Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , WILLIAM ( 1832 - 1900 ), meddyg anifeiliaid ; g. ym mhlwyf Cefn Meiriadog , ger Llanelwy , yn fab i William Williams , ac yn ŵyr i Thomas Williams , ‘ ffarier ’ o gryn enw. Aeth yntau i'r un alwedigaeth â'i daid, yn 17 oed, ond torrodd ei iechyd yn 20 oed ac aeth i Awstralia am dair blynedd. Wedyn, aeth i Dick's Veterinary College yn Edinburgh . Dechreuodd yn 1857 ar yrfa lwyddiannus iawn yn Bradford , ac yn 1866 penodwyd ef yn brifathro ei hen goleg; eithr tua 1871 sefydlodd y ‘ New Veterinary College ’ yn Edinburgh . Ystyrid ef yn awdurdod yn ei alwedigaeth: bu'n llywydd ( 1879-80 ) y R.C.V.S. ; a chyhoeddodd lyfrau safonol ar ei bwnc. Bu f. yn 1900 . Mab iddo, a aned yn Bradford yn 1860 , oedd

WILLIAM WILLIAMS ( 1860 - 1911 ), a astudiodd yng ngholeg ei dad ac ym Mharis , ac a fu'n athro ac wedyn ( 1900 ) yn brifathro yn y ‘ New Veterinary College ’; yn 1903 penodwyd ef yn feddyg i'r stablau brenhinol . Yn 1904 etholwyd ef i gadair meddygiaeth a llawfeddygiaeth anifeiliaid ym Mhrifysgol Lerpwl . Bu f. 7 Medi 1911 .

Llyfryddiaeth:

  • Eminent Welshmen , 1908 (ar W. Williams );
  • Who was who? (ar W. O. Williams ).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor