WYNN, EDWARD (1618 - 1669), canghellor eglwys gadeiriol Bangor

Enw: Edward Wynn
Dyddiad geni: 1618
Dyddiad marw: 1669
Priod: Sian Davies (née Prys)
Rhiant: Margaret Wynn (née Puleston)
Rhiant: Edward Wynn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: canghellor eglwys gadeiriol Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan David Jones

Ail fab Edward Wynn, Bodewryd - a'i wraig Margaret ferch Edward Puleston, person Llanynys; ganwyd 1 Hydref 1618. Ceir ei enw ar lyfrau Coleg Iesu yng Nghaergrawnt, 7 Mawrth 1636/7 - graddiodd yn B.A. 1640/1, M.A., 1647, a D.D., 1662. Bu'n gurad i'r Dr. John Davies, Mallwyd, cafodd fywoliaeth Llan-ym-Mawddwy, 5 Mehefin 1644, ar farwolaeth John Davies, a phriododd â'i weddw Jane, merch John ap Rhys Wyn. Yn ôl Moses Williams, gadawodd y Dr. John Davies ei wraig mewn amgylchiadau cysurus ond i'w hail ŵr afradloni ei chyfoeth a'i chamdrin hithau ar ben hynny. Cadarnhawyd ef yn Llan-ym-Mawddwy gan Bwyllgor Taenu'r Efengyl yng Nghymru, 27 Tachwedd 1649, ond yn 1650 bwriwyd ef allan am ryw afreoleidddra. Ymddengys iddo gael ei le yn ôl cyn 1654, ac erbyn Gorffennaf 1658 yr oedd ym Môn yn rheithor Llangeinwen a Llangaffo. Cafodd reithoraeth Llangybi a Llanarmon yn Sir Gaernarfon, 29 Mai 1662, hefyd, ac fe'i cadwodd hyd 1666, wedi ychwanegu rheithoraeth Llanllechid at y lleill, 18 Ebrill 1665. Yr oedd yn aelod o gonfocasiwn 1661-2, ac yn 1663 gwnaethpwyd ef yn ganon yn Llanelwy ac yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor. Bu farw 17 Rhagfyr 1669, a'i gladdu ar 23 Rhagfyr yn Llangaffo. Gadawodd £50 yn ei ewyllys at addurno eglwys gadeiriol Bangor, a £100 i sefydlu ysgoloriaeth yn ei hen goleg. Bu ei ail wraig, Sydney ferch Rowland White, Llanfaes (a briodasai 7 Ebrill 1657), farw yn 1670. Cyhoeddodd Edward Wynn lyfr o weddïau gwreiddiol, catecism, a detholiad o salmau cân, Trefn Ymarweddiad y gwir Gristion, neu Lwybr hyffordd i'r Cymro i rodio arno beunydd gŷd a'i Dduw (Llundain 1662) ar ei draul ei hun, a'i gyflwyno i'w blwyfolion yn Llangeinwen a Llangaffo. Cafwyd ail argraffiad ohono yn 1723-4. Y mae tuedd ddigon naturiol i'w gymysgu â'i or-nai enwocach, Edward Wynne (1681 - 1755), yr adroddir ei hanes yn yr ysgrif ar y teulu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.