Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , Syr TREVOR ( c. 1623 - 1692 ), Llangibby , sir Fynwy , gwleidyddwr , yn disgyn o briodas Howel Gam ap David ( fl. 1300 ) â merch i deulu Scudamore . Mabwysiadwyd y cyfenw'n gyntaf gan ei daid, Roger William (bu f. 1583 ), a oedd yn siryf sir Fynwy yn 1562 ac a ddilynwyd yn y swydd honno yn 1627 gan ei fab, Syr Charles Williams , tad Syr Trevor Williams ; bu Syr Charles Williams , a wnaethpwyd yn farchog yn 1621 , yn aelod seneddol y sir y flwyddyn honno hefyd eithr parodd afiechyd iddo fod yn ddi-ddefnydd fel aelod, a bu f. yn ystod sesiwn y Senedd ( Mawrth 1642 ). Gwnaethpwyd ei fab, Trevor , yn gomisiynwr cad-ddarpar yn sir Fynwy pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan ac yn farwnig ar 14 Medi 1642 . Cymerwyd ef yn garcharor gan y Rowndiaid yn Highnam ar 25 Mawrth 1643 , eithr wedi iddo gael ei ryddhau trefnodd warchodlu o 60 o ddynion i amddiffyn hen gastell Llangibby , a oedd heb gael ei ddefnyddio ers amser, ar ran y brenin ; bu iddo hefyd gymryd rhan yn yr hyn a oedd yn mynd ymlaen yn Nhrefynwy a'r cyffiniau yn 1644 . Gan ei fod yn denant i ieirll Pembroke [q.v.] yr oedd yntau â chyfran ganddo yn yr hen gweryl ac anghydfod â theulu Somerset [q.v.] ac yr oedd yn anfodlon iawn oblegid y ffafr a ddangosid gan y brenin i deulu Catholig — yn enwedig y comisiwn a roesid i iarll Glamorgan i ddyfod â milwyr Gwyddelig drosodd i Gymru , comisiwn y daeth y wybodaeth amdano yn hysbys erbyn mis Mehefin 1645 ; o'r herwydd bu Williams yn gwrthwynebu gwaith Syr Jacob Astley a fu'n ceisio, y mis Awst dilynol, gael gwŷr i ymladd ym myddin y brenin , a chymerwyd ef i'r ddalfa yn y Fenni ar 11 Hydref ar orchymyn y brenin. Cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach, wedi iddo ddarparu meichiafon, a phan ddigwyddodd hynny cymerodd feddiant o gastell Trefynwy a'i ddal yn erbyn y brenin ( 24 Hydref ), a bu'n helpu hefyd pan oeddid yn gwarchae ar gastell Raglan y flwyddyn ddilynol. Yn ystod yr ail Ryfel Cartrefol , gan ei fod yn cael ei ddychrynu braidd gan oruchafiaeth Cromwell a phenderfyniad Tŷ'r Cyffredin ( 7 Mawrth 1648 ) i roi i hwnnw faenorau teulu Somerset ym Morgannwg a Mynwy , yn eu plith rai Casgwent yn arbennig (y chwenychai ef eu cael iddo ei hun), cynorthwyodd Syr Nicholas Kemys i gymryd a dal castell Casgwent dros y brenin , ym mis Mawrth 1648 , hyd nes y cymerwyd ef dros Cromwell ar 25 Mai . Ar waethaf hyn rhoddwyd Williams ar y pwyllgor milisia lleol ar 12 Mai , eithr ni adawyd iddo gael manteisio ar y ‘ General Composition Act for South Wales ’ ( 23 Chwefror 1649 ). Er i'w stad gael ei chynnwys ymysg y rhai a oedd yn cael eu cymryd oddi ar eu perchenogion o dan gyfundrefn ‘sequestration,’ ni chymerwyd mohoni, gan iddo ennill yn ei apêl at farwniaid yr ‘exchequer’; yn wir prynodd ef ei hunan diroedd yng Nghaerdydd a Llaneurwg yn 1650 a gymerwyd oddi ar Frenhinwyr (o dan gynllun y ‘sequestration’ eto), ac ymheddychodd â'r ddiffynwriaeth gan fynd cyn belled ag ymwadu â'i deitl o farwnig am gyfnod ( 1657 ). Eithr ni chafodd yr un swydd gyhoeddus hyd at fin yr Adferiad — cyn i hynny ddigwydd gosodwyd ef ar bwyllgorau trethi a milisia ei sir ( Ionawr a Mawrth 1660 ), a bu'n cynrychioli bwrdeisdrefi'r sir yn Senedd y Confensiwn ym mis Ebrill.

