WILLIAMS, Syr CHARLES JAMES WATKIN (1828 - 1884), aelod seneddol a barnwr

Enw: Charles James Watkin Williams
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1884
Priod: Elizabeth Williams (née Lush)
Priod: Henrietta Williams (née Carey)
Rhiant: Lydia Sophia Williams (née Price)
Rhiant: Peter Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol a barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Meddygaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd 23 Medi 1828, mab hynaf Peter Williams, rheithor Llansannan (Llangar wedi hynny), a'i briod Lydia Sophia, merch James Price, Plas yn Llysfaen, sir Ddinbych. Bu yn ysgol Rhuthyn; cymerodd gwrs meddygol yn University College Hospital, Llundain, a bu'n feddyg yno am ysbaid. Wedi penderfynu myned yn fargyfreithiwr, aeth i S. Mary's Hall, Rhydychen, ond ni bu yno ond am amser byr; yn 1851 ymaelododd yn y Middle Temple. Galwyd ef at y Bar yn 1854 a gwnaed ef yn Q.C. yn 1873. Cyfyngodd ei hun yn bennaf i achosion ariannol a masnachol. Ym mis Tachwedd 1868 etholwyd ef yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros fwrdeisdrefi sir Ddinbych a daliodd y sedd honno hyd 1880, pan ddewiswyd ef yn aelod dros sir Gaernarfon. Ystyrid ef yn wleidyddwr egniol, ac yr oedd yn flaenllaw ynglyn â'r deffroad Rhyddfrydol Cymreig. Ym mis Mai 1870, yn Nhŷ'r Cyffredin, cyflwynodd benderfyniad o blaid datgysylltu yr Eglwys yng Nghymru, ond gwrthwynebwyd ef gan Gladstone. Yn 1880, yn fuan wedi ei ddewis yn aelod dros sir Gaernarfon, penodwyd ef yn farnwr yr uchel lys ac enillodd enw fel barnwr gofalus a dysgedig. Bu farw yn ddisyfyd 17 Gorffennaf 1884, a chladdwyd ef yn Kensal Green. Priododd (1), Henrietta, merch William Henry Carey; a (2), Elizabeth, merch yr arglwydd farnwr Lush. Yr oedd yn awdur amryw lyfrau ar y gyfraith, megis An Introduction to the Principles and Practice of Pleading in Civil Actions, The Philosophy of Evidence, The Law of Church Rates (pamffledyn).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.