WYNNE, SARAH EDITH ('Eos Cymru '; 1842 - 1897), y Gymraes gyntaf i ddod i sylw'r byd fel cantores

Enw: Sarah Edith Wynne
Ffugenw: Eos Cymru
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1897
Priod: Aviet Agabeg
Rhiant: Harriet Wynne
Rhiant: Robert Wynne
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: y Gymraes gyntaf i ddod i sylw'r byd fel cantores
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Panton Place, Holywell, Sir y Fflint, 11 Mawrth 1842, merch Robert a Harriet Wynne. (Ei henw yng nghofrestr y genedigaethau ydyw Sarah Wynne.) Amlygodd dalent arbennig fel cantores yn blentyn, ac ymunodd â chymdeithas gorawl Treffynnon yn 9 oed, a chanai mewn cyngherddau. Yn 12 oed aeth am daith trwy Gymru gyda Hulse, Bangor, a chanai alawon Cymreig yn y cyngherddau gyda chymeradwyaeth mawr. Yn 14 oed aeth i Lerpwl am addysg gerddorol at Mrs. Scarisbrook, ac arhosodd am bum mlynedd a hanner yno. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel cantores soprano yn Llundain yng nghyngerdd blynyddol Ellis Roberts ('Eos Meirion'), Mehefin 1862, a'r mis dilynol yn nau gyngerdd ' Pencerdd Gwalia ' - y cyntaf, yn y James's Hall, a'r ail yn y Palas Grisial. Ymsefydlodd yn y brifddinas a daeth yn un o gantoresau gorau'r wlad. Canodd yn 1862 yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, ac am wyth wythnos yn 1864 cymerodd ran ' Lady Mortimer ' yn Henry IV yn Drury Lane Theatre. Bu ar deithiau cerddorol yn 1863-5 gyda Madam Patey, Santley, ac Edward Lloyd, ac yn 1871 cafodd daith gerddorol lwyddiannus yn yr America. Bu am gwrs o addysg yn yr Eidal (e.e. yn Fflorens) o dan Romani a Vanncini. Cymerodd ran yng ngwyliau cerddorol y Plas Grisial, a'r Tri Chôr, a chanai ym mhrif gyngherddau y deyrnas. Yn 1874 anrhegwyd hi gan y ' London Welsh Choral Union ' â phen pres o waith y cerflunydd Cymreig, Joseph Edwards. Priododd, 1875, ag Aviet Agabeg, Armeniad, a bargyfreithwr. Yr oedd Kate Wynn-Mathuson yn chwaer iddi, ac yn gantores boblogaidd, a Llew Wynne, ysgrifennydd y ' Welsh Choral Union,' Lerpwl, yn frawd iddi (gweler Cerddor, Mai 1912). Gwnaeth ei hymddangosiad diwethaf yn James's Hall, 1874. Bu farw 24 Ionawr, 1897 a chladdwyd hi ym mynwent Hampstead, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.