Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILSON , RICHARD ( 1713 - 1782 ), arlunydd golygfeydd natur ; g. Awst 1713 ym Mhenegoes gerllaw Machynlleth , trydydd mab y Parch. John Wilson — yr oedd ei fam yn aelod o deulu Wynne , Coed-llai , gerllaw'r Wyddgrug . Treuliodd ei fachgendod yn yr Wyddgrug lle y symudodd y tad i fod yn rheithor yn gynnar ar ôl geni'r bachgen. Anfonwyd ef i Lundain yn 1729 , gyda chymorth Syr George Wynne , ac yno cafodd ei addysgu i bortreadu lluniau personau . Llwyddodd i raddau helaeth yn y math hwn o arlunio ; yn 1748 paentiodd ddarlun yn cynnwys y tywysog Siôr (y brenin Siôr III wedi hynny) a'r dug York pan oeddent yn blant. Paentiodd hefyd yn y cyfnod hwn rai golygfeydd natur — e.e. dau i'w dodi yn y Foundling Hospital , Llundain , 1746 , a ‘ View of Dover ,’ y gwnaethpwyd ysgythriad ohono yn 1747 ; y mae yn Philadelphia ‘ View of Westminster Bridge ’ a arwyddwyd ganddo a'i ddyddio yn 1746 .

Yn 1750 aeth Wilson i Venice ac oddi yno yn 1751 , i Rufain , lle yr arhosodd am chwe mlynedd, gan fyned ar deithiau arlunio i Tivoli , bryniau Albano , ac arfordir Naples a'r cyffiniau. Pan oedd yn yr Eidal rhoes heibio wneuthur portreadau personau, a chanolbwyntio ar ddarluniau natur , gan ddilyn yn hynny gyngor a roes Vernet a Zuccarelli iddo. Yn 1757 gadawodd yr Eidal ac ymsefydlu yn Llundain . Dangoswyd darluniau natur o'i waith yn y Society of Artists , 1760-8 ; y cyntaf a'r mwyaf enwog oedd y ‘ Niobe ’ a wnaethpwyd i ddug Cumberland . Yn 1768 yr oedd yn un o'r aelodau a ffurfiodd y Royal Academi ; dewiswyd ef yn llyfrgellydd yr academi yn 1776 . Ymneilltuodd yn 1781 ac aeth i fyw yn Colomendy , gerllaw'r Wyddgrug , lle yr oedd ei frawd yn oruchwyliwr stad Catherine Jones perthynas iddynt. Bu f. 15 Mai 1782 a chladdwyd ef yn yr Wyddgrug .

Paentiodd Wilson amryw o'i brif wrthrychau fwy nag unwaith, a hynny'n ddigon diofal weithiau. Dioddefodd gan esgeulustod a pheth blinder yn ystod ei fywyd; erbyn heddiw, fodd bynnag, rhestrir ef ymhlith portreadwyr natur mawr y 18fed g. yn Ewrop . Ar ei orau y mae'n bencampwr dull (‘style’); fel darluniwr goleuni y mae'n dilyn yng nghamre Claude a Cuyp , a bu'n ysbrydoliaeth i Constable a Turner . Deuai ei ysbrydoliaeth ef ei hunan o ran yr hanner o'r Eidal ac o ran yr hanner arall o Gymru , ac felly medrodd ddangos yr ymdeimlad o ramant mewn fframwaith glasurol. Y mae enghreifftiau o'i waith ym mwyafrif prif gasgliadau cyhoeddus Ewrop ac America . Y mae'r darlun ohono a baentiwyd gan Mengs yn Rhufain yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru .

Llyfryddiaeth:

  • Wright , Some account of the life of Richard Wilson, Esq., R.A. with testimonies to his genius and memory, and remarks on his landscapes. To which are added, various observations respecting the pleasure and advantages to be derived from the study of nature and the fine arts , Llundain, 1824 , 1824 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Catalogue of Exhibition of Works by Richard Wilson , Hull, 1936 (Hull, 1936 );
  • Catalogue of an exhibition of pictures by Richard Wilson and his circle organized by the City Museum and Art Gallery , Birmingham, 1949 (Birmingham, 1948 );
  • Adrian Bury , Richard Wilson, R.A. The grand classic , Leigh-on-Sea, 1947 , 1947 ;
  • Constable , Richard Wilson , Llundain, 1950 , 1950 .

Awdur:

John Edward Horatio Steegman, M.A., (1899-1966), Caerdydd / Toronto, Canada

Atodiadau a chywiriadau:

WILSON , RICHARD ( Bywg. , 1022) Ar flaen yr ysgrif, doder: — Aelod o deulu Wilsoniaid Bwlch-y-llyn a'r Ffinnant , Trefeglwys ( Maldwyn ), un o hen deuluoedd Cymreig Arwystli . Yr oedd

HUGH WILSON , M.A. ( 1651 - 1687 ), ficer Trefeglwys ( 1674 ) a hefyd Llangurig ( 1676 ) yn fab i RICHARD (bu f. 1688 ) a Joanna (bu f. 1678 ) Wilson , Bwlch-y-llyn . Ymbriododd Hugh yn 1679 â Maria (bu f. 1688 ) gweddw William Lloyd , Maesbangor , Llanbadarn Fawr . Cawsant bump o blant: John ( 1680 ; gw. isod), Maria ( 1681 ), Margaretta ( 1683 ), Elizabeth ( 1684 ), ac Ursula ( 1687 ). Daeth Elizabeth ( 1684 - 1728 ) yn ail wraig i Syr John Pratt ( 1657 - 1725 ), ac yn fam i Charles Pratt ( 1714 - 1794 ), Arglwydd Camden ( 1765 ), a ddaeth yn 1786 yn iarll Camden ac yn arglwydd ganghellor — felly, yr oedd Richard Wilson yr arlunydd yn gefnder i Camden .


Ordeiniwyd JOHN WILSON (uchod; 1680 - 1728 ), mab Hugh , yn 1703 . Penodwyd ef yn rheithor Gwaunysgor ( 1709-11 ) ac wedyn yn ficer Penegoes (ger Machynlleth ), 1711-28 ; bu f. 31 Awst 1728 , a chladdwyd yn ei blwy genedigol, Trefeglwys , 4 Medi . Cafodd ef a'i wraig Alice bum mab ac un ferch. Daeth y ferch yn weinyddes i'r arglwyddes Sundon a oedd yn ‘lady of the bedchamber’ i'r frenhines . Richard , yr arlunydd , oedd y trydydd mab.

Llyfryddiaeth:

  • Rhestrau plwy Trefeglwys, yn Collections Historical and Archaeological relating to Montgomeryshire , 1902-4 , a'u gweld hefyd trwy hynawsedd y ficer;
  • R. Bennett , Methodistiaeth Trefeglwys, 1754-1814 , Llanidloes, 1932 ;
  • nodiadau llsgr. Syr John Edward Lloyd (yn Llyfrgell Coleg y Gogledd);
  • ymchwiliadau personol.

Awdur:

Iorwerth Cyfeiliog Peate, D.Sc., F.S.A., D.Litt., (1901-82), Sain Ffagan / Llandaf