Wedi'r Adferiad , cymerodd Williams bardwn o dan sel fawr y deyrnas. Ym mis Tachwedd 1667 llwyddodd i gael ei ddewis yn aelod seneddol dros sir Fynwy (yn erbyn gwrthwynebiad) mewn is-etholiad a achoswyd pan ddaeth aer Raglan yn ardalydd Worcester . Bu'n eistedd dros y bwrdeisdrefi yn Senedd 1679 ac wedi hynny dros y sir yn seneddau 1680 a 1681 . Oherwydd ei fod yn pleidio yr hyn a ddaeth i'w adnabod wrth yr enw ‘ Country Party ’ collodd (ym mis Chwefror 1680 ) ei swydd fel ustus heddwch yn sir Fynwy . Dialodd am hyn y mis Ionawr dilynol trwy uno â John Arnold [q.v.] i ofyn am gael symud iarll Worcester , a gyhuddid ganddynt o ddodi Pabyddion i fod yn warchodlu castell Casgwent , o lys y brenin ac o'r Cyfrin Gyngor ; gwrthateb Worcester (a oedd erbyn hyn yn ddug Beaufort ) ydoedd cael, ym mis Tachwedd 1683 , ddyfarniad o ‘scandalum magnatum’ yn ei erbyn, ynghyd â dirwy a'i tlododd yn fawr ac a barodd i'w yrfa wleidyddol gael ei dirwyn i ben. Pan fu Williams f. yn 1692 pasiodd y teitl (a chynrychiolaeth sir Fynwy yn y Senedd o 1698 hyd 1708 ) i'w ddau fab, y naill ar ôl y llall, o'i wraig Elizabeth , aeres Thomas Morgan , Machen (ei gyd- aelod seneddol dros y sir); eithr collwyd y teitl pan fu f. ei or-nai Syr Leonard Williams yn 1758 . Yr adeg honno aeth y stad, trwy briodas, i feddiant y teulu presennol, sef Addams-Williams , Llangibby .

Llyfryddiaeth:

  • Bradney , iii, 96-104;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , i, 47-9, vi, 255, a ffynonellau a enwir yno;
  • The Journals of the House of Commons , ii, 162, 489; v, 482, 566; ix, 531-609;
  • Thomas Carlyle , Oliver Cromwell's letters and speeches with elucidations , New York : John W. Lovell, 1849 (gol. Lomas ), i, 294, 315-7; ii, 253;
  • Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , 7th R., 498; 9th R., ii, 85-6, 112, 115-67; 12th R., ix, 68, 74, 99, 104, 114;
  • Calendar of the Committee for Compounding with Delinquents, etc., 1643–1660 . Record Publication , i, 533; iii, 2304; iv, 2947;
  • Firth a Rait , Acts and Ordinances of the Interregnum, 1642–1660 , 1911 , i, 970, 1087, 1136; ii, 15, 1374, 1437;
  • A Full Relation of the Desperate Design for the betraying of Monmouth , 1645 , 1645 ;
  • Two Letters from Colonell Morgan. Governor of Gloucester, … relating the summons, answer and the manner of taking the Town and Castle of Monmouth … Likewise two letters [signed, K. R.] from an officer in Monmouth, concerning the free comming in of the country to block up Hereford, etc , Llundain, 1645 , 1645 ;
  • Three Victories in Wales … and a coppy of the articles for the surrender of Rother castle to maior generall Mitton, etc. Certified by severall letters, etc , Llundain, 1646 , 1646 ;
  • The Gallant Siege of the Parliament's Forces before Ragland Castle maintained by Colonel Morgan, etc. [Two letters, signed M. P.] , Llundain, 1646 , 1646 ;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 126, 136.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor