WYNN (TEULU), Cesail Gyfarch, Penmorfa, Sir Gaernarfon.

Dyma deulu a gynhyrchodd rai pobl o bwys ac a gysylltwyd trwy briodasau ag amryw deuluoedd dylanwadol yng Ngogledd Cymru. Yr oedd MEREDYDD ab IFAN (bu farw 1525), Gwydir, Llanrwst, yn perthyn iddo; hawliai ddisgyn o Owain Gwynedd. Priododd ef (yn drydedd wraig) â Margaret, ferch Morris ap John ap Meredydd, Clenennau, Penmorfa; aer y briodas hon oedd HUMPHREY WYNN, Cesail Gyfarch. Gwraig HUMPHREY oedd Catherine, ferch ac aeres Evan ap Gruffydd, Cwmbowydd, Ffestiniog, a'r aer oedd JOHN WYNN AP HUMPHREY (claddwyd yn Ffestiniog), a briododd Catherine (claddwyd ym Mhenmorfa), ferch William Wynn ap William, Cochwillan. Aer John Wynn oedd ROBERT WYNN (bu farw 1637); priododd ef â Mary, ferch Ellis ap Cadwaladr, Ystumllyn, plwyf Ynyscynhaearn, a bu iddo wyth o blant ohoni - yn eu plith yr oedd JOHN WYNN (bu farw 1660), Ellis Wynn (bu farw 1660), cymrawd o Goleg y Drindod, Caergrawnt, Owen Wynn (bu farw 1675), a gafodd ei addysg yn Rhydychen ac a ddaeth yn fargyfreithiwr (o'r Inner Temple), Humphrey Wynn (bu farw 1664), ficer Croesoswallt a phennaeth yr ysgol ramadeg yn y dref honno, a Griffith Wynn, mab yr hwn, sef William, oedd gwr Ann (Evans), Tanybwlch, Maentwrog.

Priododd JOHN WYNN, aer Robert Wynn, â Jane (Lloyd), Dulassau, a daeth yn dad (a) ROBERT WYNNE (bu farw Ionawr 1685/6), yr aer, a (b) Margaret (1618 - 1679), a briododd Richard Humphreys, Hendre Gwenllian, Penrhyndeudraeth, a (c) dwy ferch arall. Yr oedd Robert Wynn yn fargyfreithiwr. Gadawodd ef Gesail Gyfarch i'w nai, Humphrey Humphreys, esgob Bangor a Henffordd wedi hynny, mab ei chwaer Margaret a Richard Humphreys. Priododd yr esgob Humphreys ag Elizabeth, ferch Robert Morgan, esgob Bangor, a chael ohoni ddwy ferch - (a) Ann (bu farw 1699/1700 (Calan Ionawr)) a (b) MARGARET (bu farw 1759). Priododd Margaret â John Lloyd, bargyfreithiwr, mab William Lloyd, esgob Norwich. Etifeddes Margaret a John Lloyd oedd ANNA LLOYD; bu hi farw'n ddibriod yn 1784, gan adael yr eiddo i frawd ei thad, sef y llyngesydd Lloyd, Tregaian, sir Fôn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.