WROTH, WILLIAM (1576 - 1641), clerigwr Piwritanaidd a chynullydd yr eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru

Enw: William Wroth
Dyddiad geni: 1576
Dyddiad marw: 1641
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Piwritanaidd a chynullydd yr eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn 1576, ond ni ddaeth sicrwydd byth ai un o Wroths Maindiff yn Llandeilo Pertholau ydoedd, ai aelod o deulu a wladychasai yn Llangadog-ger-Wysg. Aeth i Rydychen - cysylltir ei enw â thri o'r colegau (Christ Church, hyd yn oed) - a graddio'n M.A. o Goleg Iesu, 1605. Pa bryd yn hollol y daeth yn rheithor Llanfaches sydd dipyn o ddirgelwch, gan fod llawer i'w ddweud yn y Public Record Office dros 1611, a llawer hefyd dros 1617. Adroddir storïau rhamantus am ei dröedigaeth o fod yn glerig ysgafala segur i fod yn Biwritan ymroddedig; efallai mai 1630 oedd blwyddyn y trawsgyweiriad, ond nid oes brawf. Dywedir ei fod wedi gwrthod ufuddhau i'r ddeddf ynghylch chwaraeon ar y Sul; beth bynnag oedd y rheswm, gwysiwyd ef o flaen Llys yr Uchel Gomisiwn yn Hydref 1635, ac wedi llawer o ohirio, ateb, a gwrthateb, y diwedd oedd i Wroth ymostwng yn 1638; y theori fwyaf tebygol yw iddo roddi i fyny reithoraeth Llanfaches y flwyddyn honno, canys disgrifia ei hun yn ei ewyllys olaf (17 Medi 1638) fel ' Preacher of God's Word ' ac nid ' rector of Llanfaches.' Diddorol y tu hwnt yw'r ewyllys honno, gyda'r dymuniad i Henry Walter fod yn ysgutor, enwau'r pum tyst, a'r tair erw o dir a gymynai fel cardod i dlodion Llanfaches dros byth. Rhaid yw credu ei fod yn brysur yn y cyfwng hwn yn casglu aelodau i ffurfio eglwys Annibynnol y tu allan i'r eglwys blwyf, ' leading away many simple people,' canys ym mis Tachwedd 1639 daeth Henry Jessey, y pregethwr Piwritanaidd enwog ac Annibynnwr ar y pryd, i lawr o Lundain i ffurfio'r unigolion a gasglwyd yn eglwys reolaidd ar batrwm y 'New England Way,' ffordd gymedrol led-Bresbyteraidd o ymwahanu oddi wrth eglwys Loegr. Ffurfio eglwys, nid codi capel; eglwys gymysg, ond odid, o Fedyddwyr ac Annibynwyr. Buchedd ddilychwin, pregethu efengylaidd, ei swydd fel gweinidog cyntaf yr eglwys gyntaf o Ymneilltuwyr yng Nghymru : o deimlo'r nerthoedd hyn, geilw un cyfoeswr ef apostol, a Llanfaches yn Antiochia yng nghanol cenhedloedd, a Wroth yn faen tynnu i Biwritaniaid y siroedd cyfagos. Sonia'r ' Broadmead Records ' am ei fynych ymweliadau i bregethu ym Mryste. Y 'Records' hefyd sy'n tystio y dymunai Wroth gael myned o'r byd cyn i drwmp rhyfel seinio yn y wlad. Cafodd ei ddymuniad; profwyd ei ewyllys yn Llandaf ym mis Ebrill 1641.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.