (isod). Fe'i geilw'r cyfieithydd ei hun yn ' Offeiriad Llangadwaladr ' eithr curad-mewn-gofal ydoedd (dechreuodd ar ei waith yno rhwng 1713 a 1716); profir hynny (a) gan y ffaith na enwir mohono yn llyfr D. R. Thomas ar esgobaeth Llanelwy, a (b) gan gyfeiriad ato yn nodyn rhif 2701 yn W. M. Myddelton, Chirk Castle Accounts, 1666-1753 (Horncastle, 1931); yno dywedir i'r swm o 18s. 6d. gael ei dalu i ' Mr. Griffith Wynn, Clearke, in full of my late Master's subscription for 12 Welsh Books of his Translation.' Ar 22 Medi 1733 y bu'r talu, a Robert Myddelton (bu farw 1733) oedd ' my late Master ” - ystyr '12 Welsh Books' yw deuddeg copi. Y mae rhestr ddiddorol o danysgrifwyr yn nechrau'r gyfrol; ynddi ceir enwau ' Robert Middleton ' 'of Chirk Castle,' a 'Madam Middleton' o Groes-Newydd. Gadawodd Madam (Mary) Myddelton flwydd-dâl o £5 i Griffith Wynn yn ei hewyllys ond bu'r ' offeiriad ' farw o'i blaen hi; gwyddys i'w frawd, Roger Wynne, brofi ei ewyllys (yn Llanelwy) ar 12 Tachwedd 1736.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.