WILLIAMS
,
THOMAS
(‘
Twm Pedrog
’
1774
-
1814
),
bardd
;
g.
25 Mai 1774
, mab
Owen
Williams
,
amaethwr
a
thafarnwr
y ‘
Sign
,’
Llanbedrog
,
sir Gaernarfon
, a
Catherine
ei wraig — a'i fedyddio
3 Mehefin 1774
. Bu am gyfnod
ar y môr
— gw. ei ‘
Awdl i M.W.P. (B.B.) ac E.F., pan oedd y bardd ar y môr yn llong ei fawrhydi,
Amethyst
, 1800
’; yn ddiweddarach ymsefydlodd yn ei sir enedigol. Ceir llawer o'i waith yng nghyfrolau
Brython
(
Tremadog
) a cheir detholiad o'i awdlau, cywyddau, ac englynion wedi eu cynnull gan
John
Jones
(‘
Myrddin Fardd
’)
yn
Cynfeirdd Lleyn
,
1905
. Bu f. ym mis
Mai 1814
a chladdwyd ef ym mynwent
Ceidio
sir Gaernarfon
.
Llyfryddiaeth:
-
Eminent Welshmen
, 1908
;
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1014 (llythyr at
Ellis Owen
, Cefnymeusydd).
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth