WILLIAMS, THOMAS ('Gwilym Morganwg'; 1778 - 1835), bardd

Enw: Thomas Williams
Ffugenw: Gwilym Morganwg
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1835
Plentyn: Taliesin Williams
Rhiant: William Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas John Morgan

Ganwyd ym Melin Gallau, plwyf Llanddety, sir Frycheiniog, 20 Tachwedd 1778, mab William Thomas. Symudodd y teulu tua 1781 i fyw ym Melin Pontycapel, Cefncoedycymer. Dywed llythyr Taliesin ab Iolo iddo ddechrau gweithio tua saith oed mewn lefel lo a oedd gan ei dad. Ni ddywedir fawr am yr addysg fore a gafodd ond iddo ddechrau llenydda pan oedd yn llanc ifanc. Pan oedd tua 27 aeth i Lundain, ond rhyw chwe mis y bu yno. Pan ddychwelodd aeth i weithio o dan ofal Rhys, mab Hywel Rhys. Gellir casglu mai'r ddysg a dderbyniodd gan ei feistr a'i cymhwysodd ef i ysgrifennu (mewn cydweithrediad a'r Dr. Jenkins, Hengoed) y fersiwn cyntaf ar Y Parthsyllydd, 1815-6. Dywed Ioan Emlyn yn ei ragymadrodd i gyfrol gyntaf Y Parthsyllydd, 1870, iddo 'ddyfynu yn helaeth o'r hen Barthsyllydd, cydwaith yr enwogion hynny, Dr. Jenkins, Hengoed, a Mr. Thomas Williams (Gwilym Morgannwg); ac yn y rhagymadrodd i'r ail gyfrol (1875) dywed Spinther mai 'gair o'u bathiad hwy yw yr enw "Parthsyllydd".' Ni ddywed llythyr Taliesin ab Iolo pa bryd yn hollol y symudodd Gwilym Morganwg i Bontypridd i gadw tafarn, ond yr oedd yno yn 1813. Ceir copi yn Awen y Maen Chwyf, 17, o lythyr a ysgrifennodd yn Rhagfyr 1813 at gyhoeddwr Seren Gomer yn dymuno'n dda i'r cylchgrawn ac yn cynnig barddoniaeth i'w chyhoeddi yn y Seren. Bu farw ym Mhontypridd 13 Awst 1835, ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanfabon.

Dengys dwy gyfrol a gyhoeddwyd ym Merthyr, y gyntaf yn 1824 a'r ail yn, 1826 fywiogrwydd bywyd llenyddol y cylch yn chwarter cyntaf y ganrif, beth oedd nodweddion ac ansawdd y gweithgarwch llenyddol yma, a beth oedd pwysigrwydd Gwilym Morganwg, sef Llais Awen Gwent a Morganwg … a gyhoeddwyd gan J. Davies (Brychan), 1824; ac Awenyddion Morganwg, neu Farddoniaeth Cadair Merthyr Tudful ym mraint Cadair a Gorsedd Pendefigaeth Morganwg a Gwent … 1826. Yr oedd gwaith Gwilym Morgannwg eisoes wedi gweld golau dydd cyn hyn: ymhlith y cyfansoddiadau a gyflwynwyd i eisteddfod Caerfyrddin, 1819, ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach o dan y teitl Awen Dyfed (1822), cynhwyswyd ei awdl ef 'Ar farwolaeth y godidog flaenawr milwraidd, Syr Thomas Picton', hynny drwy ymyrraeth Iolo Morganwg, gan i Gwilym Morgannwg dorri rheolau'r gystadleuaeth drwy gynnwys ei enw (yn hytrach na ffugenw) ar waelod ei waith. Yn y portread o yrfa Picton, cyfeirir at y cyfnod a dreuliodd yn India'r Gorllewin, a hynny gan feio eraill, fe ymddengys, am yr anawsterau a ddaeth i'w ran ar ynys Trinidad ('Ai'r gwr glew i'r Gorllewin,/Trwy glod (er trallod) i'w trin,/Cadwodd ei glod hynod-wiw/Er twyllwyr, bradwyr, a briw'). Syndod yw gweld Iolo Morganwg yn cefnogi cerdd ar y testun hwn, a cherdd sy'n benodol yn glastwreiddio'r cyhuddiadau a wynebodd Picton am ei gamwri yn Trinidad. Gan adlewyrchu'r berthynas gadarnhaol a awgrymir gan y nawdd hwn, y mae'n amlwg fod syniadau Iolo, yn eu tro, yn fawr iawn eu dylanwad ar Gwilym Morgannwg, yntau. Ar tt. 7-8 o Llais Awen ceir can Gwilym Morgannwg, 'Heddwch', … ' ac a ddatganwyd yng Ngorsedd Morganwg ar y Maen Chwyf, ar yr ail Gyfadgyrch yn yr Alban Hefin, yn y flwyddyn 1814.' 'He and myself were initiated into the arcana of Druidism by my father,' medd ab Iolo, a geilw ef hefyd 'my only brother druid.' Yn y gyfrol arall adroddir hanes pedwaredd eisteddfod y gymdeithas gan Gwilym Morganwg, a gwelir ei fod yn un o'r beirniaid. Y peth diddorol yn ei feirniadaeth yw ei wrthwynebiad pendant i'r mesur diodl. Ar tt. 63-4, ceir hanes y bumed eisteddfod a gynhaliwyd ar ddydd 'Gwyl yr Alban Hefin, 1825.' Yn hon y gwobrwywyd awdl 'Gwilym Morganwg' ar y testun, 'Dinystr Castell Caerphili.' Dywed ab Iolo iddo ennill yn eisteddfod Caerdydd, 1834, am feddargraff i'w rhoi ar garreg fedd Iolo Morganwg, ac iddo adael tlws arian ar ei ôl a eniliodd am ganu gyda'r tannau. Cyhoeddwyd ei weithiau yn 1890, Awen y Maen Chwyf , ar draul ei fab Taliesin Williams. Prin yw gwerth barddonol y gyfrol, ond y mae ynddi rai pethau diddorol, megis 'cerddi etholiad'; ac nid yw'r cerddi serch ar fesurau alawol heb ryw gywreinrwydd a deheurwydd. Ond y mae ynddi un peth campus, sef y cywydd marwnad i Iolo Morganwg.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.